Covid: Nyrsys wedi marw o 'afiechyd diwydiannol'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth nyrsys fu farw o Covid-19 ar ddechrau'r pandemig wedi dod i'r casgliad eu bod wedi marw o ganlyniad i afiechyd diwydiannol.
Yn y cyfnod pan wnaeth Gareth Roberts a Dominga David ddal Covid, clywodd y cwest bod nyrsys ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn gwisgo mygydau, menyg a gorchuddion plastig wrth drin cleifion, ond nid fel arall.
Clywodd y crwner ym Mhontypridd hefyd bod cyfarfodydd i basio gwybodaeth draw rhwng shifftiau yn digwydd mewn ystafelloedd bach ble nad oedd pobl yn gwisgo mygydau.
Ar y pryd, doedd cleifion i gyd yn ddim eu profi ar gyfer Covid-19 chwaith.
'Wedi ei ddal yn y gwaith'
Roedd Gareth Morgan Roberts, 65, yn nyrs wedi ymddeol oedd yn dal i weithio shifftiau ward yn achlysurol.
Roedd wedi dweud wrth gydweithwyr nad oedd eisiau symud i weithio ar ward Covid yn Ysbyty Athrofaol Cymru gan ei fod yn gofalu am ei ŵyr, oedd â diabetes.
Fe aeth yn sâl ddyddiau wedi i'r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ddod i rym ddiwedd mis Mawrth 2020, a bu farw ar 11 Ebrill.
Cafodd Dominga David, 63, ei hanfon adref o shifft nyrsio yn Ysbyty Llandudoch, Penarth ar 31 Mawrth 2020 ar ôl i'w thymheredd gyrraedd 39.3C.
Bu farw o Covid-19 ar 26 Mai 2020.
Wrth gofnodi marwolaeth o ganlyniad i afiechyd diwydiannol, dywedodd Uwch Grwner Canol De Cymru, Graeme Hughes mai'r "tebygolrwydd oedd eu bod wedi dod i gyswllt [gyda Covid] yn y gweithle".
"Mae'n fwy tebygol na pheidio eu bod wedi dod i gyswllt gyda feirws Covid-19 wrth weithio, yna ei ddal, a marw o ganlyniad," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022