Chwilio Afon Mawddach am ddyn aeth ar goll cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Ganllwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod yn dal i chwilio afon ger Dolgellau am ddyn sydd ar goll ers cyn y Nadolig.

Dywed yr heddlu fod y dyn wedi mynd i Afon Mawddach yn ardal Ganllwyd ar 23 Rhagfyr.

Mae'r heddlu'n parhau yn yr ardal a bydd hofrennydd yn helpu gyda'r chwilio dros y penwythnos, os ydy'r tywydd yn caniatáu.

Mae'r heddlu yn apelio ar y cyhoedd i roi gwybod iddyn nhw os ydyn nhw wedi gweld unrhyw eitem yn yr afon.

"Byddem hefyd yn gofyn i unrhyw bobl leol a allai fod wedi gweld y dyn yn y cyfnod cyn ei ddiflaniad, ac sydd heb siarad â'r heddlu eto, i ddod ymlaen ag unrhyw wybodaeth," meddai datganiad.

Pynciau cysylltiedig