Tasglu 2 Sisters: 'Am sicrhau dyfodol y ffatri a swyddi'

  • Cyhoeddwyd
2 sisters Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn cyflogi 730 o weithwyr

Mae tasglu a gafodd ei ffurfio yn dilyn cyhoeddiad cwmni 2 Sisters eu bod yn bwriadu cau eu ffatri ar Ynys Môn wedi cwrdd am y tro cyntaf.

Daeth y newyddion ddydd Iau wythnos ddiwethaf fod y cwmni wedi dechrau cyfnod o ymgynghori ynglŷn â chau'r ffatri yn Llangefni, oedd yn sioc i'r dros 700 o bobl sy'n gweithio ar y safle.

Dywedodd y cwmni bryd hynny bod y ffatri yn rhy fach ac y byddai'n costio gormod i'w moderneiddio, a bod costau tanwydd ac ynni hefydd yn ffactor yn eu penderfyniad.

Yn dilyn cyfarfod fore Gwener, mae'r tasglu wedi "ailddatgan ei gefnogaeth lawn i'r gweithwyr ac i'r cymunedau ym Môn a Gogledd Cymru ar ôl y newyddion trychinebus".

Mae'r tasglu'n cynnwys uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, Llywodraeth y DU, yr Adran Gwaith a Phensiynau, cwmni 2 Sisters Poultry Ltd ac undeb Unite.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths bod holl aelodau'r tasglu wedi ymrwymo "i weithio'n gyflym, a bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd dros yr wythnosau nesaf".

'Pob cymorth posib i'r gweithlu'

Mae'r tasglu wedi cytuno "mai'r amcan pennaf oll, yw ymchwilio i ffyrdd newydd o sicrhau dyfodol y ffatri a'r swyddi yn Llangefni".

Maen nhw hefyd wedi gwneud "adduned i gydweithio i ddeall goblygiadau rhanbarthol ac ehangach y cyhoeddiad ac i gynnig pob cymorth posibl i'r gweithlu".

Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, wedi'r cyfarfod mai "arbed y safle oedd y prif agenda", ond eu bod hefyd wedi trafod beth y gellir ei wneud i roi cymorth i'r gweithlu pe bai'r ffatri'n cau.

"Mae'n rhaid i ni flaenoriaethu achub y safle. Mi ydw i'n pwysleisio trwy'r adeg, mae effaith 730 o swyddi yma ym Môn yn dra gwahanol i ardaloedd eraill o Brydain Fawr a Chymru," meddai.

"Dyna pam fod angen i'r llywodraeth edrych yn wahanol ar sut maen nhw'n ymateb o ran y gefnogaeth yma.

"Ond fysa fo'n hollol annoeth i ni beidio blaengynllunio, os bydd y ffatri'n cau, sut mae gwneud y gorau dros y 730 yna?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Medi yn cydnabod y byddai hi'n anodd iawn canfod dros 700 o swyddi ar Ynys Môn i'r gweithlu

Ychwanegodd mai penderfyniad ar y cyd rhwng y cwmni a llywodraethau Cymru a'r DU ydy a fydd modd cadw'r ffatri ar agor.

"Mae o i'r llywodraethau i gael trafodaethau efo'r cwmni i weld be' ydy'r anghenion a be' sy'n bosib, ac wedyn mae'n rhaid i'r cwmni dd'eud a ydyn nhw'n barod i dderbyn y gefnogaeth yna."

Môn wedi 'colli cyfleoedd economaidd'

Mae'r Cynghorydd Medi yn cydnabod y byddai hi'n anodd iawn canfod dros 700 o swyddi ar Ynys Môn i'r gweithlu, pe bai'r ffatri yn cau yn llwyr.

"Mae'n 730 o unigolion, a rhai o'r rheiny'n gyplau hefyd - y teulu i gyd yn gweithio yna," meddai.

"Da ni wedi gweld dros y blynyddoedd, colli cyfleoedd economaidd ar yr ynys - ffatrïoedd a gwaith yn cau - a bob tro mae un o'r rheiny yn cau, mae 'na lai wedyn o swyddi ar gael i bobl fynd iddyn nhw.

