Kit Symons yn gadael fel is-reolwr Cymru yn dilyn Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Kit SymonsFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kit Symons ennill 36 cap dros Gymru yn ystod ei yrfa

Mae Kit Symons wedi gadael ei swydd fel is-reolwr tîm pêl-droed Cymru.

Cafodd Symons, 51, ei benodi i'r rôl gan y rheolwr Robert Page ym mis Mai 2021, a bu gyda'r garfan ar gyfer Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Dyna oedd y trydydd tro iddo gael ei benodi i dîm hyfforddi Cymru, yn dilyn dau gyfnod yn y swydd dan y cyn-reolwr Chris Coleman.

"Hoffwn ddiolch i Kit am ei waith caled a'i gyfraniad i'r tîm cenedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys dau dwrnament rhyngwladol yn y cyfnod hwnnw," meddai Page yn dilyn y cyhoeddiad.

"Wrth i ni geisio gyrraedd rhagor o dwrnamentau rhyngwladol, mae newid wastad yn bwysig er mwyn parhau i ddatblygu'r garfan. Hoffwn ddymuno'r gorau i Kit yn y dyfodol."

Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch ragbrofol i gyrraedd Euro 2024 ym mis Mawrth eleni yn Croatia - eu gwrthwynebwyr eraill nhw yn y grŵp fydd Twrci, Latfia ac Armenia.