Ystradfellte: Y chwilio am ail ddynes mewn afon yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Chwilio'n parhau am ail ddynes wedi marwolaeth Ystradfellte

Bydd ymdrechion i ddod o hyd i ail ddynes sydd ar goll mewn afon ger Ystradfellte ym Mhowys yn parhau dros y penwythnos.

Ddydd Iau fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod corff un ddynes wedi cael ei dynnu o'r afon, a bod y chwilio'n parhau am ail ddynes.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Rhaeadr Ystradfellte am 11:45 ddydd Mercher ar ôl i ddau berson gael eu gweld yn yr afon gan gerddwr.

Bu'r Gwasanaeth Tân, Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog, a hofrennydd yr heddlu yn cynorthwyo yn y chwilio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff dynes ei dynnu o'r dŵr ger Rhaeadr Ystradfellte ddydd Iau

Fore Gwener dywedodd llefarydd ar ran y tîm achub mynydd eu bod wedi bod yn gweithio yn ddiflino gydol ddydd Mercher a ddydd Iau gyda'r heddlu, swyddogion y Gwasanaeth Tân a wardeinaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ychwanegodd llefarydd bod lefelau uchel o ddŵr rhedegog cyflym yn yr afon a thywydd gwael yn gwneud y gwaith chwilio yn heriol.

Dywedodd hefyd bod y tîm yn meddwl am deuluoedd y ddwy ddynes, sy'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Mae Simon Foster yn hyfforddwr gweithgareddau awyr agored ym Mannau Brycheiniog.

Wrth ddisgrifio'r daith gerdded, dywedodd: "Mae'n daith boblogaidd ac wedi dod yn fwy poblogaidd yn ystod y pandemig.

"Mae'n daith oddeutu tair neu bedair awr ac yn ymddangos yn fflat a digon diniwed ar y dechrau ond mae ochrau'r dyffryn yn eitha' serth.

"Yn gyffredinol mae'r llwybrau yn cael eu cadw'n dda ond mae 'na lwybrau eitha' garw yn arwain at y rhaeadrau.

"Mae lefel y dŵr yn yr afon yn uchel fel arfer yn y gaeaf ac mae nerth llif y dŵr yn bwerus. Mae'n amgylchedd sy'n newid yn sydyn."

Ychwanegodd: "Rwy'n meddwl am deuluoedd y ddwy ddynes."