"Felly mae'n anodd iawn gweld y bydd 'na leoliadau i bawb fynd, ond eto mae 'na lefydd yng Ngwynedd yn hysbysebu ar hyn o bryd, a'r cwmni ei hun yn d'eud efallai y bydd 'na gyfle i rai deithio draw i Lannau Dyfrdwy.

"Does 'na ddim cyfleoedd economaidd wedi dod i Fôn dros y degawd diwethaf, felly mae'n rhaid i ni gael ymateb gwahanol yma."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhian Sinnott o Siop Cain y bydd colli cymaint o swyddi gerllaw yn cael effaith ar dref Llangefni

Yng nghanol Llangefni, mae pryder ymysg perchnogion busnes ynglŷn â'r effaith y gallai colli'r swyddi gael ar y dref, a'r sir yn ehangach.

"Mae 'na bryder mawr. Mae 'na lot o bobl yn gweithio yna. Mae ganddyn nhw filiau, mortgages a ballu angen eu talu," meddai Rhian Sinnott o Siop Cain.

"Mae'n mynd i gael knock-on effect ar bawb yn y dref, a hefyd fydd 'na ddim swyddi yno i bobl sy'n gadael yr ysgol chwaith.

""Maen nhw'n cyflogi dros 700 o bobl - mae'n lot o swyddi i fynd. Lle maen nhw'n mynd i gael gwaith wedyn?"

Ychwanegodd ei bod yn "anodd d'eud" a fydd y tasglu yn llwyddo i gael unrhyw effaith gwirioneddol.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ers rhyw bedwar mis mae Becws Gwalia wedi agor yn Llangefni

Ychwanegodd Hannah Grindlay o gwmni Becws Gwalia, sydd wedi agor yn y dref ychydig fisoedd yn ôl: "Mae'n siom fawr, yn bryderus iawn. Mae'n siŵr bod 'na lot o bobl yn dod yma sy'n gweithio yna.

"Fydd o'n golled fawr i bawb yn Llangefni, felly dwi'n gobeithio y gwneith y tasglu ddod i ryw fath o ganlyniad.

"Hyd yn oes tasan nhw'n gallu safio 'chydig o'r swyddi, achos dwi'm yn gw'bod lle arall fysan nhw'n mynd rownd fan'ma.

"Does 'na'm llawer o'm byd arall sy'n cynnig yr un math o swyddi, felly os ydyn nhw'n mynd, fydd hi'n anodd iawn iddyn nhw ffeindio rhywbeth arall."

'Sefyllfa erchyll'

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener fe ddywedodd y cynghorydd sir yn ward Cefni, lle mae safle 2 Sisters, bod llywodraethau wedi cefnogi cwmnïau eraill yn y gorffennol, a bod angen gwneud yr un peth ar Ynys Môn.

"Mae pobl yn poeni tu hwnt," meddai'r Cynghorydd Nicola Roberts. "Mae'r sefyllfa'n erchyll, a be sydd waeth yw nad yw pobol yn gwybod be i 'neud.

"Mae angen rhoi rhyw fath o becyn ariannol a chymorth i fewn er mwyn cadw'n hogia ni mewn gwaith.

"Hyd yn oed os 'sa modd cadw rhai o'r swyddi, neu rhyw phased-out approach, mae rhywbeth yn gorfod cael ei drio ond y ffordd gynta' yw trio cadw'r swyddi i gyd a gweld sut fedrwn ni symud ymlaen.

"Dwi'n gobeithio bydd y llywodraethau yn gweld hyn, achos mae'r costau o wneud cymaint o bobl yn ddi-waith yn mynd i gostio mwy yn diwedd i'r llywodraeth.

"Maen nhw wedi medru camu fewn efo cwmnïoedd yn flaenorol - pam ddim gwneud yn fa'ma yn Llangefni pan 'da ni wir eu hangen nhw?"