Annog pobl i beidio tarfu ar gannoedd o forloi Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn cael eu hannog i beidio tarfu ar gannoedd o forloi sydd wedi cyrraedd traeth yng ngogledd Cymru.
Mae'r morloi wedi ymgartrefu ym Mhorth Dyniewaid ger Llandudno, ble mae disgwyl iddyn nhw aros tan y gwanwyn.
Mae'r mamaliaid morol yn ymweld â'r ardal yn flynyddol, gan ddod i'r lan er mwyn bwrw eu blew.
Gall hyd at 250 ohonyn nhw fod ar y traeth ar yr un pryd pan mae'r llanw'n isel.
Ond mae hynny'n golygu y gallen nhw gael eu tarfu'n hawdd gan unai'r cyhoedd neu anifeiliaid fel cŵn.
'Hyfryd eu gweld'
Mae safle'r traeth, sydd ar Y Gogarth Fach gyda Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg heibio iddi, yn golygu ei bod yn denu cannoedd o ymwelwyr y dydd.
"Dyma'r tro cynta' i mi eu gweld nhw yn eu cynefin naturiol," meddai Pat Nilssen o Gaer, sydd ar wyliau yn yr ardal.
"Mae'n hyfryd eu gweld nhw'n chwarae, cael hwyl, ac i weld y rhai ifanc yma hefyd."
Mae'r traeth creigiog ble mae'r morloi wedi ymgartrefu yn eistedd wrth droed clogwyn sydd wedi cael ei gau i ffwrdd bellach gan gadwraethwyr, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu tarfu.
"Dwi'n falch eu bod nhw wedi rhoi arwyddion i fyny, a stopio pobl rhag mynd lawr yna i darfu arnyn nhw," meddai Dave Haynes, ymwelydd arall oedd wedi dod i weld y morloi.
"Roedd pobl yn arfer gwneud hynny - dringo lawr a gadael eu cŵn yn rhydd."
Mae'n cymryd bron i chwe wythnos i bob morlo fwrw eu blew a thyfu côt newydd, gyda'r rhai ieuengaf yn gwneud hynny gyntaf.
Mae disgwyl i'r morloi aros ar y traeth tan tua mis Ebrill, cyn dychwelyd i foroedd cynhesach y gwanwyn a dechrau pysgota ac archwilio rhagor o arfordir gogledd Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022