Cau ysgolion a ffyrdd ar ôl rhew ac eira
- Cyhoeddwyd
![Pendoylan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1746E/production/_128324359_mediaitem128324358.jpg)
Ym Mhendeulwyn, Bro Morgannwg, fe wnaeth sawl cerbyd droi drosodd ar y lonydd rhewllyd, ond nid oes adroddiadau o anafiadau
Mae ffyrdd ynghau a chyngor i bobl ar draws Cymru fod yn ofalus wrth i rew ac eira daro'r wlad.
Mae amryw o rybuddion mewn grym gan y Swyddfa Dywydd, gyda'r cyntaf o'r rheiny - rhybudd melyn am rew ac eira ar gyfer gogledd Cymru - wedi dod i ben am hanner dydd ddydd Mawrth.
Bryd hynny, fe ddaeth rhybudd arall am rew ac eira i rym tan 12:00 ddydd Mercher ar gyfer mwyafrif y wlad - pob sir oni bai am Sir Benfro, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont.
Ond mae rhybudd arall, hefyd am rew ac eira, yn weithredol ar gyfer y siroedd hynny yn y de a'r de-orllewin o 18:00 nos Fawrth tan hanner dydd ddydd Mercher.
Roedd sawl ysgol yn Sir Conwy, dolen allanol, Sir Ddinbych, dolen allanol a Sir y Fflint, dolen allanol ynghau ddydd Mawrth o ganlyniad i'r amodau gaeafol.
Cadarnhaodd Coleg Llandrillo hefyd y bydd eu campws yn Llandrillo-yn-rhos, Sir Conwy, ynghau ddydd Mawrth oherwydd "eira trwm".
![Derwen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/55E7/production/_128319912_derwen2highres.jpg)
Caeau rhewllyd yn ardal Derwen, rhwng Rhuthun a Chorwen yn Sir Ddinbych, fore Mawrth
Roedd y tymheredd oeraf dros nos yng Nghymru ym Mhontsenni, Powys, ble cyrhaeddodd hi -7.7C
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fore Mawrth eu bod naw o wrthdrawiadau wedi cael eu hadrodd i'r llu dros nos yn sgil "amodau gwael iawn ar y ffyrdd".
Roedd y llu wedi dweud nos Lun fod gwrthdrawiadau ar ffyrdd gwledig ger Rhuthun a'r Bala.
![Conwy](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7A46/production/_128320313_untitled.jpg)
Yr olygfa yng Nghonwy fore Mawrth
Cafodd yr A55 ei rhwystro'n rhannol i gyfeiriad y gorllewin ger cyffordd 35 yn Sir y Fflint oherwydd gwrthdrawiad yn sgil yr eira.
Bu'r A470 hefyd ynghau rhwng Rhaeadr Gwy a Llangurig ym Mhowys oherwydd llifogydd.
Roedd y B5105 ar gau dros nos yng Nghonwy, rhwng Llanfihangel Glyn Myfyr i Glawddnewydd, oherwydd eira.
![A55 at Ewloe, Flintshire](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0C77/production/_128319130_c789eb13-1883-41b8-b8ac-25f1d5ff4933.jpg)
Roedd traffig yn araf ar yr A55 fore Mawrth oherwydd yr amodau, fel yma yn ardal Ewlo, Sir y Fflint
Cafodd 14 o wrthdrawiadau eu hadrodd i Heddlu De Cymru dros nos, ac wyth i Heddlu Gwent.
Roedd sawl ffordd ar gau nos Lun, gan gynnwys rhan o'r A488 rhwng Bleddfa a Thref-y-clawdd ym Mhowys a'r B4263 at fynydd Caerffili.
Dywedodd Heddlu'r De y bu Ffordd Lecwydd (B4267) hefyd ynghau i'r ddau gyfeiriad ym Mro Morgannwg oherwydd yr amodau gwael.
Daw wrth i sawl ardal yng nghanolbarth, gorllewin a de Cymru barhau i ddelio gydag effeithiau llifogydd yn dilyn glaw trwm.
![Treuddyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4332/production/_128320271_microsoftteams-image-4.png)
Eira ar ffordd wledig ym mhentref Treuddyn ger Yr Wyddgrug
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/5354/production/_128023312_ccb00268-6707-48bb-8f34-13ab640793e2.gif)
Gwiriwch a oes ysgolion ynghau yn eich ardal chi
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023