Rali yn Aberystwyth i dynnu sylw at yr argyfwng tai

  • Cyhoeddwyd
Rali
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod 1,200 o bobl wedi mynychu'r rali

Daeth dros 1,000 o bobl i rali yn Aberystwyth brynhawn Sadwrn i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng tai yng Nghymru.

Roedd rali Nid yw Cymru ar Werth yn cael ei chynnal i gyd-fynd â 60 mlynedd ers darlledu darlith radio Saunders Lewis 'Tynged yr Iaith'.

Y ddarlith a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith.

Cynhaliwyd y rali ddyddiau cyn dyddiad cau dau ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar reoleiddio a threthu llety gwyliau ac ail dai, a chynllun tai cymunedau Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rali yn cyd-fynd â 60 mlynedd ers darlledu darlith radio Saunders Lewis 'Tynged yr Iaith'

Yn gynharach dywedodd un o drefnwyr y rali, Osian Jones: "Mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar fod pwysau pobl Cymru am gyfiawnder yn y farchnad dai ac am gamau i sicrhau'r hawl i fyw yn lleol wedi cael effaith sylweddol ar y llywodraeth.

"Maen nhw wedi cyhoeddi camau i gyflwyno rheolau cynllunio newydd a threthi newydd posibl i atal colli gormod o'n stoc tai i'r farchnad ail gartrefi ac Airbnb.

"Ar ddechrau blwyddyn o ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae'n gyfle i ni atgoffa'n hunain bod ymgyrchu'n talu ffordd heddiw gymaint ag erioed felly mae angen dal i bwyso.

"Daliwn i bwyso i sicrhau na fydd y llywodraeth yn cyfaddawdu, ond yn blaenoriaethu cymunedau nid cyfalafiaeth.

"A daliwn i bwyso dros ymrwymiad i basio Deddf Eiddo gyflawn i sicrhau cyfiawnder o'r diwedd a pharhad i'n cymunedau trwy fod ystyried tai yn asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi, nid fel asedau masnachol i wneud elw."