Yr actores Christine Pritchard wedi marw yn 79 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r actores Christine Pritchard wedi marw yn 79 oed.
Roedd yn adnabyddus i genedlaethau o blant Cymru am chwarae'r wrach Rala Rwdins yn y gyfres deledu o'r un enw.
Fe ymddangosodd ar ddegau o ffilmiau a chyfresi fel Glas y Dorlan, Dinas, Pobol y Cwm, Anita ac Un Bore Mercher.
Roedd yn adnabyddus i gynulleidfaoedd di-Gymraeg hefyd, gan ymddangos ar gyfresi Saesneg fel Tourist Trap, Doctors, Stella ac Indian Doctor.
Cafodd ei magu yng Nghaernarfon ar aelwyd ddwyieithog, ac aeth i ysgol Syr Hugh Owen yn y dref.
Aeth yn ei blaen i astudio yn y brifysgol ym Mryste, gan ennill gradd mewn Saesneg, Lladin a Drama.
Bu'n gweithio fel athrawes yn Llundain ac ar ynys St Kitts yn y Caribî, cyn cael blas ar gynhyrchu dramâu tra'n gweithio mewn ysgol yn ardal Putney.
Yn 1969 cafodd gyfweliad llwyddiannus gyda Chwmni Theatr Cymru, gan newid gyrfa i fod yn actores.
Fe wnaeth y cam o'r llwyfan i'r sgrin fach ar ddechrau'r 70au, gan ymddangos ar gyfresi fel Glas y Dorlan a Dinas yn y 70au ac 80au.
Yng nghanol y 90au bu'n rhan o ddwy o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C - rôl y prif gymeriad yn Rala Rwdins, a Pobol y Cwm ble bu'n chwarae rhan Laura Metcalfe.
Yn fwy diweddar byddai cynulleidfaoedd wedi'i gweld yn actio ar raglenni megis Anita, Deian a Loli, 35 Awr ac Un Bore Mercher.
Roedd hi hefyd yn un o gast rheolaidd opera sebon Radio Cymru am flynyddoedd sef Eileen/Rhydeglwys a bu'n brif gymeriad (sef 'Hilda') mewn dwy gyfres o Bisgits a Balaclafas.
Chwaraeodd ran hefyd mewn sawl drama unigol fel Goleuni yn yr Hwyr, Disgw'l, Y Hi a Fi, Lle bu Dau ac Ofelgoelus ac roedd ganddi ran amlwg mewn sawl nofel a gafodd ei haddasu ar gyfer Radio Cymru.
'Dim diwedd ar ei brwdfrydedd'
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn dywedodd Graham Jones, cynhyrchydd y gyfres Dinas ar S4C rhwng 1985 ac 1991 fod Christine Pritchard - a oedd yn actio rhan Ruth Gregory - "wastad yn 'neud ei gorau".
"Ro'dd hi wastad wedi paratoi mor drylwyr. O'dd hi'n darllen y sgript i gyd, yn gwybod yn union sut i chwarae'r cymeriad a sut i chwarae i'r camera," meddai.
"Doedd dim diwedd ar ei brwdfrydedd hi. O'dd hi'n gallu troi ei llaw i fod yn unrhyw gymeriad. Mae'n anodd meddwl ei bod wedi mynd. Fe fyddaf yn ei cholli hi."radio cymru
Mae nifer hefyd wedi rhoi teyrngedau iddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd yr awdures Fflur Dafydd: "Diolch am bob dim Christine.
"Nes i ffangirlio hi yn nhoiledau Gloworks adeg 35 awr a methu stopio mynd 'mlaen am Ruth Gregory o Dinas a sut ro'n i'n gwireddu breuddwyd yn gweithio gyda hi.
"Mor wych. Mor classy. Braint ac anrhydedd oedd sgwennu iddi."
Dywedodd yr actores Rhian Cadwaladr: "Trist clywed y newyddion am Christine. Cymeriad hoffus, llawn hwyl a fuo'n garedig a chefnogol i mi pan oeddwn i'n actores ifanc nerfus yn cychwyn yn y byd actio. Tydi rhywun ddim yn anghofio hynna."