Llifogydd a channoedd heb drydan ar ôl glaw trwm dros nos

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae tua modfedd o ddŵr wedi mynd i mewn i Glwb y Bont ym Mhontypridd

Mae cawodydd trwm o law a gwyntoedd cryfion yn achosi trafferthion yn ne a chanolbarth Cymru, gan gynnwys llifogydd a thoriadau trydan.

Roedd dros 600 o gartrefi heb drydan tua 08:00 fore Iau, yn ôl y Grid Cenedlaethol - y mwyafrif yng Nghasnewydd - ond erbyn amser cinio roedd y nifer wedi gostwng i lai na 250.

Mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymu wedi bod yn delio ag achosion o lifogydd.

Porth a Phontypridd, yn Rhondda Cynon Taf, sydd ymhlith yr ardaloedd sydd wedi eu taro waethaf.

Ym Mhontypridd, mae Clwb y Bont - sydd newydd gwblhau gwaith trwsio yn dilyn difrod difrifol Storm Dennis - wedi ei daro eto.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod lleihau'r perygl o lifogydd yn "flaenoriaeth", a'u bod yn darparu "mwy o arian nag erioed" er mwyn diogelu cartrefi a busnesu ar draws y wlad.

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd ar y traciau rheilffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-bont brynhawn Iau

Mae rhybudd melyn am law a ddaeth i rym nos Fercher, gan effeithio ar bob rhan o Gymru ag eithrio chwe sir y gogledd, ac oedd i fod i bara tan 17:00, erbyn hyn wedi cael ei ganslo.

Yn y cyfamser, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd newydd - am wynt y tro hwn - sy'n effeithio ar Ynys Môn a rhai mannau arfordirol yn siroedd Gwynedd a Chonwy.

Mae'r rhybudd yma mewn grym ers 15:00 brynhawn Iau ac yn para tan 03:00 fore Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond yn ddiweddar mae Clwb y Bont ym Mhontypridd wedi adnewyddu'r adeilad yn dilyn llifogydd

Roedd 629 o gwsmeriaid heb drydan yng Nghymru fore Iau, gan gynnwys 458 "am gyfnod byr" yn nwyrain Casnewydd.

Erbyn 12:30 roedd y cyfanswm i lawr i 245, gan gynnwys 63 yn ardal rhodfa lan môr Penarth, sydd heb drydan ers "nifer o oriau".

Mae peirianwyr hefyd yn ymateb i amhariad sy'n effeithio ar 112 o gwsmeriaid yn Cross Hands, yn Sir Gâr.

Mae cwsmeriaid hefyd wedi bod heb gyflenwad yn ardal Llanelli ac ym Mynydd Cynffig yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn ôl y cwmni sy'n gwasanaethu'r gogledd, SP Energy Networks, mae yna adroddiadau o doriadau i gyflenwadau trydan ar Ynys Môn ac yn ardaloedd Dinbych a Phwllheli.

Fe allai cwsmeriaid yn ardal Bae Trearddur fod heb drydan tan 16:00 wrth i waith trwsio gael ei gwblhau ar bolyn foltedd uchel.

Am 09:00 bore Iau roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 28 o rybuddion llifogydd a 43 rhybudd 'byddwch yn barod' - mae'r sefyllfa ddiweddaraf yma, dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Davies eu bod wedi "dal pethau'n ddigon cynnar i atal unrhyw ddifrod difrifol i'r clwb"

Wrth ddisgrifio'r sefyllfa o'i gwmpas ar raglen Dros Frecwast, dywedodd gohebydd BBC Cymru, Alun Thomas bod perchennog sawl busnes ar stryd fawr Pontypridd, Stryd Taf yn wynebu gwaith clirio gan fod dŵr wedi mynd i'w isloriau.

Un o'r adeiladau sydd wedi eu taro yw Clwb y Bont a gafodd ddifrod difrifol yn sgil Storm Dennis bron i dair mlynedd yn ôl.

Dim ond wythnosau'n unig sydd ers i'r lle ailagor ar ôl cael gwaith adnewyddu sylweddol yn sgil y difrod mawr achoswyd 'nôl yn 2020.

