Kaylea Titford: 'Esgeulustod tad wedi arwain at farwolaeth ei ferch'

  • Cyhoeddwyd
Kaylea Titford
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kaylea Titford ei chanfod yn gorwedd ar ddillad gwely budr ac yn ordew i raddau peryglus

Mae achos yn erbyn dyn o Bowys sydd wedi'i gyhuddo o ddynladdiad ei ferch oherwydd esgeulustod difrifol wedi dechrau.

Cafwyd hyd i Kaylea Louise Titford - oedd yn 16 oed ac yn anabl - yn farw mewn gwely ym mis Hydref 2020.

Roedd hi'n gorwedd ar ddillad gwely budr ac yn ordew i raddau peryglus.

Roedd gan Kaylea gyflwr spina bifida, gan olygu nad oedd ganddi lawer o deimlad o ganol ei chorff i lawr, ac roedd hyn yn cyfyngu ar ei symudedd.

Mae ei thad, Alun Anthony Titford, 45 oed o'r Drenewydd, yn gwadu dynladdiad.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod mam Kaylea, Sarah Lloyd Jones, 39, wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad.

Ffynhonnell y llun, Andrew Price/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Alun Titford yn cyrraedd Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher

Dywedodd yr erlynydd Caroline Rees KC wrth y rheithgor bod Kaylea wedi defnyddio cadair olwyn o oedran ifanc.

Pan gafodd ei chanfod yn farw yn ei chartref clywodd y llys ei bod yn afiach o ordew, yn pwyso bron i 23 stôn (146kg).

Yn ogystal â gorwedd ar ddillad gwely budr, roedd ganddi nifer o ddoluriau ar ei chroen a mannau ar ei chorff oedd wedi'u heintio.

Clywodd y llys ei bod yn byw mewn amodau fyddai'n "anaddas ar gyfer unrhyw anifail", a bod ganddi gynrhon (maggots) a phryfed ar ei chorff a photeli llefrith yn llawn wrin o'i chwmpas pan gafodd parafeddygon eu galw i'w gweld.

Dywedodd Ms Rees fod y patholegydd a edrychodd ar gorff Kaylea wedi awgrymu nad oedd hi wedi cael ei 'molchi ers wythnosau lawer.

Mae'r erlyniad yn dweud bod Kaylea wedi marw oherwydd bod ei rhieni wedi methu yn eu dyletswydd i ofalu amdani, a bod hynny wedi arwain at risg amlwg a difrifol o farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kaylea yn byw mewn amodau fyddai'n "anaddas ar gyfer unrhyw anifail", clywodd y llys

Dywedodd Ms Rees: "Cafodd eu methiannau difrifol nhw eu cuddio o lygaid y byd tu allan o fis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd y cyfnod clo yn ystod y pandemig Covid.

"Ry'n ni hefyd yn dweud bod esgeulustod y rhieni mor enbyd fel ei bod hi'n iawn i'w ddisgrifio fel mater troseddol."

Dywedodd yr erlyniad mai dadl Alun Titford yw, er ei fod yn byw yn yr un tŷ, mai mam Kaylea oedd ei phrif ofalwr, ac nad oedd ef yn ymwybodol o amodau byw ei ferch na'r dirywiad yn ei chyflwr corfforol.

Clywodd y llys fod Alun Titford wedi cyfaddef yn ei gyfweliad gyda'r heddlu ei fod "ddim yn dad da iawn", ac mai ei wraig oedd yn gofalu am Kaylea ac yn gwneud popeth o gwmpas y tŷ.

Ychwanegodd nad oedd yn cofio ei gweld allan o'r gwely ers cyn dechrau'r cyfnod clo, chwe mis ynghynt.

Dywedodd hefyd y byddai'r teulu yn cael tecawê bum noson yr wythnos.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig