Oedd Cymry Oes Fictoria yn gwneud 'Ionawr sych'?

  • Cyhoeddwyd
Iechyd da!Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Iechyd da!

Fyth ers sefydlu ymgyrch Alcohol Change UK nôl yn 2013 mae 'Ionawr Sych' neu Dry January wedi tyfu o nerth i nerth. Bwriad y symudiad ydy annog pobl i beidio ag yfed alcohol trwy gydol mis Ionawr.

Yn ystod oes Fictoria, fe ysgubodd ymgyrch debyg iawn ar draws Cymru gyda miloedd ledled y wlad yn penderfynu rhoi'r gorau i yfed alcohol - nid am fis, ond am byth.

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes dirwest yng Nghymru.

'Daeth gor-yfed yn arfer cyffredin'

O'u hoffter i godi gwydraid yn y ffeiriau amaethyddol i draddodiadau megis 'cwrw bach', lle'r oedd rhieni cwpl ifanc oedd am briodi yn gwerthu cwrw am bris uchel er mwyn codi digon o arian iddynt sefydlu cartref; yn hanesyddol, mae alcohol wedi chwarae rhan annatod ym mywyd cymdeithasol Cymru.

Gwaethygodd y sefyllfa yn ystod yr 1830au a daeth gor-yfed yn arfer cyffredin. Diolch i Ddeddf Gwrw 1830, roedd gan unrhyw drethdalwr a dalai ddwy gini'r flwyddyn yr hawl i geisio am drwydded i agor tafarn neu dŷ cwrw. Yn ei sgil, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y tafarndai, yn enwedig yn nhrefi newydd y deheudir a'r cymunedau hynny a dyfodd driphlith draphlith yn sgil diwydiant.

Y mudiadau dirwest ar dwf

Gyda diota ar gynnydd yng Nghymru croesawyd y syniad o sefydlu cymdeithasau dirwest - mudiadau â'u gwreiddiau yn yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd y gymdeithas Gymreig gyntaf ymhlith Cymry alltud Manceinion yn 1831 ac ymhen pedair blynedd roedd 25 o gymdeithasau yng Nghymru.

Yn y dyddiau cynnar, roedd dirwestwyr yn gosod pwyslais ar gymedroldeb. Golygai hyn bod unigolion yn tyngu i beidio ag yfed gwirodydd (spirits) ac eithrio ar gyfer dibenion meddyginiaethol ac yn addo i yfed diodydd megis cwrw yn gymedrol. Ond wrth i rym y capeli a dylanwad y Methodistiaid gynyddu daeth cymdeithasau llwyrymwrthodol - lle'r oedd unigolion yn tyngu i beidio ag yfed alcohol o gwbl - yn fwyfwy cyffredin a phoblogaidd.

Ffynhonnell y llun, Wiki
Disgrifiad o’r llun,

Mudiad Dirwest Aberdyfi c. 1885

Daeth y fuddugoliaeth fawr i lwyrymwrthodwyr Cymru ym 1881 pan basiwyd Deddf Cau Tafarndai ar y Sul yng Nghymru. Mae dadlau yn parhau hyd heddiw ynglŷn â phoblogrwydd y ddeddf ar lawr gwlad.

Serch hynny, rhaid cydnabod ei bod yn ddeddf wleidyddol bwysig yng nghyd-destun hanes Cymru. Dyma'r ddeddf gyntaf i ymdrin â Chymru fel endid annibynnol a chydnabod y gwahaniaethau diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol a oedd yn bodoli rhwng Cymru a Lloegr.

Cranogwen a merched Cymru'n uno yn erbyn alcohol

Enillodd dirwest gefnogaeth ymhlith trawstoriad o gymdeithas; o bregethwyr oedd yn pryderu am les moesol y genedl; i berchnogion gweithfeydd oedd eisiau gweithlu cryf; i famau a gwragedd a oedd yn teimlo effeithiau dinistriol alcohol ar yr aelwyd.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Cymdeithas Ddirwestol Merched Llandudno, tua'r flwyddyn 1890au

Ffurfiwyd Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru yn 1892 mewn ymgais i uno'r gwahanol gymdeithasau ar draws y gogledd. Ym 1901 ffurfiwyd Undeb Dirwestol Merched y De, gan gynnig llais a llwyfan i ferched de Cymru hefyd. Erbyn 1916, roedd tua 140 o ganghennau yn gysylltiedig ag undeb y de. Ffigwr pwysig ym mudiad dirwest y merched oedd Sarah Jane 'Cranogwen' Rees (1839-1916).

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cranogwen

Un mudiad a fu'n rhan ganolog o'r symudiad yn erbyn alcohol oedd y Band of Hope.

Sefydliad llwyrymwrthodol oedd y Band of Hope; eu hamcan oedd addysgu am bwysigrwydd sobrwydd o oedran ifanc. I ymuno roedd yn rhaid i'r aelodau dyngu llw na fyddent byth yn yfed diodydd meddwol. Rhan annatod o'u hymgyrch oedd cynnal gorymdeithiau hwyliog gyda baneri, sloganau a digonedd o gyd-ganu.

Erbyn 1897, roedd tua 3.2 miliwn o blant a phobl ifanc wedi ymuno â'r mudiad ar draws y Deyrnas Unedig.

Ffynhonnell y llun, Wiki
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn Aelodaeth Band of Hope o 1870

Y dafarn yn ddihangfa i'r dosbarth gweithiol

I deuluoedd dosbarth gweithiol a oedd yn aml yn byw mewn tai anaddas a gorboblog, roedd y dafarn yn cynnig dihangfa. Mewn ymdrech i gynnig man cyfarfod cysurus ac atal pobl rhag heidio i'r tafarndai, sefydlwyd gwestai, neuaddau a chaffis dirwest ar draws y wlad. Mewn Temperance Bar roedd perlysieuwyr (herbalists) yn cynhyrchu a gwerthu diodydd dirwestol fel cwrw sinsir, cwrw danadl poethion a chwrw dant y llew a chyngaf mawr neu dandelion and burdock.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Gwesty'r Douglas ar y Stryd Fawr ym Methesda. Llun o'r 1950au ond agorwyd y gwesty/tafarn rhwng 1820 a 1830

Roedd modd creu diodydd ysgafn cartref hefyd. Mae'r gyfrol boblogaidd Llyfr Coginio a Chadw'r Tŷ (c.1880) yn cynnig cyfarwyddiadau ar gyfer creu 'Champagne Dirwestol.' Roedd angen cymysgu un owns o asid tartarig; un lemwn; un owns o sinsir; pwys a hanner o siwgr gwyn a dau alwyn a hanner o ddŵr berwedig.

Wedi i'r gymysgedd oeri roedd angen ychwanegu chwarter peint o furum a'i adael i 'sefyll yn yr haul trwy'r dydd' cyn potelu a chorcio gyda'r nos. Yn y Saesneg cyfeiriwyd ato fel 'Sham-Champagne'!

Beth am geisio bragu 'chydig o Sham-Champagne fis Ionawr yma?

Hefyd o ddiddordeb: