Wrecsam i herio Sheffield United yng Nghwpan FA Lloegr

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Wrecsam i drechu Coventry yn y drydedd rownd ddydd Sadwrn

Bydd Wrecsam yn croesawu Sheffield United o'r Bencampwriaeth i'r Cae Ras ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Dyma'r tro cyntaf i'r clwb gyrraedd y rownd yma yn y gystadleuaeth ers 2000, a daw wedi iddyn nhw drechu Coventry o 3-4 ddydd Sadwrn.

Mae Sheffield United yn ail yn y Bencampwriaeth, sy'n golygu fod 72 o safleoedd rhyngddyn nhw a Wrecsam yng nghynghreiriau Lloegr ar hyn o bryd.

Roedd Abertawe a Chaerdydd yn yr het ar gyfer y bedwaredd rownd hefyd, ond bydd yn rhaid iddyn nhw ennill eu gemau ailchwarae er mwyn cyrraedd y rownd honno yn dilyn gemau cyfartal ddydd Sul.

Os ydy Abertawe yn llwyddo i drechu Bristol City, fe fyddan nhw'n croesawu un ai Chesterfield neu West Bromwich Albion - sydd hefyd angen ailchwarae - i Stadiwm Swansea.com.

Pe bai Caerdydd yn fuddugol oddi cartref yn Leeds, byddan nhw'n teithio i herio Boreham Wood neu Accrington Stanley yn y rownd nesaf.

Bydd gemau'r bedwaredd rownd yn cael eu chwarae rhwng 27 a 30 Ionawr.