60 mlynedd ers dechrau'r rhediad yn erbyn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
cymru - lloegrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae hi'n 60 mlynedd ers i dîm rygbi Cymru ddechrau ar rediad anhygoel yn erbyn Lloegr ar Barc yr Arfau.

Rhwng 1963 a 1991 roedd Cymru'n ddiguro yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad, fel yr oedd ar y pryd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw fe enillodd Gymru y Gamp Lawn dair gwaith, yn 1971, 1976 ac 1978. Hefyd, enillwyd y Goron Driphlyg wyth gwaith; 1965, 1969, 1971, 1976, 1977, 1978, 1979 ac 1988.

'Codi arswyd ar dîm rygbi Lloegr'

Cennydd Davies, gohebydd rygbi BBC Cymru, sy'n rhoi rhywfaint o'r hanes: "Am genhedlaeth a mwy roedd ymweld â Chaerdydd yn ddigon i godi arswyd ar dîm rygbi Lloegr, ac roedd buddugoliaeth (i Gymru) dros yr hen elyn yn y brifddinas wedi dod yn rhywbeth i'w ddisgwyl.

"Nôl ym mis Ionawr 1963 roedd y wlad gyfan yn sownd yng ngafael un o'r gaeafau gwaethaf erioed a'r gêm ar gychwyn Pencampwriaeth y Pum gwlad yn y fantol oherwydd y tywydd rhynllyd. Y diwrnod hwnnw doedd Cymru o dan arweinyddiaeth Clive Rowlands (oedd yn ennill ei gap cyntaf) ddim yn gallu trechu'i gwrthwynebwyr wrth i dîm Richard Sharp ennill o 13-6.

"Yn ddiymwybod i bawb ar y pryd fyddai 'na 28 o flynyddoedd yn pasio cyn i'r Saeson brofi buddugoliaeth yn Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Lloegr 13-6 Cymru, 19 Ionawr 1963. Yn y llun mae capten Cymru, Norman Gale yn gafael yn John Thorne, gyda Denzil Williams yn mynd am y bêl. Roedd yr amodau yn anodd dros ben - dyma oedd y gaeaf oeraf ym Mhrydain ers 1740.

Y gêm yn 1963 oedd ymddangosiad cyntaf Clive Rowlands dros ei wlad, gyda'r gwibwyr Ken Jones a Dewi Bebb hefyd yn gwisgo coch y diwrnod hwnnw. Gorffenodd Cymru ar waelod tabl y Pum Gwlad y flwyddyn honno, gydag ond un buddugoliaeth mewn pedair gêm, yr un peth ag Iwerddon. Daeth yr unig fuddugoliaeth yng Nghaeredin gan guro'r Alban 0-6 ar 23 Chwefror.

Ond mae'n rhaid bod ymgyrch siomedig 1963 wedi sbarduno'r Cymry achos yn 1964 nhw oedd ar frig y tabl. Enillodd Cymru yn erbyn Iwerddon a'r Alban, a chael dwy gêm gyfartal yn erbyn Ffrainc a Lloegr.

Yn 1965 Cymru oedd ar y brig unwaith eto, y tro yma gyda Coron Driphlyg yn ogystal. A dyna oedd dechrau'r rheolaeth llwyr gan Gymru yn erbyn Lloegr ar Barc yr Arfau, gyda'r Saeson yn gorfod aros 28 mlynedd nes eu buddugoliaeth nesaf yng Nghymru, ar 19 Ionawr 1991.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Edwards gyda'r bêl yn y gêm yn erbyn Lloegr ar 12 Ebrill 1969, ar Barc yr Arfau a oedd yn cael ei adnewyddu. Hefyd yn y llun mae Dai Morris a Brian Thomas.

Oes aur rygbi Cymru

"Doedd dim cywilydd wrth adael yn waglaw yn erbyn timoedd dawnus y 70au ond roedd y daith lawr yr M4 ddim chwaith yn brofiad pleserus hyd yn oed pan oedd Cymru'n fwy anghyson yn yr 80au," meddai Cennydd Davies.

Enillodd Cymru y Goron Driphlyg bedair blynedd yn olynol rhwng 1976 ac 1979. Rhwng 1963 a 1980 dim ond unwaith y gwnaeth Lloegr guro Cymru - yn Twickenham yn 1974. Roedd dwy gêm gyfartal rhwng y gwledydd yn 1964 ac 1968.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y canolwr Steve Fenwick yn y gêm yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd, 5 Mawrth 1977. Enillodd Cymru 14-9 y dydd hwnnw.

