Sawl undeb yn gohirio streiciau iechyd ar ôl cynnig tâl gwell

  • Cyhoeddwyd
ambiwlansFfynhonnell y llun, EPA

Mae streiciau oedd i fod i gael eu cynnal ddydd Llun a dydd Mawrth gan sawl undeb sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd wedi cael eu gohirio.

Mae'r gweinidog iechyd Eluned Morgan wedi cynnig 3% ychwanegol i wyth undeb iechyd ar ben y £1,400 sydd eisoes wedi'i addo.

Bydd y cynnig newydd yn cael ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2022.

Yn sgil hynny, mae amryw o undebau sy'n cynrychioli gweithwyr ambiwlans, nyrsys, bydwragedd a ffisiotherapyddion wedi penderfynu peidio gweithredu tra byddan nhw'n ystyried y cynnig.

Ond fe fydd gweithwyr ambiwlans sy'n rhan o undeb Unite yn streicio ddydd Llun.

Beth ydy'r cynnig?

Roedd Ms Morgan wedi rhybuddio y byddai angen canslo llawdriniaethau wythnos nesaf oherwydd y gweithredu diwydiannol.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener bod cynnig mwy sylweddol wedi cael ei wneud i'r undebau iechyd yn dilyn trafodaethau dros yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd bod y cynnig newydd yn cynnwys 3% ychwanegol eleni, a 1.5% y flwyddyn ganlynol.

Mae hynny, meddai, ar ben yr argymhellion gan y corff sy'n adolygu taliadau, sydd eisoes wedi cael eu gweithredu.

Dywedodd y llefarydd hefyd bod yna ymrwymiadau eraill i wella lles staff, gyda thrafodaethau i barhau wythnos nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweithwyr ambiwlans wedi bwriadu mynd ar streic ar yr un pryd â nyrsys ddydd Llun

Mewn datganiad, dywedodd arweinydd y GMB yng Nghymru - sy'n cynrychioli tua chwarter y gwasanaeth ambiwlans - eu bod wedi cytuno i atal streiciau tra bod trafodaethau pellach yn cael eu cynnal.

"Rydyn ni'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwneud consesiynau, ac rydym yn gwerthfawrogi'r trafodaethau agored a di-flewyn-ar-dafod gyda nhw dros y misoedd diwethaf.

"Rydyn ni'n undeb sy'n cael ein harwain gan ein haelodau - nhw fydd yn penderfynu yn y pen draw," meddai Nathan Holman.

Bydd Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yn rhoi'r cynnig newydd gerbron eu haelodau yn y dyddiau nesaf.

Dywedodd eu Cyfarwyddwr yng Nghymru, Helen Whyley, ei bod hi'n "amlwg bod y streiciau ym mis Rhagfyr 2022 wedi bod yn effeithiol".

'Dim oedi cyn gweithredu eto'

Mae ffisiotherapyddion y GIG yn Nghymru oedd i fod i weithredu ddydd Mawrth hefyd wedi gohirio eu streic er mwyn trafod y cynnig newydd.

Yn ôl Uwch-swyddog trafod Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion yng Nghymru, Adam Morgan, mae Llywodraeth Cymru "wedi gwneud yr hyn roedden ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud ac wedi dod at y bwrdd i gael trafodaethau ystyrlon".

Dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) eu bod yn gobeithio datrys materion eraill hefyd gan gynnwys pwysau ar staff a'u hamodau gwaith.

"Ond rydym ym parhau i fod â mandad cryf dros weithredu diwydiannol," meddai Cyfarwyddwr yr RCM yng Nghymru, Julie Richards.

"Fyddwn ni ddim yn oedi rhag gweithredu eto os bydd ein haelodau yn gwrthod y cytundeb, neu os na fydd trafodaethau yn symud yn eu blaenau yn ôl yr addewid."

Pynciau cysylltiedig