Merthyr Tudful: Dyn 82 oed yn marw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Cerbyd yr heddlu

Mae dynes wedi ei harestio ar ôl i ddyn 82 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad â char Noswyl Nadolig.

Mae'r ddynes 31 oed wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei stopio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru heb ofal a sylw dyladwy.

Ddigwyddiad y gwrthdrawiad ar Avenue De Clichy, Merthyr Tudful, tua 22:00, yn cynnwys Nissan Qashqai du.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn wedi marw o'i anafiadau yn yr ysbyty, ac maen nhw'n apelio am dystion a lluniau camera cerbyd.

Pynciau cysylltiedig