Menywod i ymuno â thraddodiad lleol Llantrisant am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd

Mae Beth Gibbon (dde) wedi gwneud cais am y tro cyntaf gan fod nifer o Ryddfreinwyr yn ei theulu
Ers bron i saith canrif, mae menywod wedi cael eu heithrio o draddodiad lleol yn Llantrisant.
Mae breintiau Rhyddfreinwyr Llantrisant wedi cael eu trosglwyddo gan deidiau i feibion a meibion-yng-nghyfraith ers y 14eg ganrif, ond am y tro cyntaf, fe all menywod wneud cais.
Mae nifer o fenywod wedi cofrestru'n barod ac yn gyffrous o gael eu cydnabod o fewn traddodiad hynafol.
Ond mae rhai o'r Rhyddfreinwyr presennol wedi gwrthwynebu'r newidiadau i'r hen arfer.
'Cael bod yn rhan o'r hanes'
Yn hanesyddol, roedd gan Ryddfreinwyr hawl i hunan-lywodraethu'r gymuned ynghyd â bod yn gyfrifol am y tir ac am ddigwyddiadau.
Tra nad oes ganddyn nhw'r hawliau hynny mwyach, mae'r Rhyddfreinwyr yn dal yn berchen ar 246 erw o dir Comin Llantrisant ac yn chwarae rôl ganolog o fewn y gymuned.
Rhan o'r traddodiad yw taith Beating the Bounds sy'n digwydd bob saith mlynedd. Mae'n arfer denu dros 10,000 o ymwelwyr wrth iddyn nhw gerdded saith milltir o gwmpas ffiniau hynafol yr ardal.
Mae llwybr y daith yn mynd drwy fferm deuluol Beth Gibbon.
Dywedodd y ffermwr, 45, mai "dim ond nawr y gallaf ddod yn rhan o'r hanes hwnnw a chael fy nghynnwys".

Mae Beth Gibbon a'i theulu wedi mwynhau'r traddodiad o'r daith saith milltir ar hyd y blynyddoedd
Fe briododd tad a thad-cu Mrs Gibbon ferched Rhyddfreinwyr.
"Gallwn i'n hawdd ddod o hyd i enwau'r dynion yn ein teulu drwy rôl y Rhyddfreinwyr, ond ar gyfer y menywod, ry'n ni'n gorfod dibynnu ar wybodaeth leol y teulu," meddai.
"Does dim record o'r un ohonyn nhw... ond o nawr ymlaen, mi fyddwn ni yno ac yn hawdd iawn i'n ffeindio."
'Pethau wedi newid'
Mae Chris Newland, 75 o Lantrisant hefyd wedi ymgeisio.
"Rwy'n ddiolchgar iawn bod yr ymddiriedolwyr wedi teimlo bod pethau wedi newid o fewn cymdeithas fodern ac y gall menywod nawr gael eu gwneud yn Rhyddfreinwyr yn eu rhinwedd eu hunain," meddai.

Mae Chris Newland (canol) yn falch fod "pethau wedi newid"
"Dechreuais edrych ar hanes fy nheulu fy hun yn ddiweddar a dwi'n gallu olrhain yn ôl i ddyn o'r enw Richard Rees oedd yn rhif 308, felly roedd yn eithaf cynnar ar y gofrestr.
"Cafodd ei wneud yn Rhyddfreiniwr yn 1824."
Dywedodd Mrs Newland y byddai cael bod yn Rhyddfreiniwr yn arbennig o arwyddocaol iddi oherwydd bod ei mam-gu, Esther Louisa Page, ynghyd â nifer o wragedd eraill i Ryddfreinwyr, wedi dod ag anghydfod hir am ddefnydd y Comin fel cwrs golff i ben drwy brotest heddychlon.
"Felly'r cyfan alla i ddweud yw 'Diolch Nanny Esther. Dwi'n gobeithio eich bod chi mor falch ag ydw i y bydda i'n un o'r menywod cyntaf i gael fy enwi'n Rhyddfreiniwr ac y galla i barhau â'ch gwaddol o warchod y Comin."

Mae Rhyddfreinwyr yn berchen ar rai erwau o dir Comin Llantrisant
Dywedodd Dean Powell, clerc Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant, fod 1,280 o bobl yn Rhyddfreinwyr Llantrisant, gydag aelodau ar draws y byd - gan gynnwys yn Japan, yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
"I lawer o bobl sy'n cofrestru, mae 'na deimlad o gysylltiad gyda'r dref," meddai.
"Mae 'na deimlad o berthyn iddo mewn gwirionedd, ac mae'n cadw hen draddodiad i fynd gyda'u teuluoedd."
Dywedodd Mr Powell fod trefi eraill yn arfer bod â Rhyddfreinwyr ond gan nad oedden nhw'n cydnabod menywod, bu farw'r traddodiad.
"Yn Llantrisant ry'n ni ychydig yn wahanol oherwydd ein bod ni'n cofrestru meibion-yng-nghyfraith, felly ro'n ni'n cydnabod rôl menywod bryd hynny.
"Doedden ni ddim yn gymaint o dref oedd â dynion yn dominyddu wedi'r cyfan."
'Gwael i beidio annog menywod'
Dywedodd fod nifer wedi gofyn i ymddiriedolaeth y dref pam na allai merched y Rhyddfreinwyr gofrestru ar hyd y blynyddoedd.
"Fe wnaethon ni esbonio fod hwn yn draddodiad 1,000 o flynyddoedd oed ac nad oedd yn rhaid i ni wneud penderfyniad i wneud y newid eto.
"Y teimlad yw wrth gwrs, yn enwedig nawr, hyd yn oed yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, fod cymdeithas wedi newid cryn dipyn tuag at gydraddoldeb.
"Mae'n wael i beidio annog menywod i gofrestru hefyd. Mae bob amser yn well i symud â'r amseroedd yn hytrach na chael ein gwthio iddo."
Dywedodd y clerc nad yw pob Rhyddfreiniwr yn hapus ynghylch y penderfyniad, ond bod cyfarfod arbennig wedi ei gynnal a bod y cynnig i newid y traddodiad wedi'i dderbyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2014