Timothy Dundon: Carchar am oes i ddyn am lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Emmett MorrisonFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio'i gymydog yn ei fflat yng Nghastell-nedd.

Cafodd Timothy Dundon, 66, ei ddyrnu, ei gicio a'i guro droeon yn ei fflat ar Heol Catwg ar Stad Caewern ar 27 Ebrill.

Roedd Emmett Morrison, 38, yn honni iddo "golli rheolaeth" ar ôl i Mr Dundon ymosod arno'n rhywiol.

Er iddo gyfaddef iddo ladd Mr Dundon, fe wadodd Emmett Morrison iddo'i lofruddio.

Fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ei fod yn euog o lofruddiaeth.

Ymosod ar ail ddyn

Clywodd y llys bod Mr Dundon wedi ei ganfod ben i lawr o dan ddodrefnyn pren, gydag anafiadau trawmatig i'w ben, ei gorff a'i wddf.

Dywedodd arbenigwyr fforensig wrth y llys bod tystiolaeth yn y fflat bod Mr Dundon wedi dioddef ymosodiad parhaus cyn oedi am gyfnod, ac yna iddo gael ei daro eto cyn i'r dodrefnyn gael ei wthio ar ei ben.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Timothy Dundon, 66, ei ddarganfod yn farw mewn tŷ ar Heol Catwg

Yn dilyn yr ymosodiad, aeth Morrison i weld Antonio Aprea, 74, gan ddweud bod angen y cyffur Valium arno, gan ei fod wedi lladd rhywun.

Fe wnaeth ymosod ar Mr Aprea gyda chyllell.

Cafwyd Morrison hefyd yn euog o ymosod ar Mr Aprea yn fuan ar ôl y lofruddiaeth.

'Allan o reolaeth'

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC bod honiad Morrison i Mr Dundon ymosod yn rhywiol arno yn "gwbl anwir", ac yn un a wnaeth greu er mwyn ceisio rhoi amddiffyniad i'w hun.

"Nid yn unig wnaethoch chi ei ladd, ond fe wnaethoch chi geisio pardduo ei enw i achub eich hun," meddai'r barnwr.

Roedd lluniau o gamerâu'r heddlu yn dangos Morrison "allan o reolaeth yn llwyr, bron yn wyllt", ychwanegodd.

Mewn datganiad, dywedodd merch Mr Dundon, Karen, bod yr wyth mis diwethaf wedi bod yn "ofnadwy o anodd" i'r teulu.

Dywedodd bod Morrison wedi dod i adnabod Mr Dundon er mwyn cael pres ac alcohol ganddo.

"Does dim amheuaeth gen i bod Emmett Morrison wedi targedu Timmy gan gredu ei fod yn fodd iddo gael beth bynnag yr oedd ei eisiau," meddai.

Bydd yn rhaid i Emmett Morrison dreulio o leiaf 28 mlynedd dan glo cyn y bydd yn cael gwneud cais am barôl.

'Disynnwyr'

Dywedodd y swyddog a oedd yn gyfrifol am yr achos, Huw Griffiths: "Roedd hon yn farwolaeth gwbl ddisynnwyr ac nid oes amheuaeth ei bod wedi cael effaith ddifrifol ar y cymdogion a welodd yr hyn a ddigwyddodd.

"Rwy'n fodlon ein bod wedi cyflwyno'r achos hwn gerbron y llys er mwyn canfod y gwirionedd ynghylch yr hyn a ddigwyddodd i Timothy Dundon.

"Yn ogystal, roedd yr ymosodiad ar y dyn 74 oed a oedd yn agored i niwed yn ffiaidd ac yn gwbl ddigyfiawnhad.

"Yn ffodus, mae wedi gwella'n dda o'i anafiadau corfforol ond bydd yn cymryd llawer mwy o amser i drawma'r digwyddiad leddfu."

Pynciau cysylltiedig