Streiciau iechyd: Canslo 'llawer' o lawdriniaethau

  • Cyhoeddwyd
Nyrs mewn llinell biced yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd angen i GIG Cymru ganslo llawdriniaethau wythnos nesaf, a mathau eraill o ofal sydd wedi eu cynllunio, oherwydd gweithredu diwydiannol, medd Gweinidog Iechyd Cymru.

Mae disgwyl i nyrsys, staff ambiwlans, ffisiotherapyddion a bydwragedd i fynd ar streic.

Bydd yna ragor o drafodaethau rhwng y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan a'r undebau ddydd Iau mewn ymgais i geisio atal rhagor o streicio.

Hyd yn hyn mae Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yng Nghymru wedi gwrthod cynnig Llywodraeth Cymru o daliad untro i'w haelodau.

Mae RCN Cymru yn cynnal streiciau ddydd Llun a ddydd Mawrth nesaf.

Bydd staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sy'n perthyn i'r undeb Unite yn mynd ar streic ddydd Llun.

Dyma fydd y tro cyntaf i staff ambiwlans a nyrsys weithredu'n ddiwydiannol ar yr un diwrnod.

Mae bydwragedd a ffisiotherapyddion yn cynnal streic ar y dydd Mawrth.

Mae'r undebau'n pwyso am godiadau cyflog sydd o leiaf ar yr un lefel â chwyddiant, gan fynnu bod unrhyw gynnig gan Lywodraeth Cymru'n rhan o gyflog craidd gweithwyr.

Hyd yn hyn mae'r llywodraeth ond wedi cynnig taliad untro ar gyfer 2022-23.

Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Llun nesaf, am y tro cyntaf, bydd gweithwyr ambiwlans ar streic ar yr un pryd â nyrsys

Mewn cynhadledd i'r wasg, dywedodd Eluned Morgan: "Rydym yn ymwybodol iawn o gryfder teimladau pobl sy'n gweithio i'r GIG.

"Yn amlwg fe fydd yna bwysau ar wasanaethau."

Bydd yna "angen i ganslo cryn dipyn o ofal a gynlluniwyd", dywedodd, "a fydd, rwy'n siŵr, yn achosi llawer o rwystredigaeth i bobl".

Mae gofal a gynlluniwyd yn cyfeirio fel arfer at lawdriniaethau na sy'n rhai brys, gofal cleifion allanol a phrofion diagnostig.

"Mae'n bwysig ein bod yn gosod y camau lliniaru hynny, ein bod yn gwneud llawer o waith paratoadol," meddai Ms Morgan, gan bwysleisio y bydd "gofal brys iawn" yn ei le.

'Pwysig i gadw trafodaethau'n fyw'

Dywedodd bod swyddogion Llywodraeth Cymru'n cwrdd â'r undebau ddydd Mawrth, ac y bydd hi ei hun yn cyfarfod gyda nhw ddydd Iau "i weld a oes yna unrhyw bosibilrwydd y gallwn ni osgoi gweithredu diwydiannol".

Pan ofynnwyd iddi a oes unrhyw gynigion newydd i'r undebau, atebodd nad oedd am roi "sylwebaeth ar y pryd ar y trafodaethau".

"Mae yna arian ry'n ni wedi ei gynnig i'r undebau - ry'n ni'n dal yn trafod hynny," meddai. "Mae yna gwpl o faterion eraill ar y bwrdd.

"Rwy'n meddwl bod hi'n bwysig bod ni'n trio cadw'r trafodaethau yma'n fyw," ychwanegodd, gan addo gweithio "tan yr eiliad olaf un i weld os yw'n bosib i ni osgoi gweithredu diwydiannol".

Pynciau cysylltiedig