Disgwyl i filoedd o blant orfod aros adref yn sgil streic

  • Cyhoeddwyd
Classroom with teacher and childrenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Gweinidog Addysg nad yw'n bosib cynnig mwy na 5% o godiad cyflog i athrawon

Bydd miloedd o ddisgyblion yn gorfod aros adref o'r ysgol oherwydd streic ar 1 Chwefror.

Mae nifer o ysgolion yn bwriadu cau'n gyfan gwbl neu'n rhannol oherwydd y gweithredu gan Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU).

Dyma'r cyntaf o bedwar diwrnod o streiciau gan athrawon a staff cynorthwyol.

Mae trafodaethau rhwng yr undebau a'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, hyd yma wedi methu datrys yr anghydfod.

Ar yr un pryd mae undeb penaethiaid yr NAHT yn dechrau gweithredu diwydiannol trwy beidio gwneud rhai tasgau tu allan i oriau craidd a gwrthod cyflawni dyletswyddau staff sy'n streicio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Peter Avaint, sy'n daid i ddisgyblion ysgol, yn cefnogi'r streic

Dywed Peter Avaint y bydd ef, mae'n debyg, yn edrych ar ôl ei wyrion os yw'r streic yn effeithio ar ysgolion Y Barri ym Mro Morgannwg.

Ond dywed ei fod yn gefnogol i'r streic ac y dylai staff ysgol "gael yr hyn maen nhw angen".

Bydd ysgol plant Melissa Bartlett o'r Barri yn rhannol ar gau. Fe fydd ei merch saith oed adref ond ei mab naw oed yn mynd i'r ysgol.

"Dim ond Mam alla'i ddibynnu arni am ofal plant. Felly dwi'n gorfod cymryd y diwrnod i ffwrdd o'r gwaith a cholli mas ar ddiwrnod o gyflog," meddai.

"Dwi'n credu bod pawb eisiau mwy o arian a hynny ymhob swydd. Dwi'n weithiwr gofal a dwi ar gyflog bach.

"Dwi'n credu bydden ni gyd yn hoffi bach o arian, yn ystod yr argyfwng. Ond ai dyma'r ffordd ymlaen? Dwi ddim yn gwybod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Melissa Bartlett yn gorfod cymryd y diwrnod i ffwrdd o'r gwaith yn sgil y streic

Beth ydy sefyllfa'r siroedd hyd yma?

Dywedodd un cyngor eu bod yn disgwyl "tarfu sylweddol", ac maen nhw'n annog rhieni i gadw llygad ar wefannau ysgolion am y wybodaeth ddiweddaraf.

Yn ôl Cyngor Torfaen mae'r cynllunio yn heriol oherwydd "lefel yr ansicrwydd ynglŷn â phresenoldeb ac argaeledd staff. "

Fe ddywedon nhw y bydd tair ysgol wedi cau yn llwyr i ddisgyblion, 16 wedi cau yn rhannol, tair yn agored i bawb, ac 13 heb gadarnhau eto.

Yng Nghaerdydd, bydd 61 o ysgolion ynghau, 50 wedi cau yn rhannol, ac 15 yn agored.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn diweddaru gwybodaeth ar eu gwefan.

Yn Sir y Fflint, bydd 42 o ysgolion ynghau, ac 17 wedi cau yn rhannol.

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi dweud y bydd pob ysgol ynghau, ag eithrio Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Fydd dim un o ysgolion Ceredigion wedi cau yn llwyr, ond bydd 8 wedi cau yn rhannol.

Ym Mro Morgannwg, fe ddywedodd y cyngor bod 11 o ysgolion wedi cadarnhau eu bod yn cau, a 6 yn cau yn rhannol, ond fe allai'r nifer hwnnw gynyddu.

Bydd 7 o ysgolion Sir Benfro ynghau, ac 16 yn cau yn rhannol. Mae traean o staff dysgu'r sir yn gymwys i ymuno yn y gweithredu diwydiannol, yn ôl y cyngor.

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod yn gwybod am 20 o ysgolion fydd ynghau, a 39 yn cau yn rhannol.

Fe ychwanegon nhw y bydd 54 o ysgolion ac unedau yn aros yn agored, ond gan rybuddio y gallai'r ffigwr hwnnw newid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae undeb yr NEU yn gofyn am godiad cyflog o 12%

A fydd y streic yn cael effaith ar fy ysgol leol?

Mae'n eitha' posib, ond fe fydd effaith y streic yn amrywio o ysgol i ysgol.

Bydd penaethiaid yn gwybod faint o'r staff sy'n aelodau o Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) ond fyddan nhw efallai ddim yn gwybod faint fydd yn streicio.

Wedi asesiadau risg fe fyddan nhw'n penderfynu a all yr ysgol agor yn ddiogel. Bydd rhai ysgolion yn cau yn llwyr, gydag eraill ar agor i rai disgyblion.

