Penderfyniad ar fwyngloddio copr ym Môn erbyn 2024

  • Cyhoeddwyd
Mynydd Parys, Sir Fon
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod y 18fed ganrif roedd Mynydd Parys ger Amlwch yn allforio copr i ben draw'r byd

Mae 'na obaith o'r newydd y gallai copr gael ei fwyngloddio ym Môn.

Dangosodd arolwg diweddar fod mwy o fwynau ar safle yng ngogledd yr ynys na chredwyd gynt.

Yn ystod y 18fed ganrif roedd Mynydd Parys ger Amlwch yn allforio copr i ben draw'r byd - amcangyfrifir i 3.3 miliwn tunnell o gopr gael ei allforio.

Yn ôl perchenogion y safle, Anglesey Mining mae archwiliadau diweddar wedi dangos cronfeydd mawr o gopr a sinc a hynny yn fwy na'r disgwyl.

Mae'r cwmni'n dweud os bydd archwiliadau pellach yn ffafriol fe allai penderfyniad ar ddatblygiad y safle gael ei wneud mor gynnar â dechrau 2024.

Canfod aur ac arian

Mae gan Fynydd Parys un o gronfeydd copr mwyaf Prydain sydd eto i gael ei gloddio ymhellach.

Fe gafodd mwynau fel sinc, aur ac arian hefyd eu canfod ac yn ôl prif weithredwr Anglesey Mining, Jo Battershill, mae'r safle yn cynnig addewid i'r ardal.

Mae'n dweud y gallai swyddi hefyd gael eu creu ar gyfer pobl leol pe bai archwiliadau pellach yn gadarnhaol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y newyddion yn "gam i'r cyfeiriad cywir"

"Dwi'n croesawu'r newyddion," medd cynghorydd lleol yr ardal, Aled Morris Jones.

"Dwi'n gobeithio bydd y newyddion da yn parhau, dwi'n ffyddiog a ma' hwn yn bositif - 'da ni heb glywed newyddion positif yn dod o'r mynydd ers blynyddoedd.

"Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir."

Gyda'r gobaith o swyddi erbyn canol y ddegawd, dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod hi'n bwysig i'r gymuned leol hefyd weld budd.

Ffynhonnell y llun, Anglesey Mining
Disgrifiad o’r llun,

Mae awgrym o weithfeydd y gorffennol yn dal i'w gweld ar Fynydd Parys

Mae caniatâd cynllunio wedi ei gadarnhau ar gyfer y safle ond bydd angen sicrhau caniatâd pellach, archwiliadau amgylcheddol a chyllid pellach.

Yn ôl y cwmni fe fydd unrhyw waith pellach yn cael ei wneud dan dir ac fe fydd y safle dal ar gael i gerddwyr archwilio'r ardal fel sy'n boblogaidd.

Mewn datganiad fe ddywedodd Cyngor Môn fod gan y safle "bwysigrwydd hanesyddol o ran mwyngloddio".

"Rydym yn gefnogol mewn egwyddor, o ailddechrau gweithgareddau mwyngloddio yno - yn amodol ar gydymffurfiaeth o gloddfa gyda safonau amgylcheddol uchel a sicrhau buddion i'r gymuned leol."

Pynciau cysylltiedig