Eddie Butler: Cannoedd yn mynychu gwasanaeth coffa
- Cyhoeddwyd
Fe daeth tua 700 o bobl i wasanaeth coffa y darlledwr a chyn-gapten tîm rygbi Cymru, Eddie Butler.
Bu farw yn ei gwsg fis Medi yn 65 oed ym Mheriw, lle'r oedd yn cymryd rhan mewn taith elusennol.
Ymhlith y gwesteion yn Y Fenni brynhawn Iau roedd cyd-chwaraewyr, darlledwyr, ffrindiau a theulu.
Cafodd y gwasanaeth ei ffrydio'n fyw mewn tafarn leol yn y dref a'i gyflwyno gan y ddarlledwraig Clare Balding.
Dywedodd, Sonja McLaughlan, oedd wedi gweithio gyda Butler, ei fod "yn un o'r dynion mwyaf rydw i erioed wedi cael y pleser o'i adnabod".
'Chwaraewr penigamp'
Y tu allan i'r seremoni dywedodd Graham Price, Llywydd Clwb Rygbi Pont-y-pŵl: "Rwy'n cofio Eddie yn 19 oed ac yn dod o Ysgol Trefynwy.
"Roedd yn grand iawn, a dyna sut rydyn ni'n ei gofio.
"Ym Mhont-y-pŵl, ar y pryd, roedden ni i gyd yn arw ac yn gas, ond fe ddaeth yn gyfarwydd â hynny yn fuan iawn ac o dan arweiniad ein hyfforddwr gwych Ray Prosser fe ddaeth yn chwaraewr penigamp."
Un arall oedd yn bresennol oedd cyn-chwaraewr Cymru, Tom Shanklin.
"Rwy'n ei gofio fel saer geiriau, rwy'n cofio tyfu i fyny yn gwrando ar ei sylwebaeth ac yna'n cael y llawenydd a'r cyffro o allu sylwebu gydag ef.
"Roedd yn un o'r goreuon. Byddwn yn colli ei lais yn y Chwe Gwlad eleni yn fawr iawn."
'Roedd yn foi hyfryd'
Dywedodd cyn-chwaraewr Lloegr, Jeremy Guscott: "Roedd yn ffrind, yn foi da i weithio gydag o, yn ysgafn iawn a dwi'n ei gofio o'i ddyddiau yn chwarae i Bont-y-pŵl.
"Roedd yn foi hyfryd ac roedd yn gofalu amdanom, y teip gallech fynd ato i siarad am bethau na allech chi gyda phobl eraill... a hefyd ei lais.
"Roedd ganddo ffordd unigryw o ddisgrifio'r gêm," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022