Plant ysgol Llanuwchllyn yn rhoi hwb i frithyll Afon Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y pysgod yn cael eu gadael i'r dŵr yn Afon Dyfrdwy yn Llanuwchllyn

Mae disgyblion Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn yn rhan o gynllun arbennig i roi hwb i'r brithyll yn Afon Dyfrdwy gerllaw'r ysgol.

Mae deorfa wedi ei sefydlu yn yr ysgol a'r disgyblion, gyda chymorth swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri, fydd yn gyfrifol am edrych ar ôl y pysgod cyn y byddan nhw'n cael eu gollwng i'r afon.

Mae'n rhan o gynllun ehangach i warchod Afon Dyfrdwy.

Mae 100 o wyau brithyll wedi eu gosod mewn tanc yn yr ysgol, ac mae'r disgyblion yn edrych ymlaen yn fawr i weld be' fydd yn digwydd dros yr wythnosau nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae George, Malen a Now wrth eu bodd gyda'r cynllun

"Be dwi'n hoffi am y pysgod ydy fy mod yn cael gweld nhw'n tyfu ac yn cael gweld nhw'n agor, a 'dan ni'n gwybod os ydyn nhw'n wyn byddan nhw'n marw ac os ydyn nhw'n oren mi fyddan nhw'n deori," meddai Now.

"'Dan ni wedi dysgu lot o bethe 'dan ni heb ddysgu o'r blaen,".

Un arall sydd wrth ei bodd ydy Malen ac meddai: "Mae'n beth newydd a 'dan ni rili wedi joio… dysgu amdan y peth ac edrych ar ôl nhw a gwneud yn siŵr bod nhw'n iach ac yn saff."

Mae George yn hoff iawn o bysgod ac yn mynd i bysgota efo'i dad.

Dywedodd: "'Dan ni angen cadw tymheredd y dŵr rhwng 10C a 10.5C.

"Dwi'n dda iawn efo pysgod so o'n i isio gwneud o a dwi'n mwynhau efo'r pysgod. Dwi jyst yn hoffi pysgod a dwi'n mynd i bysgota efo dad ac o'n i jyst isio cymryd rhan ynddo fo."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y pennaeth, Siôn Tudur Jones, e fod yn "ffyddiog y bydd hyn yn annog ein disgyblion i ddysgu mwy am fyd natur"

Dywedodd pennaeth Ysgol O M Edwards, Siôn Tudur Jones: "Rydyn ni'n ddiolchgar a chyffrous i gael bod yn rhan o'r prosiect deorfa bysgod.

"Mae'n gyfle arbennig i'r disgyblion i ddysgu am gylch bywyd pysgod yn ogystal â chael y cyfrifoldeb i ofalu amdanynt.

"Rwy'n ffyddiog y bydd hyn yn annog ein disgyblion i ddysgu mwy am fyd natur a'r amgylchedd o'u hamgylch.

Yn dilyn sgwrs gyda'r wardeiniaid Arwel Morris a Robat Davies, mae pawb yn awyddus iawn i weld sut y bydd y ddeorfa'n datblygu dros yr wythnosau nesaf."

Modd eu gweld o bob cwr o'r byd

Yn ogystal â'r ddeorfa yn yr ysgol, bydd deorfa arall o dan ofal wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn eu canolfan ar lan Llyn Tegid.

Oddi yno byddant yn monitro cyflwr yr wyau ac yn paratoi dyddiaduron fideo ar gyfnodau allweddol yn eu datblygiad.

Bydd y dyddiaduron fideo hyn yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we'r prosiect ac ar sianel YouTube Awdurdod y Parc, a bydd gwe-gamera pwrpasol yn ffrydio'n fyw o'r ddeorfa felly gall plant a phobl o bob cwr o'r byd wylio datblygiad y pysgod.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y plant a wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn monitro'r wyau yn ofalus

Dywedodd Arwel Morris, Warden Llyn Tegid a'r ardal: "Trwy ddysgu am gylch bywyd y brithyll trwy brofiad ymarferol - o baratoi'r ddeorfa, gosod yr wyau a gofalu amdanynt hyd eu rhyddhau yn Afon Dyfrdwy, gobeithio y bydd y profiad yn meithrin diddordeb mewn amgylchedd afon a'r byd naturiol yn gyffredinol, a'r awch i ofalu amdano."

Bydd y pysgod bach yn cael eu gollwng i Afon Dyfrdwy ger Llanuwchllyn. Mae'r afon yn llifo am ddegau o filltiroedd gan gyrraedd y môr yn ardal Caer.

'Gwarchod yr afon yn y dyfodol'

Ychwanegodd rheolwr prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, Joel Rees-Jones: "Yn dilyn llwyddiant y ddeorfa dosbarth y gaeaf diwethaf, rydym yn hynod falch fod Parc Cenedlaethol Eryri'n cynnal y prosiect eto.

"Mae rhoi cyfle i blant ysgol weld wyau brithyll yn datblygu a deor yn eu dosbarth neu ar-lein yn ffordd wych iddynt wneud cysylltiad â'u hafon leol.

"Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi bod yn gweithio ar draws dalgylch yr Afon Dyfrdwy er mwyn cael gwared â rhwystrau a gwella'r cynefin yn yr afon er budd ystod eang o rywogaethau yn cynnwys eogiaid, lampreiod a brithyll, gyda chanlyniadau cadarnhaol eisoes i'w gweld.

"Bydd rhoi'r cyfle i blant weld yr hyn sydd fel arfer o'r golwg dan wyneb y dŵr gobeithio yn sicrhau eu bod yn gwarchod eu hafon leol yn y dyfodol."