'Siomedig iawn'

Dywedodd Guto Davies, rheolwr y bar yng Nghlwb y Bont, na chawson nhw wybod bod yna rybudd llifogydd mewn grym ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd, ac felly nad oedd y rhwystrau llifogydd sydd ganddyn nhw wedi eu gosod.

"Ma' dŵr wedi mynd mewn i'r clwb - tua modfedd neu ddwy - felly dyw hi ddim yn rhy ddrwg ond mae'n siomedig iawn wrth gwrs," meddai.

Ffynhonnell y llun, Clwb y Bont
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwaith adeiladu ac adnewyddu wedi digwydd yng Nghlwb y Bont yn ystod y pandemig

"Do'n ni ddim wedi derbyn rhybudd llifogydd ar Afon Taf ym Mhontypridd.

"Petaen ni wedi derbyn rhybudd bydden ni wedi bod lawr yn gynharach i roi barriers lan i atal y llif, ond dyw hynny ddim wedi digwydd.

"Dy'n ni'n meddwl mai'r draeniau sydd ddim yn gallu cymryd lefel y dŵr.

"Ond o leiaf ni wedi dal pethau'n ddigon cynnar nawr i atal unrhyw ddifrod difrifol i'r clwb."

Ychwanegodd ei bod yn annhebygol iawn y bydd modd cynnal digwyddiad oedd wedi'i drefnu yno at nos Sadwrn yn dathlu'r hen Galan, ond nad yw'n credu y bydd y clwb ynghau am yn rhy hir y tro hwn.

Dywed Heddlu'r De bod Stryd Taf yn debygol o fod ar gau "am beth amser", ac mae yna gyngor i bobl osgoi'r ardal.

'Mae'n dorcalonnus'

Mae'r sefyllfa, medd Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd yn rhanbarth Canol De Cymru, yn "dorcalonnus" ac yn "boenus".

Ond, meddai, "wrth lwc, ddim mor ddrwg â'r hyn welson ni yn 2020, ond yn amlwg i'r busnesa' sydd wedi'u heffeithio, mae jyst ca'l 'chydig o ddŵr i mewn yn gallu bod yn hynod niweidiol".

"Dwi'n meddwl mai'r hyn sy'n pryderu pobl ydy bod o wedi digwydd eto, bod y cynllunia' argyfwng dal ddim yn eu lle a hefyd bod ni yn gweld bod y rhagolygon tywydd ddim yn wych dros y dyddia' ac wythnosa' nesa' 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Heledd Fychan yn galw am fwy o gefnogaeth i gymunedau sydd "â risg barhaol" o lifogydd yn sgil newid hinsawdd

Mae'r AS Plaid Cymru, a alwodd am ymchwiliad cyhoeddus yn dilyn llifogydd 2020, yn galw am fwy o sicrwydd i gymunedau "sydd efo'r risg barhaol 'na rŵan" o drafferthion posib "bod popeth posib yn cael ei 'neud".

"Ma' rhaid ca'l atebion a datrysiada' brys a mwy o gefnogaeth oherwydd yr effaith ar iechyd meddwl pobl sydd methu cysgu bob tro mae'n bwrw glaw'n drwm, a wedyn busnesa' fel hyn yn cael eu heffeithio dro ar ôl tro.

"Fedrith hyn ddim parhau heb fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru."

Byddai hynny, meddai, yn golygu "edrych o ddifri ar y risg sydd 'na efo'r argyfwng hinsawdd" a sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol â digon o staff arbenigol i reoli ac atal llifogydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kevin Evans ei achub gan y gwasanaeth tân ac achub wedi i'w gerbyd fynd yn sownd ger Llanymddyfri

Cafodd Kevin Evans, 55 o Landysul, ei achub gan dîm cychod arbenigol Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin wedi i'w gerbyd fynd yn sownd mewn dŵr dwfn ar yr A4069 ger Llanymddyfri, Sir Gâr.

"O'n i'n dilyn dau gar - o'n i'n gweld y dŵr ond o'n i'n meddwl bod e digon isel i fi fynd trwyddo," meddai wrth BBC Cymru wedi iddo gael ei achub.

"Aeth y ddau gar trwyddo, ond es i'n sownd. Torrodd yr engine mas, a fan 'ny 'wen i am ddwy neu dair awr.