Sut fyddai'n gwybod a fydd y streic yn effeithio ar ysgol neu ddosbarth fy mhlentyn?

Bydd ysgolion neu gynghorau yn rhoi gwybod i rieni neu warchodwyr drwy e-byst neu negeseuon testun.

Dywed y gweinidog addysg bod cynghorau yn awyddus i roi cymaint â phosib o rybudd i rieni.

Bydd nifer yn gorfod dod i gytundeb gyda'u cyflogwyr neu drefnu gofal arall os nad yw'r plant yn yr ysgol.

Dywed Mr Miles bod yna bryderon bod rhai rhieni yn gorfod cymryd amser bant o'r gwaith ac yn colli cyflog.

Pwy sy'n streicio?

Bydd athrawon a staff cynorthwyol sy'n aelodau o NEU Cymru yn gymwys i streicio yng Nghymru ar ôl pleidlais.

Yn ôl yr NEU, tua 13,000 o'i aelodau - athrawon a staff cynorthwyol - gafodd bleidlais ar streicio ddydd Mercher nesaf.

Yn wahanol i undebau NASUWT ac UCAC, fe wnaeth dros hanner eu haelodau fwrw pleidlais gan groesi'r trothwy i weithredu'n ddiwydiannol.

Bydd athrawon yn Lloegr hefyd yn streicio. Mae undebau eraill yn gweithredu'n ddiwydiannol yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban.

Bydd aelodau o'r NAHT, sy'n cynrychioli penaethiaid ysgolion cynradd yn bennaf, hefyd yn dechrau gweithredu diwydiannol ar 1 Chwefror.

Eu bwriad yw peidio gwneud rhai tasgau tu hwnt i oriau craidd a gwrthod gwneud trefniadau i lenwi dros staff sydd ar streic.

Pam mae athrawon yn streicio?

Mae'r NEU wedi bod yn galw am godiad cyflog o 12% yn dilyn yr hyn mae'n ei alw'n "setliadau ariannol gwael" ers 2010. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig 5%.

Dywed yr undeb bod rhaid i'r codiad cyflog gael ei ariannu'n llawn ac na ddylai ddod o gyllideb bresennol ysgolion.

Mae undebau yn poeni am y wasgfa ariannol sydd ar addysg yn gyffredinol, ac maen nhw hefyd yn poeni am lwyth gwaith athrawon.

Fe wnaeth undebau UCAC a NASUWT hefyd bleidleisio ond chyrhaeddon nhw ddim mo'r 50% oedd ei angen ar gyfer gweithredu'n ddiwydiannol. Fe allen nhw bleidleisio eto.

A fydd staff eraill yn cymryd gwersi?

Does dim modd gorfodi staff i edrych ar ôl dosbarthiadau cydweithwyr sy'n gweithredu'n ddiwydiannol.

Mae deddfwriaeth undebau llafur yng Nghymru yn dweud nad yw athrawon cyflenwi yn gallu cael eu cyflogi i wneud gwaith staff sydd ar streic.

Fe allai hynny olygu hyd yn oed os taw nifer fach o aelodau NEU sy'n streicio mewn ysgol, gallai llawer o ddisgyblion orfod aros adref.

Os oes rhaid iddyn nhw aros gartref, a fydd fy mhlentyn yn cael ei ddysgu ar-lein?

Mae'n dibynnu ar yr ysgol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fod darpariaeth ar-lein yn un o'r opsiynau sydd gan ysgolion "ac rwy'n disgwyl gweld hynny'n digwydd".

Fe allai staff sydd ddim yn streicio gael cais i ddarparu gwersi ar-lein i ddisgyblion sy'n gorfod aros adref - nid gwersi byw o reidrwydd, ond fe fydd yna adnoddau ar-lein.

A fydd llinellau piced tu allan i ysgolion?

Bydd, mewn rhai achosion, yn ôl yr NEU.

Allai'r streiciau gael eu canslo?

Dyma'r cyntaf o bedwar diwrnod streic sydd ar y gweill - y lleill yw 14 Chwefror, 15 Mawrth a 16 Mawrth.

Mae'r undebau, cynghorau a Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod am barhau i siarad er mwyn ceisio datrys yr anghydfod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau nad yw'n gallu ariannu cynnig cyflog mwy hael, ond dywedodd y Gweinidog Addysg ei fod "yn gwbl ymrwymedig " i weithio gyda'r undebau i ddod o hyd i ddatrysiad i'r anghydfod.

Maen nhw wedi trafod taliad un tro ar gyfer staff, yn debyg i'r hyn sydd wedi ei gynnig i weithwyr iechyd, yn ogystal â thrafod ffyrdd o leddfu llwyth gwaith.

Ond dywedodd undebau nad oedd "yn agos" at gwrdd â'u gofynion.