Cap cyntaf Jiffy

"Fel y gêm yn '63, roedd tywydd garw wedi effeithio ar y gêm yn '85 ond y tro hwn bu'n rhaid gohirio tan fis Ebrill y flwyddyn honno" esboniai Cennydd Davies.

"Roedd gŵr o'r enw Jonathan Davies yn gwisgo 10 dros Gymru am y tro cyntaf, a'i gais yn rhoi sglein ar berfformiad unigol arbennig a sicrhau bod y ffatri cynhyrchu maswyr yn fyw ac yn iach!"

Yn ogystal â Jonathan Davies roedd maswr arall yn chwarae ei dymor cyntaf o rygbi rhyngwladol y tymor hwnnw - Rob Andrew. Doedd trosiad, gôl adlam a dwy cic gosb Andrew ddim yn ddigon ar y dydd ac fe enillodd Cymru 24-15.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Davies ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru, 20 Ebrill 1985. Hefyd yn y llun mae Rob Ackerman, a symudodd i chwarae rygbi'r gynghrair yn 1986, a David Pickering, a aeth ymlaen i fod yn gadeirydd ar Undeb Rygbi Cymru.

"Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd 'na olygfeydd annymunol ac ymladd ffyrnig rhwng y timoedd, cais y prop Stuart Evans oedd y gwahaniaeth bryd hynny ond yn 1989 roedd hyd yn oed y cefnogwr mwya' brwd yn tybio y byddai'r record anhygoel yn dod i ben, ond wedi colli pob gêm flaenorol roedd osgoi colli yn erbyn Lloegr eto'n ddigon i sbarduno'r tîm cartref i ennill 12-9."

Tîm Will Carling

"Yn anffodus gwaethygu 'nath y sefyllfa i dîm rygbi Cymru ar gychwyn y 90au - ac erbyn i'r Saeson gyrraedd Caerdydd yn '91 yr ymwelwyr o dan Will Carling oedd y ffefrynnau clir.

"Os nad nawr nad fyth oedd y thema ymhlith y wasg a'r tro hwn doedd dim ateb gan y Cymry i gryfder corfforol ei gwrthwynebwyr - tîm a fyddai'n mynd ymlaen i gipio'r Gamp Lawn yn ddiweddarach a tîm fyddai'n rhagori yn ystod y ddegawd."

Y gêm yn erbyn Lloegr ar 19 Ionawr 1991 oedd cap cyntaf Neil Jenkins a Scott Gibbs - dau chwaraewr aeth ymlaen i fod yn ran allweddol o rygbi Cymru am ddegawd a mwy. Ond cefnwr Lloegr, Simon Hodgkinson, oedd y seren y dydd hwnnw gyda'i saith cic gosb yn golygu bod y dynion mewn gwyn yn fuddugol, 25-6.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Simon Hodgkinson, y cefnwr o Nottingham a enillodd 14 cap dros Loegr rhwng 1989 a 1991.

Cafodd Cymru y lwy bren yn 1991 gan golli hefyd yng Nghaeredin a Paris, gyda'r gêm yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd yn gorffen yn gyfartal, 21-21.

Aeth Lloegr ymlaen i ennill y Gamp Lawn yn 1991, a gwneud hynny eto yn 1992 ac 1995.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgorfwrdd Parc yr Arfau y diwrnod y daeth rhediad Cymru yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd i ben.

"Do, fe ddath 'na fuddugoliaethau fan hyn a fan draw i Gymru wedi hynny, ond bellach dyw teithio ar draws yr Hafren ddim mor frawychus ag y bu gyda'r brifddinas lawer yn fwy ffrwythlon nag yr oedd am 28 mlynedd hir ac anodd i'r dynion yn gwisgo gwyn."

Ond mae rhaid cofio, er colli yn 1991 a'r record anhygoel gartref yn erbyn Lloegr yn dod i ben, fe darodd Cymru nôl yn 1993 gyda Ieuan Evans yn sgorio cais cofiadwy i guro'r Saeson, 10-9.

Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Evans yn tirio i sgorio cais cofiadwy yn erbyn Lloegr, 6 Chwefor, 1993.

Hefyd o ddiddordeb: