Y warws sy'n 'rhoi pobl ag anableddau yn ganolog'
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar fe wnaeth cyflwynydd BBC Radio Cymru, Aled Hughes, a'i dîm ymweld â'r Warws Werdd, sy'n rhan o Antur Waunfawr.
Sefydlwyd y Warws Werdd yn 2004, gyda'r pwrpas o werthu dodrefn, nwyddau gwyn a dillad ail-law.
Mae'n fenter gymdeithasol sy'n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned.
Dyma argraffiadau Aled o'i ymweliad â'r Warws.
"Dwi wedi bod â soffa i Bethel," meddai Llion wrtha i'n gwenu fel giât. Mae o wrth ei fodd yn crwydro ac yn siarad tra'n gwneud hynny. Ar ôl esbonio mod i'n cael fy nhalu i siarad - mae o'n gofyn "faint" cyn chwerthin o'i fol.
Mewn fawr ddim o dro dwi'n dod i wybod fod Llion wrth ei fodd yn canu - Dafydd Iwan ac Yma O Hyd ar y carioci yn ffefryn, ac am ychydig eiliadau mi rydan ni'n cyd-ganu.
Un o dros 70 o bobl sydd ag anableddau dysgu sy'n cael cyflog, cyfle a chefnogaeth gan Antur Waunfawr ydi Llion.
Ac ynghanol mis Ionawr tywyll, llwyd, gwlyb a gwyntog mae chwerthiniad heintus Llion fel yr haul yn torri trwy'r cymylau.
Ar y fan, yn sgwrsio ac yn canu mae o hapusaf - ac mae'r gwaith mae o'n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth go iawn ar lawr gwlad.
"Bob dim 'da ni neud mae'n gorfod rhoid y person efo anabledd dysgu yn ganolog."
Dwi bellach yn cael paned efo un o uwch-reolwyr yr Antur, Haydn Jones, a hynny ar safle Warws Werdd, y cwmni ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon. Mae angerdd Haydn am waith y Warws, y criw sy'n gweithio yno a'r Antur yn ysbrydoli rhywun.
"Soffas, cadeiriau a dodrefn gwely sydd ganddo ni fan hyn," meddai Haydn wrth esbonio yr hyn mae nhw'n wneud yn y Warws Werdd. Yn syml iawn mae Llion a'r criw yn casglu hen ddodrefn o ar draws y gogledd-orllewin.
Y Gofod Ffiws
Os oes angen trwsio, rhoi ychydig o gariad - neu hyd yn oed brintio darn o rhyw ddodrefnyn o'r newydd ar brinter 3-D - mae gweithwyr yr Antur yn gwneud hynny yn y Gofod Ffiws (ystafell gynnal a chadw yn syml iawn).
Ar ôl hynny mae'r dodrefn yn cael ei ail-werthu ac mae'r cylch o'r gymuned yn helpu'r gymuned yn gyflawn. Ond nid dodrefn yn unig sy'n cael ei ailgylchu yma.
Erbyn hyn, dwi'n sefyll mewn ystafell sy'n llawn dillad. Dillad sydd fel newydd ac yn barod i bobl ddod i'w brynu neu'i archebu ar y we.
"Ar hyn o bryd, 'da ni'n casglu ac yn prosesu deg tunnell yr wythnos," meddai Haydn.
Stopiwch ddarllen am funud - a meddyliwch am hynny. Dillad. 10 tunnell. Yr wythnos. Y dillad i gyd o'r gogledd-orllewin. Ffaith chwalu pen. Beth bynnag sy'n ddigon da i'w werthu ar ôl bod yn y Gofod Ffiws, mae'n cael ei werthu, ac mae gweddill y brethyn wedyn yn cael ei brynu gan gwmni o Lerpwl.
"Pedair blynedd gorau mywyd i - heblaw am chwarae i Gymru!" meddai un o'r rhai sy'n gyfrifol am gasglu'r 10 tunnell o ddillad yn wythnosol. Mae'r mwynhad y mae Malcolm Allen yn ei gael, bedair blynedd ers iddo gael ei gyflogi, yn amlwg: "'Da ni'n mynd o Gaergybi yr holl ffordd i lawr at Machynlleth jest yn hel dillad - ma hynny ond yn un project - ond yn sicr maen nhw wrth eu bodd ac yn edrych ymlaen i ddod hefyd."
Storfa newydd
Ar ôl i Llion, pwy bynnag arall ar rota'r dydd, Malcolm a'r criw ddychwelyd i Cibyn, dyna pryd y mae'r gwaith yn dechrau i Iolo: "Dwi'n gweithio yma ers tair blynedd yn sortio'r dillad - ac mae yna LOT yn cyrraedd!"
"Rhoi dillad yn y bag a mynd i'r swyddfa i weld Ifan Rhys," ydi'r diwrnod sydd o flaen Guto.
Oherwydd y galw, yr ehangu a'r profiadau sy'n wynebu'r Antur mae yna estyniad newydd yn mynd i fod yn agor yn fuan, Y Storfa Werdd.
Fel yr eglura Haydn: "Yn y bôn, estyniad ydi o i'r warws fel bod ni'n gallu casglu mwy, prosesu mwy a gallu gwerthu mwy. Felly mae'r warws ei hun yn mynd yn ofod man-werthu yn gyfan gwbl."
Mae Haydn yn parhau: "Dwi'n gyffrous bod cwmni fel Antur yn gallu chwarae rhan o gyrraedd nod (ailgylchu) cenedlaethol a dwi mor prowd o'r cymunedau yng Ngwynedd a'r mentrau cymunedol sydd ganddo ni drwy'r sir yn gallu cyfrannu at Gymru newydd - pam ddim? Pam fedrwn ni ddim newid meddylfryd a gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru?"
A dyna'r union fath o wahaniaeth mae'r Antur wedi ei wneud, busnes sydd bellach yn trosi £3.2miliwn yn flynyddol ac yn cyflogi dros 100 o staff, gan gynnwys Haydn: "Dwi wedi dod yn ôl adra i Gymru (o America), dwi 'di gallu sefydlu nheulu yma a mae hynny lawr i Antur Waunfawr - dwi'n ddiolchgar dros ben o be' ma Antur 'di gallu helpu fi i gynnal fy nheulu."
Cyfleoedd i bobl efo anabledd dysgu ers 1984, ailgylchu ac ail-ddefnyddio er lles mawr yr amgylchedd a chyflogi pobl leol yn eu bro. Wrth adael y Warws Werdd doedd Ionawr bellach ddim mor llwm a hynny.
Hefyd o ddiddordeb: