Cyllideb Llywodraeth Cymru: Beth fydd y flaenoriaeth?

  • Cyhoeddwyd
Aros mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd ar eu huchaf erioed

Mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd ar eu huchaf erioed, mae 'na argoeli y bydd safonau byw yn disgyn, ac mae'r economi, fwy na thebyg, mewn dirwasgiad a fydd yn peryglu busnesau a swyddi.

Dan yr amodau yma, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddydd Mawrth.

Gyda thua £20bn i wario, sut all y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ysgafnhau'r baich ar bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus?

Iechyd

Cafodd y gwasanaeth iechyd lawer mwy o arian eleni. Ond, hyd yn hyn, dyw hynny ddim wedi cael lot o effaith ar restrau aros.

Mae miloedd yn fwy angen triniaeth o ganlyniad i'r pandemig.

Mynd i'r afael â hyn oedd y "flaenoriaeth uchaf", meddai Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb ddiwethaf.

Ar y pryd, fe wnaethon nhw gyfeirio at nifer y bobl a fu'n aros o leiaf 36 wythnos ym mis Medi 2021, ond er gwaethaf cyllid ychwanegol, mae'r niferoedd yn dal i godi.

Mae amseroedd ymateb ambiwlansys wedi tyfu hefyd.

Mae'n ymddangos na all ysbytai ryddhau cleifion yn ddigon cyflym oherwydd diffyg gofal cymdeithasol.

Yng nghanol hyn oll, mae nyrsys a staff ambiwlans yn paratoi i fynd ar streic.

Gallwch ddeall pam fod y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi disgrifio ei swydd y gaeaf hwn fel "uffern ar y ddaear".

Mae cyllid ychwanegol yn dod o San Steffan, ond mae rhybudd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud efallai na fydd yn ddigon i ymdopi â phwysau ôl-bandemig.

Daeth yr arian ychwanegol o ddatganiad hydref y Canghellor, Jeremy Hunt, ond mae'n llai na chost chwyddiant.

Gallai chwyddiant ddileu hyd at £1.4bn o gyllideb Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, gan wneud bywyd yn anodd i bob gwasanaeth cyhoeddus, nid yn unig y gwasanaeth iechyd.

Ffynhonnell y llun, Vitalii Petrushenko

Costau byw

Mae'r rhagolygon ar gyfer aelwydydd yn llwm. Fe wnaeth incymau yng Nghymru wella tan yr argyfwng ariannol ganol y 2000au. Mae disgwyl i'r cwymp barhau am flynyddoedd eto.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio lleihau y cynnydd sydyn mewn costau ynni i rai pobl.

Mae grantiau brys ar gael trwy gronfa arbennig. Darparwyd arian ychwanegol ar gyfer banciau bwyd a hybiau cynnes, ac mae taliad o £200 wedi'i roi i bobl ar fudd-daliadau.

Er mwyn parhau â'r cymorth hwnnw i'r flwyddyn ariannol nesaf bydd angen i Ms Evans ddod o hyd i £126m o rywle, meddai'r Ganolfan Llywodraethiant.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y cymorth y mae'n ei ddarparu yn cael ei gyfyngu i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Mae hynny'n wahanol i bolisïau fel prydau ysgol am ddim a phresgripsiynau am ddim, sydd ar gael i bawb.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn cyhoeddi cynlluniau gwariant y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf ddydd Mawrth

Cyflogau sector cyhoeddus

Rebecca Evans sydd, yn y pen draw, â rheolaeth dros gyflogau miloedd o bobl yn y sector cyhoeddus.

Mae tua 245,000 o weithwyr yn gweithio i wasanaeth sy'n atebol i Fae Caerdydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn beio San Steffan am fethu â darparu'r arian sydd ei angen i dalu mwy iddynt.

Ond nid yw'r ddadl yn lleihau'r cur pen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Pe bai cyflogau'n cadw i fyny â chyfradd chwyddiant o 10% byddai'n ychwanegu swm aruthrol o £700m at y bil y flwyddyn nesaf.

Bydd ateb y cynnydd annisgwyl hwn mewn chwyddiant bron yn amhosibl, meddai gweinidogion, sy'n golygu y bydd cyflogau'n crebachu mewn termau real.

Mae hyn i gyd yn digwydd ar ôl bron i ddegawd o lymder, pan wasgwyd cyflogau a phan wnaeth gweithlu'r sector cyhoeddus grebachu.

Gallai lleihau'r gweithlu ymhellach fyth ryddhau arian i gynyddu cyflogau.

Mae tynnu arian allan o rannau eraill o'r gyllideb yn opsiwn arall. Ni fydd y naill na'r llall yn apelio at weinidogion.

Yr economi

Er mwyn eu helpu drwy'r cyfnod anodd sydd o'u blaenau, mae busnesau'n cael cynnig cymorth ychwanegol gydag un o'u biliau treth.

Cyhoeddwyd ddydd Llun y bydd y gyllideb yn tynnu 75% oddi ar filiau trethi busnes tafarndai, caffis a siopau - hynny'n fwy na'r 50% oedd ar gael eleni.

Mae'n ailadrodd yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ond mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cwestiynu pa mor effeithiol fydd hyn fel arf yn erbyn y dirwasgiad.

Disgrifiad,

Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, fod gorfod gwneud rhagor o doriadau gwariant yn ei "rhwygo"

Cafodd Ms Evans rywfaint o arian ychwanegol ar ôl i'r Canghellor sianelu cyllid i leihau ardrethi busnes yn Lloegr.

Yn ogystal â'r cymorth i'r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, mae peth o'r arian yn cael ei ddefnyddio i newid y fformiwla sy'n gosod cyfraddau - penderfyniad sy'n arbed busnesau rhag cynnydd aruthrol yn eu biliau y flwyddyn nesaf.

Ond mae'r economi yn dal i wynebu cyfnod ansicr. Dyw busnesau ddim yn gwybod eto beth fydd yn digwydd ym mis Ebrill pan fydd cymorth Llywodraeth y DU ar gyfer biliau ynni yn dod i ben.

Treth

Mae'n annhebygol y bydd unrhyw gyllid ychwanegol gan Ms Evans yn ddigon i leddfu'r holl bwysau ar gyllidebau cynghorau.

O ganlyniad, fe allai trethdalwyr wynebu "cynnydd sylweddol" yn eu treth cyngor yn y blynyddoedd i ddod, meddai Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Disgrifiad,

Yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, mae gan gynghorau "dair ffordd" i daclo toriadau

Mae ffordd fwy uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru newid eich bil treth - drwy dreth incwm.

Mae gan Lafur ymrwymiad yn eu maniffesto i osgoi codi'r dreth tra bod effaith economaidd coronafeirws yn para.

Serch hynny, nid yw gweinidogion wedi diystyru cynyddu treth incwm yn y gyllideb hon.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw arnyn nhw i wneud hynny.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif y byddai cynnydd ychwanegol o 1c yn y tri band treth yn codi £275m y flwyddyn nesaf a £288m y flwyddyn wedyn.

Ym mis Hydref, dywedodd Mark Drakeford y byddai'r achos dros godiad treth yn cael ei "ystyried yn ddwys".

Ond roedd hynny yn fuan ar ôl i Kwasi Kwarteng dorri trethi yn ei gyllideb fechan - toriadau sydd wedi'u dileu ers hynny.