"O'n i'n dechre becso yn y diwedd achos o'dd y dŵr yn codi, ac o'n i ffaelu agor y drws."

Ychwanegodd ei fod yn "diolch i Dduw" am y diffoddwyr tân a ddaeth i'w achub.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o geir wedi cael eu dal mewn dŵr yn Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg

Disgrifiad o’r llun,

Aeth maes ymarfer golff yn Hensol, Bro Morgannwg, dan ddŵr wedi i Afon Elái orlifo

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Mike Evans, pennaeth gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, y dylai pobl aros adref a pheidio teithio ddydd Iau os yw hynny'n bosib.

"Mae glaw trwm wedi disgyn dros ganolbarth a de Cymru ers wythnosau," dywedodd.

"Fel y'n ni'n clywed mae 26 o rybuddion llifogydd dal mewn grym ledled de Cymru a'r canolbarth ac yn effeithio ar afonydd fel Taf, Cynon, Hafren, Rhondda, Efyrnwy, Gwy a Wysg.

"Mae sawl tŷ yn Ynyshir wedi eu heffeithio yn y Rhondda yn y de. Ond ni'n disgwyl sawl awr mwy o law yn ystod y dydd heddi'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori pobl i osgoi Llwybr Taf ddydd Iau

Ffynhonnell y llun, Dani Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr afon yn uchel iawn ger caeau Pontcanna ac wrth Bont y Gored Ddu (Blackweir)

Dywedodd bod staff yn sicrhau fod amddiffynfeydd llifogydd yn "gweithio'n iawn" a thimau'n monitro lefel y glaw a'r afonydd.

Ychwanegodd fod cyngor i bobl ar eu gwefan ac y gall pobl gysylltu dros y ffôn hefyd os oes llifogydd.

"Byddwch yn wyliadwrus a checiwch ar y wefan, os ydych chi'n gallu osgoi mynd allan, arhoswch gartref.

"Mae'n gallu bod yn beryglus tu hwnt."

Disgrifiad o’r llun,

Ger Y Trallwng roedd ffyrdd wedi eu rhwystro gan lifogydd

Disgrifiad o’r llun,

Car yn sownd mewn dŵr ar un o ffyrdd Pontypridd

Mae Heddlu Gwent wedi eu galw i ddelio â choed sydd wedi disgyn rhwng Llanbradach a Dyffryn, tra bo Heddlu Dyfed-Powys wedi eu galw i ddelio a llifogydd yn Llanfair-Ym-Muallt a Llyswen.

Mae Heddlu'r De wedi apelio ar yrwyr i osgoi'r cylchdro ger Parc Ynysyngharad ym Mhontypridd oherwydd llifogydd, ac mae'r M48 Pont Hafren ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Cas-gwent a Lloegr.

Mae Ffordd Mynydd y Bwlch yn Nantymoel, Rhondda Cynon Taf ar gau yn rhannol i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4223 Ffordd Pen-twyn oherwydd tirlithriad.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Llangadog mae Afon Tywi wedi gorlifo ddydd Iau

Dywed Trafnidiaeth Cymru bod glaw trwm wedi achosi llifogydd ar y rheilffyrdd gan achosi rhwystrau ar sawl lein - rhwng Pontypridd a Threherbert, rhwng Abercynon ac Aberdâr, rhwng gorsaf ganolog Caerdydd a Chaerffili, a rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Llanilltud Fawr.

Yn sgil "trafferthion ar hyd y rhwydwaith yn ne Cymru oherwydd llifogydd a digwyddiadau eraill yn gysylltiedig â'r tywydd" mae llefarydd yn "cynghori teithwyr yn gryf i wirio'r wybodaeth teithio ddiweddaraf cyn dechrau ar eu siwrne".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod lleihau'r perygl o lifogydd yn "flaenoriaeth", a'u bod yn darparu "mwy o arian nag erioed" er mwyn diogelu cartrefi a busnesu ar draws y wlad.

"Yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth fe wnaethom fuddsoddi dros £390m ar reoli llifogydd ac erydiad arfordirol... gan leihau'r perygl i fwy na 47,000 eiddo ar draws Cymru," meddai.

"Y flwyddyn ariannol hon rydym yn buddsoddi mwy na £71m trwy awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru."

Pynciau cysylltiedig