Cwpan FA Lloegr: Leeds United 5-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd allan o Gwpan yr FA yn dilyn colled drom i Leeds United yn Elland Road nos Fercher.
Roedd yr Adar Gleision eiliadau i ffwrdd o sicrhau buddugoliaeth enwog bythefnos yn ôl, ond stori wahanol oedd hi yn Swydd Efrog wrth i Leeds gyrraedd y bedwaredd rownd.
Doedd hi ddim yn ddechrau delfrydol i Gaerdydd gyda Wilfried Gnonto yn rhwydo foli gelfydd wedi ond 26 eiliad.
Ychwanegodd un arall wedi 36 munud, brin eiliadau wedi i Rodrigo sgorio'r ail i'r tîm o'r Uwch Gynghrair.
Gyda'r ornest ar ben i bob pwrpas erbyn yr egwyl, parhau i ddod wnaeth y goliau gyda Patrick Bamford yn rhwydo wedi 71 a 76 munud i ychwanegu halen at y briw.
Ond er tegwch i Gaerdydd, fe wnaeth yr ymwelwyr barhau i ymdrechu ac fe ddaeth eu gwobr diolch i Callum Robinson gyda chwe munud yn weddill.
Llwyddodd Robinson i hefyd rwydo cic o'r smotyn yn eiliadau ola'r gêm, yn dilyn llawio yn y cwrt cosbi, i wneud y sgôr yn fwy parchus.
Ond noson Leeds oedd hi i fod wrth i dîm Jesse Marsch wynebu trip i Boreham Wood neu Accrington Stanley.
Tasg Caerdydd bellach fydd ceisio cadw eu lle yn y Bencampwriaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023