Y Wladfa: Oedi i gynllun i agor ysgol uwchradd Trevelin

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y CwmFfynhonnell y llun, Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ysgol uwchradd newydd y drws nesaf i adeilad Ysgol y Cwm, ysgol gynradd yn Nhrevelin

Mae cynllun i agor ysgol ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg yn y Wladfa wedi'i ohirio am flwyddyn oherwydd "diffyg sicrwydd ariannol yn y tymor hir".

Roedd sefydlu'r ysgol uwchradd yn Nhrevelin hefyd yn ddibynnol ar gael 25 o ddisgyblion i gofrestru cyn y Nadolig, er mwyn cadw'r ffioedd i lawr.

Ond 18 sydd wedi cofrestru hyd yma, a'r gobaith nawr yw y bydd yn agor ei drysau ym mis Mawrth 2024.

Bydd wyth o bobl o Gymru yn teithio ar wyliau i'r Wladfa ym mis Ebrill - wedi ei threfnu gan bwyllgor llywodraethwyr Ysgol y Cwm - gyda'r elw yn mynd tuag at sefydlu'r ysgol uwchradd y drws nesaf iddi.

Ysgol y Cwm oedd yr ysgol gynradd ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg gyntaf yn Nhrevelin yng Nghwm Hyfryd, yng ngorllewin y Wladfa, a'r drydedd yn y Wladfa. Cafodd ei hagor yn 2016.

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Pedair athrawes sy'n dysgu gwersi Cymraeg yn Ysgol y Cwm

Esboniodd Gwion Elis-Williams a Margarita Green ar ran y pwyllgor mai'r "prif reswm dros ohirio oedd diffyg sicrwydd ariannol yn y tymor hir".

"Cawsom ymgyrch lwyddiannus yng Nghymru, a lansiwyd yn ystod wythnos yr Eisteddfod - ac rydym ni'n hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd."

'Yr ymgyrchu'n parhau'

Mae'r pwyllgor yn amcangyfrif y bydd angen tua £25,000 y flwyddyn i redeg yr ysgol uwchradd.

Dywedodd: "Bydd canran sylweddol o hwn yn dod o ffioedd y disgyblion, ond bydd angen cymorth ychwanegol gan ein ffrindiau o Gymru hefyd, ynghyd â llywodraeth y dalaith.

"Felly mi fydd yr ymgyrchu'n parhau - ac mae'n debygol y byddwn yn trefnu rhagor o deithiau codi arian yn y dyfodol!"

Ffynhonnell y llun, Gwion Elis-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Andes yn gefnlen i wersi ymarfer corff

Mae'r daith ym mis Ebrill yn cynnwys penwythnos yn Buenos Aires, cyn hedfan i Drelew i dreulio pedair noson yno.

Bydd y criw wedyn yn croesi'r paith a chael pedair noson yn Nhrevelin. Yna bydd noson yn Bariloche cyn hedfan nôl i Buenos Aires.

'Brwdfrydedd'

Ymhelaethodd ynghylch yr oedi: "Yn sicr mae brwdfrydedd dros ysgol uwchradd Gymraeg-Sbaeneg newydd yn yr ardal, ond y teimlad ydy bod angen mwy o sicrwydd cyn ein bod yn gallu symud ymlaen gyda'r prosiect.

"Mae sefyllfa'r economi yn yr Ariannin mor fregus ag erioed, ac ar ben hynny mae etholiadau cenedlaethol ym mis Tachwedd, sy'n ychwanegu at yr ansicrwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae naw dosbarth gwahanol sy'n cael gwersi Cymraeg yn Ysgol y Cwm, a nifer yn rhagor yn y Gaiman a Threlew hefyd

Fe wnaeth prisiau bron dyblu yn yr Ariannin y llynedd wrth i gyfradd chwyddiant flynyddol y wlad gyrraedd ei lefel uchaf ers mwy na 30 mlynedd.

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod prisiau wedi neidio 94.8% yn y 12 mis hyd at ddiwedd Rhagfyr 2022.

Y llynedd cododd banc canolog yr Ariannin ei brif gyfradd llog i 75% wrth geisio ffrwyno costau byw cynyddol.

Mae tir Cymdeithas Gymraeg Trevelin ar gael i adeiladu'r ysgol uwchradd y drws nesaf i adeilad Ysgol y Cwm, ac mae dau bensaer lleol wedi cyflwyno eu cynlluniau i Lywodraeth Chubut.

Y bwriad oedd cael yr adeilad newydd o leiaf yn rhannol barod erbyn 2026, ond y disgwyl yw y bydd oedi tan 2027.

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Yn y pendraw, y bwriad yw y bydd 150 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol uwchradd newydd yn Nhrevelin

Esboniodd Gwion Elis-Williams a Margarita Green: "Roedd yr ysgol yn gobeithio cael addewid gan lywodraeth y wlad ynglŷn ag ariannu'r gwaith adeiladu - buasai'r arian yn dod trwy law llywodraeth talaith Chubut, ond hyd yn hyn rydym yn dal i ddisgwyl am unrhyw newyddion pendant.

"Mae llywodraeth y dalaith wedi rhoi eu sêl bendith i'r prosiect o ran yr ochr addysgiadol yn barod - ond allwn ni ddim symud ymlaen heb gael cytundeb ar gyfer y gwaith adeiladu hefyd."

Y bwriad yw y bydd yr ysgol uwchradd yn rhannu adeilad gydag Ysgol y Cwm am y tair blynedd gyntaf o 2024 ymlaen, gyda'r ysgol gynradd yn cael ei chynnal yn ystod y boreau a'r ysgol uwchradd pob prynhawn.

Y gobaith yw y bydd 25 o ddisgyblion newydd yn dechrau bob blwyddyn yn yr ysgol uwchradd, felly ar ôl tair blynedd, bydd 75 o ddisgyblion ac felly bydd rhaid cael adeilad newydd ar eu cyfer.

Ffynhonnell y llun, Isaias Grandis
Disgrifiad o’r llun,

Codi baneri yn ystod agoriad Ysgol y Cwm yn 2016

Yn y pendraw, y bwriad yw y bydd 150 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol uwchradd newydd.

Yn y cyfamser, bydd addysg Gymraeg ar gael i'r plant a adawodd Ysgol y Cwm yn Rhagfyr 2022 trwy ddosbarthiadau Cymraeg Ysgol Gymraeg yr Andes.

Yr ysgol honno oedd yn gyfrifol am ddarparu'r holl ddosbarthiadau Cymraeg yn Nhrevelin cyn i Ysgol y Cwm agor.

Ar hyn o bryd mae'n darparu dosbarthiadau i bobl ifanc ac oedolion yn ystod y nosweithiau, yn adeilad Ysgol y Cwm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol