Plygain-iadur mis Ionawr

  • Cyhoeddwyd
Llanfyllin
Disgrifiad o’r llun,

Cantorion yn canu plygain yn Llanfyllin

Mae nifer o wasanaethau Plygain wedi cael eu cynnal yn ystod mis Rhagfyr, ond peidiwch â phoeni, dydi'r tymor ddim wedi dod i ben. Mae'n arferol i'r gwasanaethau hyn gael eu cynnal hyd ddiwedd mis Ionawr.

Ar un adeg, roedd y gwasanaethau plygain hanesyddol yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad. Daeth nifer o'r rheiny i ben, ond cafodd y traddodiad ei gynnal yn ddi-dor mewn ardaloedd fel Sir Drefaldwyn a de Sir Ddinbych. Erbyn heddiw, rydym ni'n gweld adfywiad cenedlaethol, fel mae'r rhestr isod yn ei brofi.

Gwasanaethau Plygain hyd ddiwedd mis Ionawr

Dydd Iau 05/01

Eglwys Sant Crwst, Llanrwst - 19:00

Dydd Gwener 06/01

Capel Ebenezer, Dinas Mawddwy - 19:00

Dydd Sul 08/01

Eglwys St Gwenog, Llanwennog - 15:00

Capel y Boro, Llundain - 16:00

Eglwys St Twrog, Llanddarog - 17:00

Neuadd Llanfihangel-Yng-Ngwynfa - 18:00

Capel Bethesda, Yr Wyddgrug - 18:00

Capel y Tabernacl, Llwynhendy - 18:00

Eglwys St Gwyndaf, Llanwnda - 19:00

Nos Lun 09/01

Eglwys Sant Tudur, Darowen - 19:00

Dydd Mercher 11/01

Eglwys y Santes Fair, Llanfair, Harlech - 19:00

Nos Iau 12/01

Eglwys Dewi Sant, Abergynolwyn - 19:00

Nos Wener 13/01

Eglwys Sant Tydecho, Mallwyd - 19:00

Nos Sul 15/01

Eglwys San Mihangel, Myddfai, Llanymddyfri - 17:00

Capel y Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni - 18:00

Capel Ainon, Llanuwchllyn - 19:00

Nos Fercher 18/01

Eglwys Gatholig San Pedr, Caerdydd - 19:30

Nos Sul 22/01

Eglwys St Catrin, Gorseinon - 18:00

Capel MC, Nantgaredig - 18:30

Nos Wener 27/01

Cadeirlan Llanelwy - 19:00

Nos Sul 29/01

Eglwys St Teilo, Llandeilo - 18:00

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig