Tri Llun Siân James
- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y gantores a'r delynores werin o Faldwyn, Siân James, sy'n dewis tri llun yr wythnos hon. Mae ambell lun o'i dewis yn ymddangos yng nghyfrol newydd Siân, Atgofion drwy Ganeuon: Gweld Sêr (Gwasg Carreg Gwalch).
Fel y rhan fwyaf ohonan ni, mae gen i doreth di-drefn o hen luniau - gormod o lawer a dweud y gwir. Llond hen gist haearn yn y sied yn gorlifo o hen atgofion a hanes a theimladau. Er gwaethaf yr ymdrechion dila o dro i dro i geisio rhoi rhyw fath o drefn arnyn nhw, ofer fu'r gorchwyl bob tro. Ac unwaith mae rhywun yn cychwyn pori drwyddyn nhw, wel dyna hi wedyn… oriau'n pasio, a minnau'n lanast ddagreuol fel arfer wrth ymaflyd â'r tsunami o emosiynau sy'n codi, a rheini'n gymysgedd chwerw-felys o hiraeth a hapusrwydd a thristwch a gorfoledd.
Cannoedd o luniau teulu wrth gwrs; lluniau dirifedi o deithiau cerddorol a gwyliau a ffrindiau; lluniau trysoredig o gyfnod ysgol ac yna'r coleg; lluniau o gigs a sioeau theatr, a Bwchadanas; heb sôn am yr hen luniau bach du a gwyn dirifedi etifeddais gan fy rhieni a'u rhieni hwythau.
Ond o'r diwedd, mi benderfynais fynd lawr y trywydd o ddewis lluniau sydd yn adlewyrchiad o nghariad at deulu a gwreiddiau, gan taw dyna i mi yw'r rhodd fwyaf a dderbyniais yn y bywyd hwn.
Dyma lun o nhad William Gwynfryn James: gŵr addfwyn, di-gyffro ac arbennig iawn. Fues i mor lwcus yn ei gael o'n dad i mi. Tynnwyd y llun ar ben Boncyn Gardden uwchlaw fy nghartref ar ddiwrnod clip yr haul ym mis Awst 1999. Aethom ni gyd fel teulu i ben y fryngaer hynafol uwchben y tŷ, i ddathlu'r achlysur gyda drwm bach a dau bîb i'r meibion, a chyfarch y digwyddiad mewn steil!
Yn llaw fy nhad, (fe welwch fymryn ohono), mae darn bach o fag bin du, gan i bawb gael eu rhybuddio y dylid amddiffyn eu llygaid rhag belydrau'r haul! I mi mae'r llun yn dal anwyldeb dwfn ei gymeriad ac yn dwyn i gof cyfnod hynod braf a thrysoredig.
Mae'r ail lun yn un o sawl llun sydd yn fy meddiant o un o'r hafanau hyfrytaf ar wyneb y ddaear. Dyma Lyn Gynwdden - llyn bach lledrithiol uwchben Dyffryn Banw, rhwng Cwm Nant yr Eira, Moelbentyrch a bryniau tonnog y ffin, ac i mi mae'n nefoedd ar y ddaear.
Bu'n lecyn y byddwn yn mynd iddo ers fy mhlentyndod, i gerdded, i fyfyrio, i chwerthin, i grio, i nofio, i garu, ac i gallio. Mae pedwar llyn ar hyd y grib uwchben fy nghartref: Llyn Hir, Llyn Newydd, Llyn Bugail a Llyn Gynwdden a phob un a'i chân arbennig ei hun. Mae nhw i gyd wedi bod yn gymorth enfawr i mi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn cysuro ac yn sadio'r enaid yn eu ffordd rhyfeddol eu hunain.
Mae hwn yn lun a dynnwyd yn lled-ddiweddar yn y Festival Hall yn Llundain pan aeth fy meibion a mi i gyngerdd gwbwl gyfareddol gan gerddorfa'r London Philharmonic - anrheg pen-blwydd ganddyn nhw i ddathlu mhenblwydd yn 60! O mam bach - o'n i'n teimlo fel petawn i wedi cyrraedd y nefoedd a hynny yng nghwmni y tri enaid anwylaf gerddodd y ddaear….!
Perfformiwyd un o'm hoff ddarnau o gerddoriaeth, sef Symffoni rhif 2 gan Rachmaninoff. Mi ges i nghyflwyno i waith Rachmaninoff am y tro cyntaf pan o'n i'n rhyw bedair ar ddeg, pan ges i LP o'i waith yn anrheg Nadolig gan fy annwyl frawd, Lloyd. Ers hynny dwi wedi bod braidd yn 'obsesd' efo'r hen Sergei, ac ynghŷd â dylanwad Kate Bush a Dr Meredydd Evans, dwi'n teimlo taw'r tri athrylith brith yma gafodd y dylanwad dyfnaf arna i o ran fy nghynnyrch cerddorol dros y blynyddoedd.
Mae'r llun yn ymgorffori'r llawenydd pur a deimlais y noson honno.
Ie… dwi'n gwybod taw dim ond tri llun oedd ei angen, ond roedd rhaid i mi gynnwys y llun yma! Dyma Gwern fy mab canol, yng nghwmni Tigi-ffâ - cath fach y teulu.
Trwy hap a damwain mae'r llun wedi dal y ddau yn cael y laff fwyaf erioed. Yn wahanol i unrhyw gath arall mae Tigi yn gath sydd yn gwenu - wir i chi.
Weithiau mi ddaw i fyny at fy ngwyneb (rhan amlaf pan mae hi'n synhwyro bod angen bach o gysur arna i) a gwneud rhyw ystum sydd y peth tebycaf i wên welsoch chi rioed. Hileriys! Ac mae'r llun bach arbennig yma yn llonni nghalon bob un tro fyddai'n sbio arno.
Hefyd o ddiddordeb: