Cofio 60 mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llinos Dafis yn cofio ei rhan hi ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Dwi wrth fy modd yn gallu dweud mod i ar y bont… Do, eisteddais i ar y bont."

Mae Llinos Dafis yn cofio ei rhan hi ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyda balchder.

Roedd hi'n un o ddegau o brotestwyr wnaeth atal y traffic ar Bont Trefechan yn Aberystwyth union 60 mlynedd yn ôl, a dechrau ar gyfnod hir o brotestio dros y Gymraeg.

Roedd y brotest ar 2 Chwefror 1963 yn ddechrau ar ddegawdau o weithredu torfol gan y gymdeithas i geisio sicrhau, yn y lle cyntaf, statws swyddogol i'r Gymraeg a hawl pobl Cymru i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o'u bywydau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Llinos Dafis: 'Fy mraint i oedd bod ar Bont Trefechan'

Beth oedd cefndir y brotest?

Flwyddyn cyn y brotest roedd Saunders Lewis yn ei ddarlith eiconig 'Tynged yr Iaith' wedi rhybuddio: "Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo."

Yn sgil y ddarlith, cafodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei sefydlu ym mis Awst 1962.

Yn y flwyddyn honno cafodd un o'r aelodau, Gareth Miles, ei garcharu ar ôl gwrthod ymddangos yn y llys am iddo dderbyn gwŷs uniaith Saesneg.

Y bwriad wrth drefnu gweithred yn Aberystwyth ym mis Chwefror 1963 oedd cael yr heddlu i arestio nifer o'r protestwyr fel eu bod nhw hefyd yn gallu gwrthod y gwysion neu'r gorchymyn i ymddangos gerbron llys, hyd nes iddyn nhw eu cael yn Gymraeg.

Felly aeth y protestwyr ati i ludo posteri ar ffenestri swyddfa'r post yng nghanol tref Aberystwyth yn galw am statws swyddogol i'r iaith Gymraeg. Trwy wneud roedden nhw'n torri is-ddeddf eiddo.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith atal y traffig ar Bont Trefechan yn Aberystwyth union 60 mlynedd yn ôl

Ond, yn ôl Llinos Dafis, doedd yr heddlu ddim wedi ymateb fel roedd y protestwyr wedi disgwyl.

"Y bwriad oedd, achos bod Gareth wedi methu cael gwŷs yn Gymraeg, ein bod ni'n mynd allan a nifer ohonom ni'n cael gwysion er mwyn gallu eu gwrthod nhw nes ein bod ni'n cael nhw yn y Gymraeg.

"Ond roedd yr heddlu yn deall y gêm, ac felly ni roddwyd gwŷs i neb.

"'No comment' oedd sylw'r plismon pan ofynnodd rhywun iddo fe 'pe taech chi'n rhoi gwŷs i un o'r rhain, aethen ni!', ond 'no comment' oedd yr ateb."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y protestwyr ludo posteri ar ffenestri swyddfa'r post yn Aberystwyth, ond ni chafodd yr effaith roedden nhw wedi gobeithio amdano

Ar ôl cael siom gyda'r weithred wrth swyddfa'r post aeth y protestwyr i'r Home Cafe i drafod eu camau nesaf.

Roedd rhai yn teimlo bod angen mynd adre' a threfnu digwyddiad ar gyfer diwrnod arall, ond roedd tân ym moliau eraill oedd am weithredu eto ar unwaith.

Mae'r Dr Rhodri Aled Evans o Brifysgol Aberystwyth wedi cwblhau doethuriaeth ar Radicaliaeth yn y 1960au a'r 70au.

Dywedodd bod anghytuno yn y caffi, gan gynnwys rhwng arweinwyr y gymdeithas ar y pryd.

"Yn ôl y sôn roedd tipyn o densiwn rhwng John Davies a Tedi Millward - arweinwyr y gymdeithas - os oedd hi'n briodol i gymryd cam mor chwyldroadol a herfeiddiol ag eistedd ar y bont, ond roedd carfan go sylweddol o'r protestwyr wedi penderfynu 'wel ie, dyna'r trywydd i gymryd'."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Rhodri Evans roedd amrywiaeth o bobl yn rhan o'r brotest, ac adroddiadau gwahanol am y niferoedd.

Mae Llinos Dafis yn cofio'r trafod yn y caffi.

"Oedd, roedd 'na rai yn anghytuno," meddai.

"Roedd 'na deimlad ymhlith y bobl oedd wedi mynd ati i drefnu'r brotest gynta' bod hyn yn mynd allan o reolaeth o bosib, ac yn wir y gallai pobl gael eu hanafu - dim chwarae oedd e.

"Ond roedd pobl oedd yn sicr eisiau mwy, a falle roedd trio sticio posteri ar swyddfa'r post yn edrych yn weithred eitha' dof ar un olwg.

"Doedd e ddim yn edrych yn ofnadwy o droseddol, ac roedd geiriau Saunders Lewis 'trwy ddulliau chwyldro yn unig' yn atseinio yn y rhengoedd fel petai.

"Felly ga'th y syniad ei awgrymu ein bod ni yn mynd lawr i Bont Trefechan achos bod honno yn brif ffordd fewn i Aberystwyth ac yn ffordd yr oedd hi'n bosib ei chau, gan mai pont oedd hi. Felly fe benderfynwyd mynd!"

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Dafis yn cofio'r awydd i herio'r awdurdodau wrth gyrraedd Pont Trefechan ar 2 Chwefror 1963

Yn ôl Dr Rhodri Evans roedd amrywiaeth o bobl yn rhan o'r brotest, ac adroddiadau gwahanol am y niferoedd.

"Mae'r ffigyrau rywfaint yn ansicr. Mae rhai yn dweud taw rhyw 30 oedd ar y bont, rhai eraill yn nodi bod 50 erbyn i chi gyfri' yr unigolion oedd yna, falle ddim yn eistedd ar y bont ei hun ond yn cefnogi'r ymdrech," meddai.

"Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn fyfyrwyr, y garfan fwyaf o Aberystwyth, ond carfan reit sylweddol wedyn wedi teithio trwy'r eira o Brifysgol Bangor, ac wedyn ambell gefnogwr brwd arall o ddeheudir Cymru.

"Ond mae 'na awgrym y buasai mwy wedi bod yn bresennol pe bai'r amodau tywydd wedi bod yn well."

'Safiad tipyn mwy grymus'

Ychwanegodd Dr Evans bod y brotest wedi digwydd mewn cyfnod cythryblus yng Nghymru.

"Mi oedd Tryweryn yn ffrwtian yn y cefndir, a hynny'n creu tipyn o anniddigrwydd ymysg carfan o ieuenctid cenedlaetholgar.

"Mi oedden nhw am weld safiad tipyn mwy grymus i amddiffyn buddiannau y genedl Gymreig.

"Ac mi oedd yna deimlad fod y gweithredoedd gwleidyddol oedd yn cael eu hamlygu gan waith Plaid Cymru falle ddim yn mynd i'r eithafion pella' posib.

"Mi oedd yr ymlyniad wrth ddulliau cyfansoddiadol yn dechrau anniddigo amryw. Mi oedd yna syniad bod angen 'gwneud rhywbeth', a'r penderfyniad felly yn cael ei gymryd i herio'r awdurdodau."

Disgrifiad o’r llun,

Pont Trefechan fel y mae hi heddiw

Mae Llinos Dafis yn cofio'r awydd i herio'r awdurdodau wrth gyrraedd Pont Trefechan ar 2 Chwefror 1963.

"Yn bersonol doedd gen i fawr o syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd ar ôl i ni gyrraedd y bont," meddai.

"O'n i'n gwybod ein bod ni'n mynd i eistedd lawr ar ganol y ffordd ond do'n i ddim yn berson ymrafael corfforol, ac ro'n i'n reit ofnus yn cyrraedd y bont a dweud y gwir.

"Ond ro'n i'n un o'r criw ac ro'n i'n mynd i wneud beth o'n i wedi dweud o'n i'n mynd i wneud.

"Mi fuodd eistedd ar y bont yn brofiad diddorol a gweld ymateb gwahanol bobl, [gan gynnwys] ymateb y bobl leol oedd yn cael eu rhwystro rhag dilyn eu llwybrau beunyddiol.

"I fi, oedd wedi cael ei geni a'i magu yn Aberystwyth, o'n i yn 'nabod lot o'r bobl oedd yn gwrthwynebu ni.

"O'ch chi'n gallu gweld natur pobl - roedd amynedd pobl yn pallu yndoedd! Ac o'n nhw ddim yn deall beth o'n ni'n gwneud yna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae plac ar y bont i'w chofnodi fel lleoliad protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith

Er i'r protestwyr lwyddo i atal y traffic ar y bont, wnaethon nhw ddim llwyddo yn eu nod o gael yr heddlu i'w harestio.

Chafodd neb wŷs yn dilyn y gweithredu, ond roedd llawer yn ystyried y diwrnod yn llwyddiant am i'r brotest gael tipyn o sylw yn y papurau newydd.

'Do, eisteddais i ar y bont'

Mae Llinos Dafis yn dal i fyw ger Aberystwyth ac mae'n dweud, pan fydd hi'n croesi Pont Trefechan, mae ei meddyliau yn troi 'nôl at y diwrnod hwnnw ym mis Chwefror 1963.

"Dwi wrth fy modd yn gallu dweud mod i ar y bont," meddai.

"Er nad oeddwn i'n un o'r arweinwyr nac yn un o'r protestwyr mwya' ffyrnig o bell ford, ond o'n i ar y bont!

"Do, eisteddais i ar y bont."