Dyn 96 oed dan glo am ladd cerddwr wrth yrru

  • Cyhoeddwyd
William BeerFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae William Beer wedi ymddiheuro am achosi marwolaeth Illtyd Morgan

Mae dyn 96 oed, oedd wedi cael cyngor gan optegydd i roi'r gorau i yrru, wedi cael dedfryd o 28 mis o garchar am achosi marwolaeth cerddwr 84 oed trwy yrru'n beryglus.

Bu farw Illtyd Morgan ar ôl cael ei daro ar groesfan cerddwyr yn Ffordd Bedwas, Caerffili ar 6 Ebrill 2021.

Roedd William Beer, o Lanbradach, wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus mewn gwrandawiad blaenorol.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Beer wedi methu prawf llygad ar bwys y ffordd yn syth wedi'r gwrthdrawiad, gan ddweud wrth yr heddlu bod "cerddwr wedi ymddangos ar y funud olaf".

Roedd y diffynnydd ond yn gallu gweld rhif cerbyd o saith metr - 20 metr yw'r gofyniad - ac fe gafodd drafferth i ddarllen y tair llythyren olaf.

Roedd optegydd wedi ei gynghori ym Mawrth 2019 i stopio gyrru yn sgil dirywiad yn ei olwg a'i allu i ddarllen.

Ond fe adnewyddodd ei drwydded yrru ym mis Tachwedd 2019 gan gredu bod chwistrelliadau rheolaidd wedi gwella ei olwg. Ni rannodd ei gyflyrau iechyd gyda'r DVLA ychwaith, gan nodi yn unig bod rhaid gwisgo sbectol i ddarllen rhif cerbyd o'r pellter angenrheidiol.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad a laddodd Mr Morgan ar Ffordd Bedwas, Caerffili ar 6 Ebrill 2021

Dywedodd y pensiynwr wrth y gwrandawiad dedfrydu ei fod yn credu bod staff ysbyty yn cytuno â'i argraff bod y chwistrelliadau'n gwella ei olwg.

Ond clywodd y llys bod cofnodion meddygol ond yn awgrymu y byddai'r chwistrelliadau'n sefydlogi ei olwg.

Mewn datganiad i'r llys, dywedodd mab Illtyd Morgan, Gareth, bod y farwolaeth wedi achosi gofid dwfn. "Dwi ddim yn credu y byddai'n dod drosto'n llawn," meddai.

Roedd ei dad, meddai, wedi ildio'r drwydded yrru ei hun wedi i'w olwg a'i iechyd yntau ddirywio, er yr effaith ar ei allu i fyw'n annibynnol.

"Dyna fy nhad," dywedodd. ""Fe fyddai'n gwneud y peth cywir beth bynnag yr impact."

Dywedodd gweddw Mr Morgan, Hazel, eu bod wedi cael "58 mlynedd hapus" o fywyd priodasol. "Rwy' dal methu credu na fydd yn dod adref atai," ychwanegodd.

'Edifeirwch diamau a diffuant'

Wrth ddedfrydu Mr Beer, dywedodd y Barnwr Richard Williams "y dylai fod yn amlwg i chi" nad oedd eich golwg yn ddigon da i yrru.

Awgrymodd bod y pensiynwr ddim wedi rhannu ei holl fanylion meddygol am ei fod yn gofalu am ei wraig, Miriam, oedd â dementia. Bu farw Mrs Beer dros y Nadolig ac fe gafodd ei hangladd ei chynnal 10 diwrnod yn ôl.

Dywedodd ei fargyfreithiwr, Malcolm Galloway, ei fod "yn dad, taid a hen daid a'i unig ofid oedd dros deulu'r dyn a fu farw a'i deulu ei hun".

Ychwanegodd bod y pensiynwr eisiau ymddiheuro am farwolaeth Mr Morgan, a bod "yr edifeirwch yna'n ddiamau ac yn ddiffuant".

Roedd rhai o berthnasau Beer yn eu dagrau wrth iddo gael ei dywys o'r llys i'r celloedd, 20 diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 97 oed.

Ar ben y ddedfryd o 28 mis o garchar, mae hefyd wedi ei wahardd rhag yrru am chwe blynedd a deufis.

Pynciau cysylltiedig