Siop tecstilau Shaws yn nwylo'r derbynwyr

  • Cyhoeddwyd
Shaws the Drapers ym Mhenarth
Disgrifiad o’r llun,

Deellir bod tua 150 o staff yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad

Mae busnes teuluol sydd gyda 15 o siopau yng Nghymru yn nwylo'r derbynwyr.

Derbyniodd staff Shaws The Drapers, sy'n gwerthu llenni, dillad gwely a nwyddau cartref, e-bost ddydd Mawrth yn cadarnhau diddymiad y busnes a gafodd ei sefydlu 106 o flynyddoedd yn ôl.

Yn yr e-bost dywedodd y perchennog, Philip Shaw, eu bod yn gobeithio ailstrwythuro'r busnes yn y flwyddyn newydd ar ôl "blwyddyn heriol", ond eu bod wedi dod i'r casgliad nad oedd "bellach yn hyfyw".

Gyda 28 o siopau ar draws y Deyrnas Unedig, deallir bod tua 150 o staff yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad.

'Dal i fod yn sioc'

Roedd Shaws wedi sefydlu'i hun ar sawl stryd fawr ar draws Cymru a Lloegr ers agor y siop gyntaf yn ne Cymru ym 1916.

Yn gynharach y mis hwn dywedwyd wrth staff na fyddai unrhyw stoc newydd yn cael ei archebu i'w warysau cyn y Nadolig, gyda'r stoc sy'n weddill i'w werthu am brisiau gostyngol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jan Holmes ei fod wedi bod yn newyddion 'ysgytwol', os nad annisgwyl

Dywedodd Jan Holmes, a oedd yn gweithio yn y siop ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod Mr Shaw wedi ymweld â staff ond nad oedd yn gallu cadarnhau ar y pryd beth fyddai'n digwydd i'w swyddi.

Dywedodd Ms Holmes ei fod yn newyddion "ysgytwol", os nad annisgwyl.

"Roedden ni'n gwybod ei fod yn dod ond mae'n dal i fod yn sioc," meddai.

"Yr wythnos cyn y Nadolig, ar y dydd Llun, fe gawson ni alwad ffôn yn gofyn i ni gau'r siop o fewn yr awr.

"Roedd yn rhaid i ni ofyn i gwsmeriaid wneud eu pryniant terfynol ac fe wnaethom gau'r siop. Roedd yn peri gofid i bawb, i ni ac i'r cwsmeriaid."

Disgrifiad o’r llun,

Silffoedd un o siopau Shaws yn wag oherwydd diffyg stoc

"Mae'n ddiwedd cyfnod," ychwanegodd.

Roedd Ms Holmes wedi gweithio yn Shaws ers mis Awst a chyn hynny roedd wedi rhedeg ei siop anrhegion ei hun ym Mhencoed, a gaeodd yn dilyn y pandemig.

"Rwy'n teimlo trueni dros bawb sy'n gysylltiedig," meddai. "Mae'n fusnes arall sydd wedi mynd o'r stryd fawr - mae'n drueni."

'Gobeithio am rhywfaint o help'

Yn yr e-bost dywedodd Shaws the Drapers y byddai staff yn cael eu talu'n llawn hyd at 24 Rhagfyr ac y byddai cwmni methdaliad yn cysylltu â nhw dros y dyddiau nesaf i drafod eu hawliau.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r cwmni hwnnw, Stones & Co, Abertawe, am sylw.

"Yn ariannol mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth. Byddaf yn ymuno â'r ciw yn y ganolfan waith," meddai Ms Holmes.

"Rwy'n gobeithio y byddwn yn cael rhywfaint o help."

'Ddim yn benderfyniad hawdd'

Dywedodd cwmni Shaws ei fod am gefnogi staff i ddod o hyd i swyddi newydd, gan hefyd ddiolch iddynt am eu gwasanaeth.

Ffynhonnell y llun, Jan Holmes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd staff wedi cael cyfarwyddyd i werthu pob eitem o stoc yn rhad

"Ar ôl 100 mlynedd o fasnachu, nid yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd i ni ei wneud, ac rydym yn llwyr werthfawrogi'r canlyniadau i chi, ond yn syml iawn nid yw'r busnes yn hyfyw ac ni allwn weld ffordd o'i wneud yn hyfyw," meddan nhw.

Dywedodd llefarydd fod prisiwr wedi ei benodi i asesu gwerth asedau'r cwmni a'i fod wedi rhoi'r gorau i fasnachu ar 23 Rhagfyr.

"Deellir bod pob un o gyn-weithwyr y Cwmni wedi cael eu cyflog sy'n weddill a thâl gwyliau," ychwanegon nhw.

"Bydd y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd yn delio â'r cyn-weithwyr sydd â hawl i dâl dileu swydd a/neu dâl yn lle rhybudd."

Pynciau cysylltiedig