Rhoi 'llais a hyder i gymuned Blaen-y-maes'

  • Cyhoeddwyd
Elisha Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elisha Hughes wedi sbarduno cynllun unigryw sy'n cysylltu'r brifysgol â'i chymuned hi ger Abertawe

Mae'n "gyfle i bontio y bylchau a chysylltu â phobl... a cheisio sicrhau bod y dyfodol yn well, er gwaethaf y rhwystrau".

Dyna eiriau Elisha Hughes, oedd yn 12 oed pan ddechreuodd wirfoddoli yng nghanolfan galw heibio Blaen-y-maes, oedd yn cael ei redeg gan ei mam.

Mae hi bellach yn gweithio fel swyddog ehangu mynediad gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac wedi sbarduno cynllun unigryw sy'n cysylltu'r brifysgol â'i chymuned hi ger Abertawe.

Bwriad y cynllun yw rhoi cyfle i fwy o bobl wireddu eu breuddwydion a darparu cyfleoedd i'r gymuned leol gymryd rhan mewn gweithgareddau teuluol a dysgu oedolion.

Hyd yn hyn mae'r prosiect wedi ymgysylltu â thros 60 o deuluoedd a 200 o aelodau'r gymuned.

'Pawb yn gallu gwireddu breuddwyd'

Wedi ei geni a'i magu ar stad dai cyngor enfawr Blaen-y-maes mae Elisha yn adnabod yr ardal a'r gymuned yn dda.

"Rwy' am ddangos i bobl eu bod nhw yn gallu gwneud rhywbeth, does dim gwahaniaeth o ble chi yn dod na be' chi'n 'neud," meddai.

"Mae'r gymuned hon wedi cael ergydion, ac mae yna stigma, ond rwy' am ddangos i blant a phawb eu bod yn gallu gwireddu eu breuddwydion."

Disgrifiad o’r llun,

Y dosbarth oedolion yng nghanolfan Blaen-y-maes

Mae'r gweithgareddau hyd yma wedi cynnwys sesiynau yn canolbwyntio ar lesiant, natur, y celfyddydau, rhifedd a llythrennedd, creu a magu hyder.

Eisoes mae pobl yr ardal yn dweud eu bod yn gweld gwerth i'r prosiect.

Un o'r rheiny yw Bethany sy'n byw ar y stad ac yn dod i'r dosbarth gyda ei merch fach Arwen.

"Ry' ni yn gwneud cardiau Nadolig fan hyn heddi. Mae y teulu yn cael hwyl yn dysgu pethau newydd.

"Mae y plant yn mwynhau y gweithgareddau creadigol. Rwy'n credu bod e'n bwysig iawn i'r gymuned, a chael pawb at ei gilydd, a mas o'r tŷ."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethany yn byw ar y stad ac yn dod i'r dosbarth gyda ei merch fach Arwen

Yn ogystal â chynnig cyfle i ddysgu sgiliau newydd i'r plant mae'r sesiynau yn lle da i'r teulu gwrdd a thrafod ac ystyried beth fydden nhw yn hoffi gwneud yn y dyfodol.

"Mae'n gyfle i fi siarad a rhieni eraill ac eistedd lawr a chael hwyl. Ond rwy' hefyd nawr yn ystyried para 'mla'n i siarad Cymraeg a dysgu mwy.

"Be' dwi am wneud yw mynd nôl a dysgu yr iaith eto gan bod fy mhlant yn yr ysgol Gymraeg."

'Creu y llun mwyaf hyfryd'

Un arall sy'n mynychu y sesiynau yw Nia Phillips: "Mae hwn yn helpu gyda iechyd meddwl fi, ac rwy'n gallu 'neud llwyth o bethe gyda mhlant i.

"Maen nhw'n 'neud lot fawr waith gyda phethe Nadolig fan hyn ar y funud. Yn bersonol, ma' dod mas a siarad â phobl a dod mas o'r tŷ mor bwysig i fi."

Mae Wendy Howells yn gwirfoddoli yn y ganolfan ac wedi bod ar rai o'r cyrsiau sydd wedi eu trefnu.

"Mae y lle ma' fel jig-so, yn llawn pobl o bob siâp a llun. Ond pan bo chi yn rhoi pawb at ei gilydd mae nhw yn creu y llun mwyaf hyfryd."

Annog cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol i ymgysylltu yw nod cynllun ehangu mynediad y brifysgol, ac mae'r swyddog ehangu mynediad Donna Williams yn annog unrhyw un i ddod i'r sesiynau i un ai gyfoethogi sgiliau sydd eisoes ganddynt neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd.

"Mae'n amser anodd i bobl ar y funud ers Covid ac ati gyda rhai pobl ddim ishe mynd mas o'r tŷ na g'neud pethe i wella eu bywydau," meddai.

"Ond ma'r camau bach a'r gweithgareddau bach ni yn 'neud yn eu cymuned nhw eu hunen yn helpu."

Ychwanegodd ei bod hi yn gweld newid cyson mewn pobl ar y cyrsiau fesul wythnos.

"Ni yn gweld nhw yn dod mas o'u hunen, yn cael mwy o hyder bob wythnos ac wedyn ma'n nhw'n gofyn, 'wel be allwn ni neud nesa'?'"

Rhoi rhywbeth yn ôl i'w chymuned hi ei hun a chymunedau eraill yw'r bwriad, yn ôl Elisha Hughes, wrth iddi helpu i drefnu'r bartneriaeth rhwng Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Gymuned Blaen-y-maes.

"Rwy' am sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed, a rhoi'r gymuned hon ar y map."