Dedfrydau carchar 'ddim yn gweithio' i fenywod o Gymru
- Cyhoeddwyd
Dyw dedfrydau carchar i fenywod o Gymru "ddim yn gweithio", yn ôl elusen sy'n gweithio gyda throseddwyr.
Mae elusen Safer Wales yn dweud bod dedfrydu menywod am gyfnodau byr yn gallu torri cysylltiad rhwng teuluoedd a rhoi menywod mewn sefyllfa fregus o ran trais domestig.
Yn ôl data gan Brifysgol Caerdydd, cafodd 218 o fenywod eu hanfon i garchardai yn Lloegr y llynedd.
Mae'r Weinidogaeth Amddiffyn yn dweud mai'r "dewis olaf" y dylai'r carchar fod.
Fe gefnogodd Safer Wales mwy na 1,000 o fenywod o Gymru yn y system gyfiawnder troseddol y llynedd.
Dywedodd Simon Borja, rheolwr datblygu prosiect yr elusen fod merched yn debygol o gael eu carcharu am ddedfrydau byr ac "nad yw hynny'n gweithio ac rydym yn gweld nad yw'n gweithio".
Does dim carchardai yng Nghymru ar gyfer menywod, sy'n golygu eu bod yn cael eu hanfon i Loegr, yn aml yn sgil troseddau di-drais, a gallant fod oriau i ffwrdd o'u teuluoedd.
Mae menywod yng ngogledd Cymru'n fwy tebygol o fynd i HMP Styal ger Manceinion, a menywod yn y de a'r gorllewin yn mynd i HMP Eastwood Park yn sir Gaerloyw.
Mae'n golygu eu bod yn cael eu gwahanu o'u systemau cefnogi ac elusennau.
Mae Simon Borja yn anghytuno gyda galwadau blaenorol am garchar i fenywod yn unig yng Nghymru, gan ddweud bod achosion cymhleth o droseddau sy'n cael eu cyflawni gan fenywod yn aml yn cael gwell sylw o fewn cymuned.
"Mae pethau fel trawma trais domestig, bod mewn system ofal er enghraifft, mae hynny'n gyffredin iawn gyda menywod yn y carchar," meddai.
"Cyn eu bod nhw'n mynd yno, roedd yr holl elfennau bregus yna'n effeithio arnyn nhw, ac mae beth sydd wir yn digwydd iddyn nhw yn y carchar yn ychwanegu at hynny."
Aeth 281 o fenywod o Gymru i garchardai yn Lloegr y llynedd, ac roedd bron i un o bob pump ohonyn nhw wedi'u dedfrydu i lai na 12 mis.
Mae Louise (nid ei henw go iawn), 28, o Gaerdydd, yn wynebu ei rhybudd olaf ar ôl iddi gyflawni cyfres o fân droseddau.
Mae'n wynebu'r posibilrwydd o fynd i garchar yn Lloegr.
Mae hi wedi dioddef trais domestig, wedi bod mewn gofal, ac mae ganddi anawsterau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.
"Pan oeddwn i yn y llys yn Ionawr ddywedon nhw y bydden i'n mynd i'r carchar am 12 wythnos, a dwi erioed wedi bod yn y carchar," meddai.
"Dydw i ddim eisiau oherwydd os af i i'r carchar bydda i'n colli cysylltiad gyda fy mhlant."
Dywedodd nad oes gan yr awdurdodau ddigon o ddealltwriaeth i ddelio â menywod fel hi.
"Mae'n teimlo fel 'wel, ie, wnawn ni gloi hi i fyny, dyna'r unig beth allwn ni wneud' a pheidio mynd i'r afael â'r broblem yn gyntaf," ychwanegodd.
"Dw i'n credu y dylen nhw fynd i'r afael â'r mater a gweld pam fod hyn yn digwydd, a pha gefnogaeth arall y gallan nhw roi cyn fod y person yn cael ei gloi i fyny..."
'Colli hunan-barch ac hunan-urddas'
Un a wynebodd sefyllfa debyg yw Eleri Cosslett o Gaerdydd.
Hi yw cyfarwyddwr rhaglen Grow Inspires, sef cynllun i gefnogi cyn-droseddwyr a datblygu eu sgiliau er mwyn dechrau busnes neu fentro i fyd entrepreneuriaeth.
Fe ddechreuodd y busnes ar ôl ei phrofiad o fod yn y carchar. Treuliodd 16 mis yn HMP Eastwood Park tra symudodd ei merch i fyw gyda'i mamgu a thadcu yn Abertawe.
