Rhieni'n 'brwydro' am ofal diabetes math 1 yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd
Toby yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Toby, sy'n chwech oed, ddiagnosis o diabetes math 1 pan yn 18 mis oed.

Mae rhieni i blant sy'n byw â diabetes math 1 yn dweud eu bod yn gorfod brwydro i sicrhau gofal addas i'w plant yn yr ysgol.

Dywedodd un fam fod gofalu am ei phlentyn saith oed yn "hynod o ddwys" i staff yr ysgol ond bod y broses o gael gofal un-i-un yn aneglur.

Dywedodd tad arall fod cael gofalwr un-i-un i'w fab yn yr ysgol yn newid byd.

Yn ôl elusen Diabetes UK, mae rhai plant yn derbyn cefnogaeth da ond bod nifer yn ei chael hi'n anodd i gael eu cynnwys ym mywyd yr ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod canllawiau mewn lle i geisio sicrhau y dylai disgyblion ag unrhyw gyflwr meddygol, gan gynnwys diabetes, dderbyn y cefnogaeth priodol.

'Brwydr barhaus'

Cafodd Toby, sy'n chwech oed, ddiagnosis o gyflwr diabetes math 1 yn 18 mis oed.

Dywedodd ei fam, Zoe o Gaerdydd, ei bod wedi "brwydro'n barhaus am y gofal sydd ei angen arno".

Dywedodd fod cymhorthydd dosbarth yn ei ysgol wedi ei hyfforddi i ofalu amdano. Mae hynny'n cynnwys monitro ei bwmp inswlin a gwirio lefel siwgr y gwaed trwy gydol y dydd.

Ond er fod y cymhorthydd yn "wych", mae rhoi'r cyfrifoldeb ar rywun sydd yn gorfod goruchwylio gweddill yn dosbarth yn anaddas, meddai Zoe.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Toby wedi bod mewn coma oherwydd ei gyflwr

"Mae angen gofal go iawn arno," dywedodd, "mae ei gyflwr yn un sy'n bygwth bywyd".

"Dw i'n cael fy ngalw i'r ysgol i newid [ei bwmp], ei fonitro a gofalu amdano," ychwanegodd.

Mae Zoe'n dweud ei bod wedi cael gwybod na fydd y cymhorthydd sy'n gyfrifol am ofal Toby ers dwy flynedd yn gallu gofalu amdano ar ôl mis Medi.

Mae'r ysgol wedi gwneud cais am gyllid gan y cyngor i gael gofal un-i-un yn yr ysgol.

"Dw i wedi cael gwybod nad yw'n sicr, gyda'r cyngor lleol mae'n anodd iawn i gael unrhyw help o gwbl iddo," dywedodd.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod iechyd, lles a gofal diogelwch disgyblion yn flaenoriaeth a bod prosesau da wedi eu sefydlu i ysgolion gael cyngor, hyfforddiant ac adnoddau ychwanegol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae profiad Blyth (dde) o gael gofal un-i-un yn yr ysgol wedi bod yn un positif yn ôl ei dad, Chay

Cafodd Blyth, sy'n naw oed, ddiagnosis bum mlynedd yn ôl ond mae ei brofiad o gael gofal yn wahanol.

Dywedodd ei dad, Chay o Fro Morgannwg, ei fod yn teimlo'n hynod o ffodus fod ei fab wedi cael cymorth un-i-un yn yr ysgol.

"Oherwydd y gefnogaeth un-i-un mae'n ei dderbyn, mae e jyst yn hollol normal. Mae popeth yn brofiad positif yn yr ysgol a dyw e ddim yn wahanol i unrhyw blentyn arall."

Ond dywedodd ei fod yn ymwybodol fod pobl yn ei chael hi'n anodd: "Dw i'n gwybod fod gyda nhw'r frwydr hon na ddylen nhw fod yn wynebu."

Mae tua 1,400 o blant a phobl ifanc yn byw gyda diabetes math 1 yng Nghymru yn ôl elusen Diabetes UK.

