Dau gerddwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad car

  • Cyhoeddwyd
Y B4273
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw dyn a dynes 32 oed yn y fan a'r lle wedi'r digwyddiad nos Wener

Mae dau berson wedi marw ar ôl i dri o gerddwyr gael eu taro gan gar.

Dywed yr heddlu fod dyn a dynes, y ddau yn 32 oed, wedi marw yn y fan a'r lle ar y B4273 ym Mhontypridd tua 18:30 nos Wener.

Derbyniodd trydydd cerddwr, dyn 36 oed o Lantrisant, driniaeth am fân anafiadau wedi i'r grŵp gael eu taro gan Ford Focus du.

Mae teulu'r ddau a fu farw, oedd yn hanu o Bontypridd, wedi cael eu hysbysu yn ôl Heddlu De Cymru.

"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau'r dyn a'r ddynes," meddai'r llu, gan ychwanegu bod eu teuluoedd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion.

Roedd y B4273, hefyd adnabyddir fel Heol Ynysybwl, yn parhau ar gau rhwng Cefn Close a Ffordd Daren Ddu nos Sadwrn.

Apeliodd Heddlu De Cymru am dystion neu unrhyw un a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng neu gamera cerbyd.

Pynciau cysylltiedig