Dowlais: Dau wedi'u hanafu'n ddifrifol wedi 'ffrwydrad nwy'
- Cyhoeddwyd
Mae pump o bobl yn yr ysbyty, dau wedi'u hanafu'n ddifrifol, yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad nwy mewn tŷ ym Merthyr Tudful.
Dywed Heddlu'r De fod dyn 19 oed a menyw 18 oed wedi dioddef llosgiadau yn y digwyddiad yn ardal Dowlais am tua 22:30 nos Fercher.
Y gred yw, meddai'r heddlu, nad yw eu bywydau mewn peryg.
Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi oherwydd y difrod.
Dywedodd cwmni Wales & West Utilities brynhawn Iau fod "dim gollyngiadau nwy wedi cael eu canfod yn yr ardal".
"Dyw achos y ffrwydrad ddim wedi dod i'r amlwg eto, ac mae'r gwasanaethau brys yn dal i ymchwilio," meddai llefarydd.
Mae'r heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i achos y ffrwydrad.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod criwiau wedi diffodd y tân yn llwyddiannus erbyn tua 23:46.
Nid yw preswylwyr dau dŷ, gan gynnwys y cartref gafodd ei effeithio, wedi cael dychwelyd eto, meddai'r heddlu.
Mae'r tŷ wedi cael ei gau i ffwrdd gan yr heddlu, gyda swyddogion o'r Uned Ymchwilio Gwyddonol yn bresennol ddydd Iau.
Roedd swyddogion Wales & West Utilities yno hefyd ynghyd â chwmni trydanol SSE.
"Byddwn yn hoffi diolch i gymuned Dowlais am eu hamynedd, dealltwriaeth a chefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio ac i'n staff yn yr ardal," meddai'r arolygydd Jon Duckham.
Sylwadau'r gohebydd David Grundy sydd wedi bod ar y safle gydol y dydd
Dydi'r difrod i'r tŷ yma yn Nowlais ddim yn hollol amlwg o flaen y tŷ. Mae peth difrod i'r to ac i ffenestr llofft ar y llawr cyntaf.
Stori wahanol iawn ydi ochr y tŷ lle mae nifer o graciau amlwg yn y waliau a thua hanner y wal i fyny'r grisiau ar goll.
Mae hi'n ymddangos bod y wal yn gwegian dan bwysau gweddill y tŷ ac mae yna dîm o gwmni sy'n arbenigo mewn dymchwel adeiladau wedi cyrraedd.
Yn ystod y prynhawn mae 'na fynd a dod sylweddol wedi bod gyda'r heddlu, perianwyr nwy o gwmni Wales and West Utilities a swyddogion o'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymweld â'r safle.
Bu'n rhaid i sawl cymydog adael eu cartrefi neithiwr. Dydyn nhw ddim wedi cael dychwelyd heddiw ac yn fy nhyb i fydd neb yn ôl adref yn fuan iawn wrth i'r ymchwiliad barhau.