Tref i werthu ceffylau anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
Ceffylau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ceffylau yn pori ar dir comin sy'n berchen i Ryddfreinwyr tref Llantrisant

Bydd unrhyw geffylau sy'n pori ar dir comin yn Llantrisant heb ganiatâd yn cael eu cymryd a'u gwerthu gan Ymddiriedolaeth y Dref.

Mae hyn yn ymateb i'r ffaith bod mwy a mwy o bobl yn gadael eu ceffylau mewn llefydd o'r fath oherwydd nad ydynt eisiau - neu yn gallu - talu am eu cadw.

Fe wnaeth yr RSPCA ryddhau adroddiad, dolen allanol ar y pwnc y flwyddyn ddiwethaf, sy'n dweud mai'r hinsawdd economaidd a gor-fridio sy'n bennaf gyfrifol.

Mae'r ceffylau yn aml mewn cyflwr gwael ac yn gallu bod yn beryglus.

'Ddim yn dderbyniol'

Mae llawer o'r tir comin yn y dref yn berchen i Ryddfreinwyr y dref ers dros ganrif, ac maen nhw'n poeni fwyfwy am y sefyllfa.

Dywedodd Huw Rees, sy'n aelod o Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant: "Fel tirfeddiannwr mwyaf Llantrisant mae gennym ddyletswydd i'r Rhyddfreinwyr a'r trigolion i wneud popeth o fewn ein gallu i reoli'r holl dir mewn modd cyfrifol.

"Dyw e ddim yn dderbyniol i geffylau gael eu cyflwyno i'r comin a'u gadael yno..."

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi buddsoddi mewn sganiwr sy'n gallu darllen microsglodion i'w galluogi i ddweud os yw'r ceffylau'n pori'n gyfreithlon a'u peidio.

Mae'n rhaid i bob ebol gael ei dagio gan un o'r rhain o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd unrhyw geffylau sy'n cael eu darganfod i fod yno yn anghyfreithlon yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol