Pryder am ddyfodol gwasanaeth adfer troseddwyr benywaidd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ofnau am ddyfodol gwasanaethau adferiad ar gyfer troseddwyr benywaidd, mewn canolfan gymunedol benodol i fenywod yn Sir Ddinbych, oherwydd toriad i'w chyllideb yn y flwyddyn newydd.
Mae Canolfan Menywod Gogledd Cymru yn Y Rhyl, yn rhedeg cyrsiau, sesiynau galw i mewn a chlybiau cymdeithasol, gyda chymorth dros 60 o wirfoddolwyr.
Yn ôl y Prif Weithredwr Gemma Fox, fydd rhaglen llwybrau llwyddiant menywod, sy'n helpu menywod sydd â risg o droseddu i ffwrdd o droseddu, ac sy'n cael ei ariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ddim yn cael ei ariannu ganddyn nhw o 2023, gan roi'r gwasanaeth "hanfodol" yn y fantol.
Dywedodd swyddfa'r Comisiynydd eu bod wedi'u "hymrwymo" i "ddarparu casgliadau a chefnogaeth effeithiol ar gyfer menywod o fewn y system gyfiawnder yng Ngogledd Cymru".
Galw cynyddol
Yn ôl Ms Fox, mae'r penderfyniad yma'n digwydd ar adeg pan fo menywod angen y gefnogaeth fwy nag erioed.
"Ar hyn o bryd, y pryder mwya', mae'n debyg, yw'r argyfwng costau byw. Rydan ni'n ymwybodol iawn bod rhain yn amseroedd anodd iawn, ac mae menywod yn mynd i gymryd camau enbyd na fydden nhw'n eu gwneud fel arfer."
"'Dan ni wedi gweld y galw ar ein gwasanaethau wir yn cynyddu a 'dan ni'n gwybod nad ydyn ni wedi cyrraedd yr uchafbwynt eto."
Yn ôl Ms Fox mae'n teimlo fel "economi ffug" i beidio â chefnogi gwasanaeth sy'n "gost effeithiol" o safbwynt atal menywod rhag troseddu.
Daw hyn dri mis ar ôl i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTGC) gyhoeddi ei strategaeth Cyfiawnder i Fenywod Gogledd Cymru sydd â'r bwriad o leihau nifer y troseddau yn yr ardal a mynd i'r afael â'r rhesymau pam mae menywod yn troseddu.
Mewn datganiad fe gadarnhaodd llefarydd ar ran swyddfa CHTGC fod y cytundeb gyda Chanolfan Menywod Gogledd Cymru yn dod i ben, ond eu bod nhw'n parhau wedi'u "hymrwymo" i raglen braenaru merched ac i "ddarparu casgliadau a chefnogaeth effeithiol ar gyfer menywod o fewn y system gyfiawnder yng Ngogledd Cymru".
Ychwanegodd: "Rydyn ni bob amser yn ceisio cefnogi a chomisiynu'r ystod mwyaf effeithiol o wasanaethau gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni….
"Ar adegau mae'r angen i gefnogi ystod o wasanaethau yn gallu arwain at ariannu sefydliadau newydd ag adolygu'r arian sy'n mynd ar brosiectau sydd wedi derbyn cefnogaeth hael hyd yma."
'Clust i wrando'
Ond i fenywod fel Paula, sy'n ymweld â Chanolfan Menywod Gogledd Cymru o leiaf dair gwaith yr wythnos, ac sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun rhaglen braenaru, mae dyfodol y ganolfan yn hollbwysig.
Fe'i cafwyd yn euog o drosedd cyffuriau dros flwyddyn yn ôl a daeth i'r ganolfan ar gyfer ei hapwyntiadau prawf, sesiynau cwnsela a gwasanaethau cymorth eraill.
Mae hi'n dweud "fyswn i ddim yma rŵan" oni bai am y rhaglen, a chael clust i "wrando arni am y tro cyntaf, heb farnu".
"Mi ges i gwnsela, dwi'n gweld dau weithiwr cefnogaeth," meddai. "Tasa hynny ddim gen i, dwi ddim yn meddwl y byswn i'n ymdopi. Os dydyn nhw hen glywed gen ti, maen nhw jyst yn ffonio a ffonio, ac os nad wyt ti'n ateb maen nhw'n troi fyny yn dy dŷ - galwad gofal, i wneud i ti deimlo fel dy fod dy eisiau."
Mae Paula, sydd hefyd wedi bod ar gwrs hyder yn y ganolfan, bellach yn awyddus i wirfoddoli yno er mwyn helpu menywod bregus eraill. Mae'n uchelgais ganddi i fod yn gomedïwr llwyfan, rhywbeth na fyddai wedi dychmygu'n bosib hyd yn hyn.
"Mae wedi gwneud i mi deimlo mod i'n werth rhywbeth. Dwi'n berson, nid jyst yn fam, nid jyst yn nanny. Maen nhw'n fy helpu ddod o hyd i fi. Mae hynny'n neis."
'Edrych ar holl sefyllfa'r fenyw'
Christine Tarry yw un o weithwyr achos y cynllun braenaru merched. Mae'r rhaglen yn werthfawr, meddai, gan eu bod yn edrych ar holl sefyllfa'r fenyw, yn hytrach na'r drosedd yn unig, ac mae 'na ystod eang o broblemau.
"'Dan ni'n gweithio ar bethau sydd efallai'n gysylltiedig â'r drosedd. Gallai fod yn alcohol, dyled, iechyd meddwl...
"'Dan ni'n gweithio o gwmpas y drosedd hefyd - sut oeddan nhw'n teimlo ar y pryd, ac wedyn - a'r effaith arnyn nhw'n feddyliol, yn ariannol, wrth gyfaddef i'r teulu eu bod wedi'u harestio."
Dywedodd Gemma Fox eu bod nhw'n awyddus i gadw'r gwasanaeth i fynd am gyn hired â phosib. Maen nhw'nceisio am nawdd o ffynonellau eraill, ond mae'n cydnabod ei bod yn gyfnod heriol.
"'Dan ni'n ymwybodol iawn fod gwasanaethau cyhoeddus dan straen enfawr hefyd ond 'dan ni hefyd yn gwybod ein bod yn helpu cau bylchau rhwng y gwasanaethau cyhoeddus hynny...
"'Dan ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth 'dan ni wedi'i chael eisoes gan y CSP, yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau lleol, y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Maen nhw i gyd wedi bod yn gefnogol.
"Yn y diwedd, 'dan ni gyd eisiau'r un peth - 'dan ni eisiau lleihau troseddu gan fenywod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018