CPD Abertawe: Sylwadau hiliol am Obafemi yn 'ffiaidd'

  • Cyhoeddwyd
Michael ObafemiFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sylwadau cas eu cyhoeddi mewn ymateb i'r newydd bod Michael Obafemi yn symud i Burnley

Mae'r heddlu yn ymchwilio i sylwadau hiliol "ffiaidd" am ymosodwr CPD Abertawe, Michael Obafemi.

Cafodd y Gwyddel 22 oed ei dargedu yn dilyn y cyhoeddiad y bydd yn symud i Burnley ar fenthyg tan o leiaf ddiwedd y tymor, gyda'r posibilrwydd o drosglwyddiad parhaol.

"Dydy'r rheiny sy'n gyfrifol ddim yn cynrychioli CPD Abertawe na gwerthoedd ein clwb a'r gymuned," meddai'r clwb mewn datganiad.

"Mae'r clwb yn ffieiddio o weld yr iaith ofnadwy sy'n cael ei defnyddio gan y negeseuon tramgwyddus ac yn gweithio i nabod y rhai sy'n gyfrifol a chymryd y camau cryfaf posib.

"Does dim lle i unrhyw fath o hiliaeth nac anffafriaeth o fewn cymdeithas na phêl-droed.

"Byddwn ni a Burnley yn rhoi pob cefnogaeth i Michael o ran y mater hwn."

Heddlu yn ymchwilio

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod "yn ymchwilio i darddiadau negeseuon ag ysgogiad hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol wedi eu hanelu at chwaraewr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe".

Ychwanegodd yr Arolygydd Mark Watkins bod gan y llu swyddogion arbennig sy'n cydweithio gyda chlybiau i atal troseddau casineb.

Maen nhw wedi "gweithio'n agos gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe i godi ymwybyddiaeth o drosedd casineb ymhlith chwaraewyr a chefnogwyr", meddai.

Fe wnaeth CPD Abertawe osgoi'r cyfryngau cymdeithasol am wythnos yn 2021 mewn safiad yn erbyn sylwadau hiliol a sarhaus ar-lein am nifer o'u chwaraewyr, gan gynnwys chwaraewyr Cymru Ben Cabango a Rabbi Matondo.