Dim streic i aelodau undeb athrawon UCAC

  • Cyhoeddwyd
Plant ac athrawes ysgol gynradd mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r anghydfod presennol yn ymwneud â chyflogau a phwysau gwaith

Ni fydd aelodau undeb athrawon UCAC yn mynd ar streic dros gyflogau a llwyth gwaith ar ôl i lai na hanner yr aelodau bleidleisio.

Roedd 3,054 o aelodau yn gymwys i bleidleisio ond dim ond 1,380 - sy'n 45.19% - wnaeth gymryd rhan.

O'r rheiny wnaeth bleidleisio roedd mwyafrif o 88.62% o blaid mynd ar streic ac 11.38% yn erbyn.

Dywedodd UCAC na wnaethon nhw gyrraedd y trothwy cyfreithiol i weithredu'n ddiwydiannol ond y byddan nhw'n parhau i drafod gyda'r llywodraeth ac awdurdodau lleol.

Mae undebau wedi bod yn cynnal pleidleisiau ymysg aelodau ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnig codiad cyflog o 5% i athrawon.

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) fod eu haelodau yng Nghymru a Lloegr wedi pleidleisio o blaid streicio.

Dywedodd undeb penaethiaid ysgolion, NAHT Cymru, eu bod hwythau wedi pleidleisio dros weithredu'n ddiwydiannol.

Fe wnaeth undeb arall - NASUWT - gynnal pleidlais hefyd, ond ni fyddan nhw'n gweithredu am fod llai na 50% o aelodau wedi cymryd rhan.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran undeb UCAC: "Byddwn felly yn ymgynnull cyfarfod brys o'r Cyngor Cenedlaethol wythnos nesaf i drafod y ffordd ymlaen.

"Yn y cyfamser bydd UCAC yn parhau i drafod gyda'r Llywodraeth a'r Awdurdodau ar ran aelodau o ran llwyth gwaith a chyflog."