Wayne Pivac: 'Siom' peidio arwain Cymru i Gwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Wayne PivacFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wayne Pivac wedi bod gyda'r Scarlets ers 2014 cyn cael ei benodi fel prif hyfforddwr Cymru yn 2018

Mae cyn-hyfforddwr rygbi Cymru, Wayne Pivac, wedi dweud ei fod yn siomedig na gafodd y cyfle i arwain y tîm i Gwpan y Byd eleni.

Collodd ei swydd fis diwethaf yn dilyn adolygiad o Gyfres yr Hydref siomedig, gan gynnwys colli gartref yn erbyn Georgia.

Yn dilyn ei ddiswyddiad, fe gafodd Warren Gatland ei ail-benodi fel prif hyfforddwr.

Ond lai na blwyddyn cyn fydd fydd y tîm yn teithio i Ffrainc, dywedodd Pivac y byddai wedi mwynhau profi ei hun fel hyfforddwr ar y lefel uchaf.

Er hynny, pwysleisiodd ei fod yn ffyddiog o obeithion Cymru yn y bencampwriaeth ac nad oedd yn synnu fod Gatland yn ôl wrth y llyw.

Ychwanegodd fod "busnes anorffenedig" o'i safbwynt ef, a'i fod yn awyddus i "fynd eto".

'Gadael i'r llwch setlo'

"Yn wreiddiol roeddwn yn amlwg yn siomedig iawn oherwydd roeddwn i wedi bod yn y swydd am dair blynedd ac mor agos at Gwpan Rygbi'r Byd," meddai mewn cyfweliad gyda'r BBC.

"Rwy'n tybio mai breuddwyd pob chwaraewr yw chwarae yng Nghwpan Rygbi'r Byd ac, fel hyfforddwr, i herio'ch hun ar y llwyfan mwyaf hefyd.

"Mae 'na siom amlwg. Ond nawr mae'n gyfnod o fyfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni, gan edrych ar y tair blynedd diwethaf yn fanwl."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Pivac: "Mae mynd eto yn rhywbeth rydw i wir eisiau ei wneud"

Gan ddweud ei fod wedi cael "seibiant da" yn Seland Newydd, gan gynnwys mynychu priodas ei fab hynaf, ychwanegodd ei fod yn gyfle i "adael i'r llwch setlo ac edrych allan am heriau i ddod".

"Y cwestiwn cyntaf rydych chi'n gofyn i chi'ch hun yw a ydych chi eisiau mynd eto? Ydy'ch calon chi ynddo?

"Ydych chi'n cael eich ysgogi i wneud y swydd neu a ydych chi eisiau edrych ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael?

"Fe es i drwy'r broses honno. Yna, wrth siarad â rhai pobl rwy'n agos atynt yn y gêm, des i'r casgliad yn weddol gyflym bod busnes heb ei orffen.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Pivac gyda'i hyfforddwyr Stephen Jones a Jonathan Humphreys

"Rydych chi bob amser yn dysgu. Yr amser rydych chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod y cyfan yw'r amser i adael y gêm.

"Dydw i ddim yn meddwl fy mod yn gwybod y cyfan. Rwy'n meddwl bod gen i lawer i'w gynnig.

"Mae mynd eto yn rhywbeth rydw i wir eisiau ei wneud."

Canlyniad Georgia yn 'annerbyniol'

Yn disgrifio'r golled yn erbyn Georgia fel "yr eisin ar y gacen" yn nhermau penderfyniad URC am ei ddyfodol, ychwanegodd na orffennodd yr ymgyrch Chwe Gwlad diwethaf yn y ffordd byddai wedi'i ddymuno.

"Ro'n i'n meddwl gawsom ni berfformiadau cryf ar ôl dechrau araf yn erbyn Iwerddon, yn erbyn yr Alban, Lloegr pan wnaethon ni sgorio tri chais i un ond colli o drwch blewyn, ac wrth gwrs gêm Ffrainc lle gollyngon ni'r bêl wrth fynd am gais i ennill y gêm o bosib.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Cymru gartref i Georgia ym mis Tachwedd 2022 - a hynny am y tro cyntaf

"Doedden ni ddim yn rhy bell i ffwrdd. Yna fe wnaethom rai newidiadau, a gêm yr Eidal... ry'n ni'n gwybod beth ddigwyddodd.

"Roedden ni drwch blewyn i ffwrdd o gael buddugoliaeth pwynt bonws a dod yn drydydd yn y bencampwriaeth... ac o gysidro'r holl anafiadau... mae'n dynn iawn."

Ychwanegodd: "I mi roedd gêm Georgia yn annerbyniol o ran canlyniad ac rydyn ni'n byw ac yn marw yn sgil ein canlyniadau ar ddiwedd y dydd."

'Wnaethon ni chwarae rygbi gwych'

Mae Pivac yn ystyried y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021 fel ei uchafbwynt yn y rôl.

"Y peth rhwystredig oedd ein bod ni yng nghyfnod Covid a doedd gennym ni ddim 75,000 o gefnogwyr a fyddai, dwi'n siŵr, wedi mynd drwy'r to ar ôl sgorio 40 yn erbyn Lloegr.

"Y twrnamaint hwnnw i gyd, fe wnaethon ni chwarae rygbi gwych.

"Mae hynny'n bendant yn uchafbwynt. De Affrica yn amlwg, bod yn rhan o'r tîm cyntaf i ennill yn Ne Affrica.

"Fe wnes i fwynhau'r Prawf cyntaf yn fawr iawn, roedd y daith honno'n llwyddiant ysgubol i ni.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dewi Lake yn gyn-aelod o dîm dan-20 Cymru

"Y peth arall dwi'n falch iawn, iawn ohono yw'r nifer o fechgyn ifanc sydd wedi dod drwodd - Dewi Lake, Gareth Thomas.

"Mae Will Rowlands ychydig yn hŷn ond fe ddaeth i'r lefel yma o'r gêm a chymryd ato fel hwyaden i ddŵr.

"Jac Morgan, Tommy Reffell, Louis Rees-Zammit - mae'r rhestr yn mynd ymlaen. Mae yna lawer o fechgyn ifanc sy'n mynd i chwarae lot o rygbi dros Gymru."

'Siŵr byddan nhw'n gwneud yn dda'

Dywedodd nad oedd yn synnu fod URC wedi penderfynu troi at Warren Gatland unwaith eto.

"Mae'n rhaid i chi edrych ar yr hyn sydd ar gael os ydych yn mynd i wneud newid," meddai.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Pivac a Warren Gatland yn sgwrsio wedi i Gymru ennill yn erbyn Ariannin yng Nghyfres yr Hydref y llynedd

"Mae Warren yn deall y gêm. Os ydych yn mynd i wneud newid mor agos at Gwpan y Byd, mae Awstralia wedi mynd gydag Eddie Jones sy'n nabod system Awstralia o'r tu mewn, mae'n debyg mai dyna'r newid byddwn i wedi ei wneud.

"Rwy'n dymuno'n dda i'r tîm ac eisiau iddyn nhw wneud yn dda yn y Chwe Gwlad a chyflawni'r hyn rydw i'n credu y gallan nhw ei wneud yng Nghwpan y Byd, gyda rhestr gemau ffafriol a digon o amser gyda'i gilydd.

"Rwy'n siŵr y byddan nhw'n gwneud yn dda."