Cyngor Sir Penfro 'heb dorri' rheolau diogelwch gwybodaeth

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Penfro yn gorfod arbed £28m yn ystod 2023-24

Mae Cyngor Sir Penfro wedi dweud na chafodd rheolau diogelwch gwybodaeth eu torri, ar ôl i gynghorwyr godi pryderon am wefan allanol oedd yn cynnwys manylion sensitif am doriadau posib i gyllideb y cyngor.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal wedi i linc i wefan allanol gael ei anfon i gynghorwyr gan yr aelod cabinet am gyllid corfforaethol, Alec Cormack, ychydig ddiwrnodau cyn seminar am y gyllideb.

Ond roedd y linc yn cysylltu i wefan allanol oedd ar yr un gweinydd â gwefannau ar gyfer busnes technoleg gwybodaeth y Cynghorydd Cormack, a Democratiaid Rhyddfrydol Sir Benfro.

Dywedodd cynghorwyr o'r wrthblaid wrth BBC Cymru eu bod nhw dal yn bryderus y gallai'r wefan fod wedi bod yn dilyn eu gweithredoedd, hyd yn oed wedi datganiad y cyngor.

Mae BBC Cymru yn deall bod y wefan allanol bellach wedi cael ei thynnu i lawr.

Pryderon am gadw gwybodaeth

Fe godwyd pryderon gan gynghorwyr bod potensial y gallai'r wefan allanol fod yn cadw golwg ar eu hymatebion cyfrinachol i opsiynau posib am doriadau i'r gyllideb.

Mae Cyngor Sir Penfro yn gorfod arbed £28m yn ystod 2023-24, ac fe fydd disgwyl i gynghorwyr bleidleisio ar gynigion ar gyfer y gyllideb.

Fe dderbyniodd pob un o gynghorwyr Sir Benfro e-bost gyda dolen bersonol gan y Cynghorydd Cormack, ychydig ddiwrnodau cyn seminar am y gyllideb ddydd Gwener diwethaf.

Roedd y ddolen yn cysylltu gyda gwefan allanol, Pembs.net, oedd yn cynnwys gwybodaeth am wahanol opsiynau i wneud arbedion yn y gyllideb, a thudalen arall er mwyn i gynghorwyr fedru pleidleisio ar doriadau posib.

Dyw hi ddim yn glir pam y cafodd y wefan ei sefydlu yn allanol yn hytrach nac ar weinydd y cyngor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Penfro yn "edrych i weld a dorrwyd unrhyw reolau yn ymwneud â diogelwch gwybodaeth"

Deellir fod cynghorwyr blin wedi herio'r Cynghorydd Cormack ynglŷn â phryderon am ddiogelwch y wefan yn ystod seminar am y gyllideb yn neuadd y sir ddydd Gwener.

Penderfynodd cynghorwyr i beidio pleidleisio ar y wefan yn sgil y ffrae chwerw yn y siambr.

Dywedodd un cynghorydd, Jacob Williams wrth BBC Cymru fod hi'n ymarferol bosib y gallai'r Cynghorydd Cormack, fel gweinyddwr y wefan, "fod yn casglu gwybodaeth am sut roedd bob cynghorydd yn ymddwyn ar y wefan ac yn cadw'r data at ei bwrpas ei hun".

Petasai hynny'n digwydd, meddai, fe fyddai'n "chwalu ymddiriedaeth" cynghorwyr.

Dywedodd cynghorydd arall wrth BBC Cymru, oedd ddim am gael ei enwi, fod hi'n bosib y gallai'r wefan fod wedi torri cyfreithiau i warchod data am ei fod yn honni nad oedd gan y wefan bolisi preifatrwydd a pholisi cwcis ar y pryd.

Mae cwcis yn medru olrhain sut mae defnyddiwr yn pori'r we.

'Arweinydd technoleg gwybodaeth'

Ar ei wefan, mae'r Cynghorydd Cormack yn cael ei ddisgrifio fel "arweinydd technoleg gwybodaeth", gyda 20 mlynedd o brofiad yn y maes.

Doedd y Cynghorydd Cormack ddim yn fodlon rhoi ymateb i BBC Cymru i gwynion gan gynghorwyr, gan gyfeirio ymholiadau at adran y wasg.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Penfro: "Yn dilyn seminar i gynghorwyr ar y gyllideb ddydd Gwener diwethaf, fe godwyd pryderon am blatfform oedd ddim yn cael ei ddarparu gan y cyngor, oedd i fod i gael barn aelodau ar arbedion posib i'r gyllideb.

"Yn sgil y pryderon a godwyd, rydym yn edrych i weld a dorrwyd unrhyw reolau yn ymwneud â diogelwch gwybodaeth."

Maen nhw bellach wedi cadarnhau na chafodd unrhyw wybodaeth bersonol neu gyfrinachol ei rannu.

Pynciau Cysylltiedig