Teyrnged i fenyw wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar a lori

  • Cyhoeddwyd
Paula RichardsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Paula Richards "wastad yn chwilio am ffyrdd i helpu'r rheiny o'i chwmpas", medd ei theulu

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fenyw "annwyl" 59 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a dau gar yn Sir Caerffili.

Bu farw Paula Richards o ardal Casnewydd yn y digwyddiad ar yr A467 rhwng Crymlyn ac Aber-bîg amser cinio ddydd Gwener.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd - Ford Ka du, Citroen C1 glas, a lori.

Cafodd Ms Richards, oedd yn gyrru'r Ford, ei chludo i'r ysbyty ble bu farw o'i hanafiadau.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad ei bod yn "aelod annwyl o'r teulu, oedd wastad yn chwilio am ffyrdd i helpu'r rheiny o'i chwmpas".

"Bydd yn cymryd amser i ni ddechrau ymdopi gyda'r ddamwain ofnadwy yma, ac ry'n ni'n gwybod y bydd pawb o'n cwmpas yn rhannu ein tristwch."

Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio ar unrhyw un â gwybodaeth neu luniau dashcam o ffordd yr A467 rhwng 13:00 a 14:00 y diwrnod hwnnw i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig