Y Bencampwriaeth: Luton 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Luton v CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ryan Allsop arbed ergyd Elijah Adebayo o'r smotyn, ond llwyddodd i sgorio yn ddiweddarach

Cafodd Caerdydd eu trechu oddi cartref yn Luton yng ngêm gyntaf Sabri Lamouchi wrth y llyw nos Fawrth.

Yr Adar Gleision ddaeth agosaf at sgorio yn yr hanner cyntaf, gydag ergyd Callum Robinson o bellter yn taro'r trawst.

Daeth cyfle euraidd i Luton gydag 20 munud yn weddill wrth i Cedric Kipre ildio cic o'r smotyn am lawio yn y cwrt cosbi, ond llwyddodd y golwr Ryan Allsop i arbed ergyd Elijah Adebayo o 12 llath.

Ond yn y munudau olaf llwyddodd Adebayo i wneud yn iawn am ei gamgymeriad, gan rwydo gyda pheniad o groesiad Alfie Doughty.

Mae Caerdydd bellach wedi mynd 10 gêm heb fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth ac maen nhw un safle, a thri phwynt, o safleoedd y cwymp.

Cafodd Lamouchi - cyn-chwaraewr rhyngwladol i Ffrainc a chyn-reolwr Nottingham Forest - ei benodi yr wythnos hon i olynu Mark Hudson.