Dywedodd llefarydd eu bod yn clywed yn gyson am rieni'n gorfod cefnogi eu plant yn yr ysgol, ac mewn rhai achosion, fod plant heb allu mynychu'r ysgol am gyfnodau hir.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl aelod o staff yn ysgol Joe wedi cael eu hyfforddi i ofalu amdano

Mae mab saith oed Sandra, Joe, yn gwybod ei fod yn cael gofal gan sawl aelod o staff yn ei ysgol ym Mhowys.

"Mae bron i hanner staff yr ysgol wedi gwneud yr hyfforddiant sy'n anhygoel ond mae dal yn hynod o ddwys iddyn nhw," dywedodd.

Dyw'r broses o wneud cais am gyllid gan y cyngor i gael gofal un-i-un i Joe heb ddechrau eto a hynny, yn ôl Sandra, gan ei bod yn gwybod y bydd yn broses anodd.

"Ry'ch chi wedi'ch llethu gymaint does dim ffordd all e fod ar eich agenda... ry'ch chi'n rheoli 24 awr o fod ar ddihun a sefydlogi lefel siwgr gwaed Joe," dywedodd.

Cael cefnogaeth un-i-un "heb orfod mynd trwy broses lle ry'ch chi'n brwydro am rywbeth" yw dymuniad Sandra.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joe, sydd ar y chwith yn y llun gyda'i chwaer, ddiagnosis o ddiabetes math 1 fis Mawrth 2022

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys na allan nhw wneud sylw ar achosion unigol ond bod holl ysgolion y sir yn ymwybodol o'r prosesau ar gyfer cyfeirio at y cyngor i gael cefnogaeth a chyngor ychwanegol.

"Mae holl ysgolion Powys yn dilyn cyngor statudol Llywodraeth Cymru - Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd, dolen allanol," ychwanegodd.

Pa hawliau sydd gan blant ysgol sydd â diabetes math 1?

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio plant â diabetes yn gyfreithiol fel pobl sy'n byw ag anabledd. Mae'n rhaid i sefydliadau addysg a'r GIG sicrhau nad yw disgyblion sy'n byw gyda diabetes dan anfantais.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai rhieni roi gwybod i'w hysgolion am anghenion gofal iechyd eu plentyn ac y dylai'r ysgol drafod gyda nhw a oes angen cynllun anghenion gofal iechyd unigol (CIU).

Mae CIU yn nodi'r hyn sydd ei angen i gefnogi dysgwr ag anghenion gofal iechyd ac mae'n hanfodol i ddysgwyr ag anghenion gofal iechyd cymhleth, cyfnewidiol neu hirdymor.

Mae Deddf Tribiwnlys Addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018 yn nodi sut y dylid cefnogi plant a phobl ifanc o dan 25 oed ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ffynhonnell y llun, Robert French
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Robert French yn dweud mai rhieni sy'n gorfod brwydro am y gefnogaeth sydd angen ar eu plant

'Rhaid gwrando ar rieni'

Mae lefel y gefnogaeth i blant sy'n byw a diabetes math 1 mewn ysgolion yn "anghyson ar draws Cymru" yn ôl Dr Robert French o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

"Ry'n ni'n cael adroddiadau o rieni yn wir yn gorfod brwydro am y gefnogaeth sydd angen ar eu plant yn yr ysgol," dywedodd.

"Dw i'n credu ym mwyafrif yr achosion, mae cefnogaeth un-i-un ar gyfer y camau cynnar siŵr o fod yn allweddol.

"Mae'n rhaid i ni wrando ar rieni a ddylai hyn ddim fod yn gwestiwn am adnoddau neu beth all yr ysgol wneud, dw i'n credu y dylai fod yn seiliedig ar anghenion y plentyn, fel y mae'r ddeddf anghenion dysgu ychwanegol wedi ei ddylunio i fod," dywedodd.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru fod eu canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd, dolen allanol yn cynnwys canllawiau statudol a chyngor anstatudol i gynorthwyo awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu, lleoliadau addysg, gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol a sefydliadau eraill i gefnogi dysgwyr i sicrhau cyn lleied o darfu â phosib ar eu haddysg.

Ychwanegodd: "Mae'r canllawiau statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a lleoliadau addysg yng Nghymru fod â pholisi anghenion gofal iechyd yn ei le a ddylai geisio sicrhau bod disgyblion ag unrhyw gyflwr meddygol, gan gynnwys diabetes, yn cael eu cefnogi'n briodol."