Adran Dau: Caerliwelydd 2-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Caerliwelydd v CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae rhediad Casnewydd heb ennill wedi ymestyn i chwech o gemau bellach wedi iddyn nhw ddychwelyd o'u trip pell i ogledd Lloegr yn waglaw.

Bu bron i Gasnewydd gael y dechrau perffaith wrth i Will Evans orfodi camgymeriad gan golwr Caerliwelydd, Tomas Holy, ond fe roddodd Lewis Collins yr ergyd heibio i'r postyn.

Er i'r ymwelwyr gael cyfleoedd i fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf, daeth y gôl gyntaf i Kristian Dennis yn eiliadau olaf yr hanner i roi'r fantais i'r tîm cartref ar yr egwyl.

Wedi 56 munud o chwarae dyblwyd y fantais gan John-Kymani Gordon i sicrhau'r tri phwynt, wrth i'w ergyd isel guro'r golwr Joe Day.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn 18fed yn nhabl Adran Dau.

Pynciau cysylltiedig