Dywedodd y byddai peidio gorfod teithio i Loegr i fynd i'r carchar yn gwneud "gwahaniaeth anferthol" i fenywod er mwyn cynnal cysylltiadau gyda theuluoedd a chael cefnogaeth yn lleol.
"Chi'n colli ryw sens o'ch hunan. Hunan-barch, hunan-urddas, chi'n colli'r synnwyr o fod yn rhywun. Y person y'ch chi cyn mynd mewn i'r carchar, y'ch chi ddim yr un person ar ôl dod allan.
"Ma hwnna'n un o'r pethe sydd byth yn cael ei siarad amdano," dywedodd.
"Ma' 'na gymaint o garchardai ar gyfer dynion sydd jyst ar ddibyn y drws. Ond, chi'n gw'bod, i fenywod... dydyn nhw ddim yn cael y cyfle 'na.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n rili bwysig o ran yr iaith bod pobl yn gallu aros yng Nghymru.
"A dwi hefyd yn meddwl ma' rhai pobl yn gorfod teithio'n bell dros ben a dyw nhw ddim efo'r arian i 'neud hyn."
Dywedodd Eleri bod menywod sy'n dod allan o'r carchar yn aml yn "gwbl ddi-hyder" a ddim yn cael cefnogaeth gan elusennau lleol.
"Yn aml ma nhw 'di neud lot o gyrsiau yn y carchar - pethau fel trin gwallt a stwff nail art a stwff felly - a ma' nhw'n gallu 'neud y stwff yn iawn.
"Ond ma' nhw 'di colli hyder yn eu gallu nhw i 'neud y pethau 'ma.
"Ma' rhywbeth yn digwydd yn seicolegol - ma' nhw'n teimlo bod nhw jyst methu ymdopi â bywyd tu allan. Ma' hynny'n arteithiol dros ben i'w datblygiad nhw".
Cynllun peilot ddim wedi dechrau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda Gweinidogaeth Cyfiawnder Llywodraeth y DU i greu 'cynllun Troseddwyr Benywaidd' i geisio mynd i'r afael â rhesymau cymhleth dros droseddu a lleihau ail-droseddu o ganlyniad.
Un cyhoeddiad polisi allweddol yn 2020 oedd y cyntaf yn y DU, sef cynllun i greu Canolfan Breswyl i Fenywod yn ne Cymru, lle byddai 12 o fenywod yn gallu aros yn agos at eu teuluoedd a'u cymunedau, tra'n cael mynediad at driniaethau i fynd i'r afael â'r hyn a arweiniodd at eu troseddau, gan gynnwys iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol.
Roedd cynllun peilot i fod i ddechrau yn 2021, ond dyw hynny ddim wedi digwydd eto.
Mae Rhys ab Owen o Blaid Cymru, sy'n aelod o'r Senedd dros ganol de Cymru, wedi galw am fwy o fanylion ac eglurder.
"Fe gyhoeddwyd bron i ddwy flynedd yn ôl bod 'na ganolfan yn mynd i fod i fenywod yng Nghymru," dywedodd.
"Ond dy'n ni ddim wedi cael dim manylder am hynny eto. Dy'n ni ddim yn gw'bod y lleoliad, dy'n ni ddim yn gwbod faint o fenywod fydd yna a dy'n ni ddim yn gw'bod statws cyfreithiol y ganolfan chwaith.
"Y consyrn mawr yw bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llundain a Llywodraeth Cymru fan hyn yn dweud eu bod nhw eisiau gweld llai o fenywod yn mynd i'r carchar.
"Ond y gwir yw, mae'r nifer o fenywod o Gymru sy'n mynd i garchardai yn Lloegr wedi cynyddu flwyddyn diwetha'.
"Felly tra bod y ganolfan 'ma heb gael ei sefydlu, ma' mwy a mwy o fenywod yn cael eu hanfon i garchardai yn Lloegr."
'Dewis olaf'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Weinidogaeth Gyfiawnder bod cynlluniau ar waith i ariannu gwasanaethau yn y gymuned ar gyfer menywod.
"Y dewis olaf i fenywod ddylai'r carchar fod, ac ers i ni lansio ein Strategaeth Troseddwyr Benywaidd mae'r nifer sy'n mynd i mewn i'r system gyfiawnder troseddol wedi gostwng bron i draean.
"Ry'n ni'n buddsoddi degau o filoedd mewn gwasanaethau cymunedol fel adferiad cyffuriau a canolfannau menywod, ac mae'n cyd-gynllun Cyfiawnder Menywod yng Nghymru yn dargyfeirio menywod oddi wrth droseddu ac yn gwella eu bywydau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Medi 2019
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019