Cwest Rhuthun: Ffermwr wedi lladd ei frawd ar ddamwain

  • Cyhoeddwyd
Crwner RhuthunFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cwest yn cael ei gynnal yn Swyddfa Crwner Rhuthun

Fe wnaeth ffermwr o ardal Rhuthun ladd ei frawd ar ddamwain wrth geisio ei amddiffyn rhag buwch ymosodol, clywodd cwest.

Fe gafodd Dewi Owen Jones, 68, anafiadau difrifol i'w abdomen pan gafodd ei ddal yn erbyn wal gan gerbyd JCB oedd yn cael ei yrru gan ei frawd hŷn, John.

Cafodd parafeddygon a'r ambiwlans awyr eu galw i geisio achub Mr Jones, ond bu farw mewn ambiwlans ar y fferm ger Llanfwrog ar 21 Ebrill 2020.

Roedd wedi dioddef anaf difrifol i'w afu a achosodd waedu mewnol.

'Meddwl am fy mrawd bob dydd'

Mewn datganiad i'r cwest yn Rhuthun ddydd Mercher, fe ddisgrifiodd John Jones fod y fuwch Limousin-croes - oedd yn cael ei chadw mewn uned arbennig - wedi rhoi genedigaeth fore'r ddamwain.

Dywedodd ei bod yn ymddwyn yn ymosodol.

Fe ymunodd Dewi â'i frawd oedd yn defnyddio'r JCB Bobcat ar y pryd.

Fe agorodd Dewi y giât i'r uned a dywedodd John fod "pethau wedi digwydd yn gyflym iawn wedyn".

"Fe geisiodd y fuwch fynd am Dewi i warchod y llo, felly symudais y Bobcat ymlaen i amddiffyn Dewi drwy ei roi rhyngddyn nhw."

Ond fe gafodd Dewi ei ddal gan ymyl y Bobcat a'i wasgu yn erbyn y wal. Er iddo lwyddo i ddianc, fe syrthiodd yn ddiweddarach ar y buarth.

"Does dim diwrnod yn mynd heibio lle nad ydw i'n meddwl am fy mrawd a'r hyn ddigwyddodd," dywedodd John wrth yr heddlu.

Dywedodd ei fod ef a'i frawd yn ffrindiau agos ac yn rhedeg y fferm 400 erw gyda'i gilydd.

Ychwanegodd ei fod yn gyfarwydd gyda defnyddio'r cerbyd a'i fod wedi ei yrru ers dros saith mlynedd.

Roedd sawl nam mecanyddol ar y cerbyd yn ôl yr heddlu, ac roedd angen gwaith cynnal a chadw arno, ond ni wnaeth hynny gyfrannu at y ddamwain, dywedon.

Fe ddangosodd arolwg post-mortem bod Dewi Jones wedi cael anaf difrifol i'w afu wnaeth achosi gwaedu mewnol sylweddol.

Daeth y rheithgor i gasgliad ei fod wedi marw drwy anffawd.

Pynciau cysylltiedig