'1,000 o swyddi mewn perygl' wrth i grantiau'r UE orffen
- Cyhoeddwyd
Mae tua 1,000 o swyddi mewn perygl o fewn y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru, medd y corff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymru,
Yn ôl Prifysgolion Cymru, mae mynediad i nifer o raglenni ariannu'r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben eleni, gan adael y sector yn agos "at drychineb".
Mae yna alwadau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ar frys gan ddarparu cyllid pontio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin yn cyfateb i arian yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Prifysgolion Cymru, cafodd tua £370m o gronfeydd yr UE eu buddsoddi mewn prosiectau gwahanol ym mhrifysgolion yng Nghymru rhwng 2014 a 2020.
Ac mae tua 60 o brosiectau ymchwil yn dibynnu ar y cyllid hwnnw, sydd i fod i ddod i ben eleni.
'Hoffwn i gael y siawns i aros yng Nghymru'
Un o'r prosiectau sydd mewn perygl yw'r prosiect SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe, a enillodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar.
Mae'r prosiect yn datblygu technolegau sy'n gallu dal ynni o'r haul a'i storio mewn adeiladau nes bod angen ei ddefnyddio.
Mae tua 60 o bobl yn gweithio ar y prosiect, gan gynnwys Carys Worsley, sy'n astudio am ei gradd doethuriaeth.
Wedi iddi orffen ei gradd, mae'n gobeithio aros yn yr ardal i weithio fel peiriannydd.
Ond os na fydd y prosiect yn parhau, mae'n poeni bydd rhaid iddi adael Abertawe, a Chymru efallai, i ddod o hyd i swydd.
"Hoffwn i aros yn gweithio yn y brifysgol.
"Ond mae'n bosib iawn fydd rhaid i fi adael. Bydd e'n drist achos mae teulu fi i gyd fan hyn.
"Ond i gael gwaith sy'n bwysig ac sy'n berthnasol i beth fi wedi gwneud yn y brifysgol bydd rhaid i fi fynd rhywle arall os fydd ddim arian fan hyn.
"Hoffwn i gael y siawns i aros yng Nghymru. Os dwi eisiau teulu yn y dyfodol, fydd e'n neis i blant fi i siarad Cymraeg, ac i dyfu lan yn yr un environment a nes i."
Bydd yr effaith o golli cyllid yr UE yn effeithio ar yr holl gymuned, nid yn unig ar y brifysgol, yn ôl Dr Eifion Jewell, darlithydd ym Mheirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe.
"Fe ddylai'r brifysgol fod yn rhan o'r gymuned.
"Mae'n rhaid i ni greu arian yn ne Cymru. A ffordd o wneud hynny yw gwneud rhywbeth gwahanol."
"Mae colli'r cyllid yn golygu bydd hi'n anodd cadw'r unigolion sydd gyda sgiliau unigryw, o rownd y byd i gyd sy'n dod i Gymru i weithio. Maen nhw'n dod yma i weithio tuag at yr un nod. Dyw'r sgiliau 'na ddim yn rhywbeth sy'n dod dros nos.
Prifysgolion Cymru mewn 'argyfwng'
Yn ôl Dr Jewell, gallai cyflwyno technoleg SPECIFIC i'r farchnad dai yng Nghymru helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni, wrth helpu cymunedau i leihau allyriadau carbon, ar yr un pryd â helpu gyda chostau tanwydd.
Ond fe ddywedodd Deian Hopkin, cyn is-ganghellor ac ymgynghorydd addysg, bod prifysgolion Cymru mewn "argyfwng."
"Roedd arian o Ewrop yn hanfodol i gynnal ymchwil nid yn unig yng Nghymru ond ar draws Prydain.
"Ac mae bron pob prifysgol wedi cael arian, ac mae prifysgolion fel Abertawe wedi elwa tipyn.
"Mae'r llywodraethau yn bwriadu rhoi arian mewn, ond mae'r swm i gymharu â'r Undeb Ewropeaidd yn llawer llai.
"Yn enwedig yn y cyfnod presennol gyda nifer o ofynion eraill, fel ysgolion ac iechyd, mae ddim yn cael yr un flaenoriaeth wleidyddol a phethau eraill. Felly mae'n argyfwng i brifysgolion, a fydd hyn yn broblem nes bod y llywodraethau yn dod o hyd i ateb."
Prosiectau 'ar ymyl y dibyn'
Mae'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe yn cytuno gyda'r pryderon yma gan rybuddio bod SPECIFIC yn un o nifer o brosiectau "ar ymyl y dibyn".
Fe ddywedodd: "Bydd y swyddi hyn yn mynd o fis Mawrth ymlaen, felly mae'n rhaid i wneud rhywbeth am hyn nawr er mwyn i ni allu cadw'r dalent yr ydym mewn perygl o golli o Gymru."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU: "Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cyfateb i arian yr UE, ac yn rhoi rheolaeth i gynghorau lleol ar sut mae arian yn cael ei wario, ac yn galluogi cymunedau lleol i fuddsoddi yn y materion sydd o bwys iddyn nhw.
"Bydd Cymru'n derbyn £585m o gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae cynghorau'n gyfrifol am benderfynu pa brosiectau i'w hariannu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid lleol."
Ond dywed yr Athro Griffiths na fydd y cyllid yn cyrraedd y man cywir.
Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu a ddylid buddsoddi'n rhanbarthol, yn lleol neu'n genedlaethol.
Ac mewn datganiad, dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething AS: "Mae'r arian cyfan oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin i Gymru yn £585 miliwn, sef £1.1 biliwn yn llai o'i gymharu â chronfeydd yr UE."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022