Kaylea Titford: Arfer bod yn blentyn 'annibynnol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Kaylea Titford
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kaylea Titford ei darganfod yn farw yn ei chartref ym mis Hydref 2020

Mae rheithgor wedi clywed bod merch 16 oed gafodd ei darganfod yn farw yn ei chartref yn y Drenewydd yn arfer bod yn blentyn "annibynnol iawn".

Roedd gan Kaylea Titford gyflwr spina bifida, ac roedd yn ordew i raddau peryglus a chanddi nifer o ddoluriau oedd wedi eu heintio pan fu farw ym mis Hydref 2020.

Mae ei thad Alun Titford yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Mae ei mam, Sarah Lloyd Jones wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad.

'Y paralympics wedi edrych arni'

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug gan gyn-gynorthwyydd dysgu Kaylea yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Belinda Jones.

Dywedodd iddi ddechrau helpu Kaylea, oedd yn defnyddio cadair olwyn, yn 2016.

Ffynhonnell y llun, Andrew Price/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Titford yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ei ferch drwy esgeulstod difrifol

Fe ddywedodd bod Kaylea yn annibynnol iawn ar y dechrau, ac yn gallu mynd o gwmpas ar ei phen ei hun yn ei chadair.

Dywedodd bod Kaylea yn mwynhau chwaraeon fel pêl-fasged gan ddefnyddio cadair olwyn oedd wedi cael ei haddasu.

Dywedodd Ms Jones: "Ar y dechrau roedd hi'n cymryd rhan. Pan ddaeth hi i ddechrau dwi'n credu bod y paralympics wedi edrych arni ar gyfer unai pêl-fasged neu denis."

Ond dros y blynyddoedd nesaf fe ddywedodd Belinda Jones bod Kaylea wedi magu pwysau ac "nad oedd hi'n edrych yn gyfforddus yn ei chadair".

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod yr ysgol wedi cofnodi galwadau yn ymwneud â lles Kaylea yn ystod cyfnod clo cynta'r pandemig

Dywedodd cyn-gynorthwyydd dysgu arall yn yr ysgol, Madeline Ottoway wrth y llys ei bod yn ffrindiau ar Facebook gyda mam Kaylea, Sarah Lloyd Jones, pan gafodd Kaylea ei phen-blwydd yn 16 oed ym mis Medi 2020.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol roedd Ms Lloyd Jones wedi dweud: "Mae hi'r adeg yna o'r flwyddyn unwaith eto, ond mae hi flwyddyn yn hŷn.

"Alla'i ddim credu ei bod yn 16 oed. Pen-blwydd Hapus, gobeithio y cei di ben-blwydd hyfryd. Llawer o gariad fel bob amser."

Dywedodd Ms Ottoway bod y lluniau o Kaylea yn y neges yn ei dangos fel yr oedd hi'n ei chofio.

'Trafferth cefnogi'

Clywodd y llys am alwadau gan staff yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd i fam Kaylea yn ymwneud â lles y ferch yn ystod cyfnod clo cyntaf y pandemig ym mis Mawrth 2020.

Cafodd cofnod ei gadw o'r galwadau sy'n dangos bod staff bob amser yn delio â Sarah Lloyd Jones ac nid Alun Titford.

Mewn un cofnod ym mis Mehefin 2020, fe ddywedwyd: "Mam yn cael trafferth cefnogi Kaylea gartref, tra hefyd yn ceisio gwneud ei swydd fel gofalwr."

Roedd absenoldeb Kaylea o wersi yn cael eu hegluro drwy ddweud bod ganddi annwyd, gyda Ms Lloyd Jones yn dweud yn gyson ei bod yn disgwyl i Kaylea fod yn ôl yn yr ysgol ar y dydd Llun canlynol.

Cafodd y cofnod o'r alwad ddiwethaf ei wneud ar 9 Hydref 2020, gyda mam Kaylea yn dweud ei bod yn gobeithio y byddai hi'n ôl yn yr ysgol ddydd Llun. Bu farw Kaylea y diwrnod canlynol.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig