Caerdydd yn diswyddo Mark Hudson fel rheolwr

  • Cyhoeddwyd
Mark HudsonFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae Caerdydd wedi diswyddo eu rheolwr Mark Hudson wedi cyfnod o ddim ond pedwar mis wrth y llyw.

Cafodd cyn-gapten yr Adar Gleision wybod ei fod wedi cael y sac yn dilyn y gêm gyfartal yn erbyn Wigan brynhawn Sadwrn.

Bydd Dean Whitehead yn cymryd yr awenau dros dro, gyda Chaerdydd yn 21ain yn nhabl y Bencampwriaeth a thri phwynt uwchben safleoedd y cwymp.

Dywedodd y clwb mewn datganiad y byddan nhw'n chwilio am reolwr newydd "yn syth", a'u bod yn dymuno'r gorau i Hudson.

Dyw Caerdydd heb ennill mewn naw gêm, gyda'r ergyd ddiweddaraf yn dod pan sgoriodd Wigan yn y munud olaf i'w hatal nhw rhag cipio buddugoliaeth hollbwysig.

Dim ond ym mis Medi y cafodd Hudson y swydd - ac fe gafodd gytundeb parhaol ym mis Tachwedd - ar ôl olynu cyn-chwaraewr Cymru Steve Morison.